
Gwefannau straeon lleol gan bobol leol.
Bro360 yw cynllun Cwmni Golwg i annog cymunedau i greu a chynnal eu gwefannau straeon lleol eu hunain.
Bellach mae 8 gwefan fro yn rhan o’r rhwydwaith – BangorFelin360, BroWyddfa360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen350 yn ardal Arfon, a BroAber360, Caron360 a Clonc360 yng Ngheredigion a gogledd Sir Gâr.
Mae’n rhwydwaith o wefannau cymunedol sy’n gartref i straeon lleol, wedi’u creu gan bobol leol.
Mae’n fwy na newyddion, ac mae’n fwy na phapur bro ar-lein – mae’n ddigwyddiadau, blogiau byw, fideos, sgyrsiau – amrywiaeth o gynnwys i apelio a gwneud gwahaniaeth i’r gymdogaeth.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein cwestiynau cyffredin.
Sut mae cysylltu â ni?
- Lowri Jones – Cydlynydd Bro360 – post@bro360.cymru
- @Bro__360 ar Twitter, bro360_ ar Instagram