Pa apiau sy’n dda i olygu fideo ar y ffôn?

Rhestr o aps golygu ar gyfer iOS ac Android, a’u manteision

Guto Jones
gan Guto Jones

Erbyn hyn does ddim angen offer drud arnat er mwyn gallu creu fideo, tynnu lluniau, neu greu recordiad sain. Does hefyd ddim rhaid cysylltu â chriw ffilmio, neu ffotograffydd proffesiynol. Mae popeth sydd ei angen yn dy boced – ar dy ffôn symudol!

Mae safon camerâu ffonau symudol yn anhygoel y dyddiau hyn, a gallet olygu’r clipiau arni hefyd. Yr oll sydd angen ei wneud yw dewis pa ap wyt ti am ei ddefnyddio, ai lawrlwytho yn rhad ac am ddim.

Mae sawl tip ar sut i greu ffilm ar dy ffôn yma.

Apiau golygu ar dy ffôn

Ar ôl y gwaith ffilmio, cer ati i olygu. Dyma gasgliad o apiau syml sydd ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn golygu fideo ar dy ffôn symudol.

Mae rhai yn addas ar gyfer ffonau sy’n defnyddio system iOS (Iphone), eraill yn addas ar gyfer ffonau Android, ac ambell un yn iawn i’r ddau.

  • Imovie (iOS) – Er mwyn golygu unrhyw fath o fideo yn gyflym ar eich ffôn symudol
  • Splice (iOS ac Android) – Modd golygu fideos sydd wedi cael eu uwchlwytho ar Facebook
  • Videorama (iOS) – Defnyddiol i olygu fideo ar gyfer Instagram, ac mae modd lawrlwytho lluniau am ddim o Pixaby hefyd
  • Magisto (iOS ac Android) – Da ar gyfer golygu fideos sydd am gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol
  • inShot (iOS ac Android) – Da ar gyfer golygu fideos sydd am gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, a modd golygu lluniau ar yr ap hefyd
  • YouCut (Android) – Prif bwrpas yr ap yma yw golygu fideos yn syml, cyn eu uwchlwytho i YouTube
  • FilmoraGO (iOS ac Android) – Modd golygu fideo a rhannu’r canlyniad gydag eich ffrindiau
  • Kinemaster (iOS ac Android) – ap golygu fideo cyflawn. Creu fideos o safon uchel.

Cer ati i olygu ac i greu!

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)