Pecyn Gŵyl Bro: popeth sydd ei angen arnoch

Pentwr o adnoddau i’ch helpu i ddod ynghyd, dathlu a darlledu o’ch gŵyl bro chi

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Archebu pecyn
2
3
4
5
6
7
8
10
11
b4

Croeso i becyn llawn adnoddau i’ch helpu i gynnal eich Gŵyl Bro chi!

Meddwl am syniadau dathlu

Beth y gallech chi ei gynnal i ddathlu eich bro? Yn ogystal â’ch helpu i gael sgwrs syniadau gyda’ch criw, ry’n ni hefyd yn cynnig 6 syniad am thema all fod yn sbardun i’ch gweithgaredd.

  • Canllaw Dod Ynghyd: i’ch helpu i gynnal sgwrs greadigol llawn syniadau.
  • I gyd-fynd â’r canllaw, dyma ambell air o gyngor i chi sydd am hwyluso sgwrs greadigol.
  • Os nad ydych wedi crynhoi criw ar Zoom o’r blaen, dyma ambell syniad.
  • Rydym wedi paratoi syniadau ar sail 6 thema o bethau i’w dathlu (llun uchod), ond croeso i chi fod yn greadigol a threfnu digwyddiad bach / mawr / syml / uchelgeisiol o’ch dewis chi!
  • Does dim rhaid trefnu rhywbeth costus. Mae gennym syniadau ar sut i godi arian (os oes angen o gwbl!) mewn llun uchod.

Does dim rhaid dilyn y syniadau yma. O ddod â chriw bach ynghyd i drafod syniadau, fe fyddwch chi’n darganfod beth sydd orau i’ch ardal chi. Beth fyddwch chi’n ei fwynhau fwyaf? Ewch gyda hynny.

 

Dod â phobol ynghyd

Mae pethau wedi newid oherwydd Covid, ond mae llawer o bethau’n dal yn bosib. Ceisiwch feddwl yn agored ac agor y drws i bawb…

 

Rhoi gwybod i bawb am eich digwyddiad

Ry’ch chi am i bawb sy’n byw yn lleol ddod i fwynhau – felly defnyddiwch y cyfryngau mwyaf addas i hyrwyddo…

 

Brolio bro ar-lein!

Efallai mai eich bro chi yw’r un gorau yn y byd… wel mae’n rhaid i chi waeddi hynny! Dyma lu o gynghorion ar sut y gallwch ddefnyddio’r ffôn bach yn eich poced i ddarlledu a chreu cynnwys o’ch digwyddiad, a’u rhannu ar wefannau Bro360 a llefydd eraill…

  • 20 o syniadau darlledu (llun uchod) a gwahoddiad i weithdy ar 17 Awst.
  • Sut mae creu stori, digwyddiad a blog byw ar wefannau Bro360 (llun uchod).
  • Dyma restr o wahanol aps golygu fideo.
  • Eisiau dechrau podlediad? Dyma gyngor gan Aled Jones o Y Pod.
  • Mae llun da yn siŵr o dynnu sylw. Dyma gyngor ar dynnu lluniau da, gan y ffotograffydd Betsan Haf, Celf Calon.
  • Eisiau dogfennu’r cyfan mewn fideo? Dyma rai syniadau ar sut i fynd ati.
  • Os oes yn well ganddoch greu erthygl, dyma gyngor ar sgwennu a strwythuro stori, gan Dylan Iorwerth.

 

Gallwch hefyd archebu pecyn print, sy’n cynnwys sticeri, bynting ac ambell beth ychwanegol.