Beth sy’n gwneud stori fideo dda?

Cyngor i’ch helpu i greu’r straeon lleol yna sydd *angen* eu dweud

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Mae rhai straeon yn cynnig eu hunain i gael eu creu ar fideo.

Ddim yn berchen ar gamera fideo swish, ac yn ofni nad oes gennych chi’r offer i fynd ati i ffilmio fideos effeithiol?

Does dim angen i chi boeni! Mae camera ac aps eich ffôn clyfar yn gwneud y job yn berffaith.

Sut, felly, mae mynd ati i gynhyrchu stori ar ffurf fideo? Dyma grynhoi syniadau mynychwyr a thiwtoriaid cwrs Gohebwyr Ifanc Bro360

 

Ambell beth i’w cadw mewn cof…

1. Cynulleidfa

Y gwylwyr sy’n dod gyntaf wrth i chi greu ffilm weledol, yn yr un modd â’r darllenwyr wrth sgwennu erthygl. Ystyriwch pwy yw cynulleidfa darged eich stori – eu hoedran, yr ardal, cyd-destun, ac ati. Sicrhewch bod y fideo yn siarad gyda nhw.

2. Cryno

Does dim angen llwyth o glipiau sy’n dweud neu’n dangos yr un peth. Byddwch yn gryno, a gadewch i’r lluniau wneud y gwaith.

3. Penawdau ac isdeitlau

Mae gosod penawdau ac isdeitlau bob hyn a hyn yn helpu’r gynulleidfa trwy dynnu sylw at sylwadau pwysig neu newid mewn lleoliad neu amser. Ond cofiwch gadw’r testun yn gryno!

4. Tynnwch sylw at y wybodaeth bwysig

Wrth rannu’r fideo ar wefannau Bro360, neu ar y cyfryngau cymdeithasol, sicrhewch fod yr holl wybodaeth bwysig yn cael ei rannu hefyd. Mae’n cymryd eiliadau i rywun benderfynu a yw am wylio fideo neu ddim, felly gwnewch yn siŵr bod y gennych gapshyn sy’n denu gwylwyr ac yn ennyn eu chwilfrydedd.

5. Iaith sy’n gweddu

Defnyddiwch iaith sy’n gweddu i’ch cynulleidfa, a defnyddiwch dafodiaith eich bro: nid yn unig bydd yn helpu’r gwylwyr i uniaethu â’r bobol yn y ffilm, ond mae ffilm yn gyfle perffaith i glywed sŵn iaith eich milltir sgwâr.

6. Manteisio ar ffôn symudol

Un o fanteision (neu anfanteision, yn dibynnu pa ffordd ‘da chi’n edrych arni!) pennaf ffonau symudol yw eu bod nhw gyda ni trwy’r amser. Os oes rhywbeth annisgwyl yn codi gallwn estyn at ein ffôn poced a chofnodi’r digwyddiad yn syth. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth ddal cyffro gêm chwaraeon byw – rhywbeth na fydd yn digwydd eto, neu wrth gofnodi teimladau mewn protest neu wrthdaro.

Meddyliwch am stori George Floyd yn America – tasai neb wedi tynnu eu ffôn o’u poced i ffilmio’r erchylltra, a fyddai’r byd i gyd yn credu ei fod wedi digwydd?

 

Pa stori sydd *angen* ei dweud?

Gyda pha stori, o’i gwneud hi, ydyn ni’n gallu gwella rhywbeth?

Dyna’r stori i fynd ar ei hôl.

Dydyn ni ddim o reidrwydd yn mynd at y stori gyda’r ateb, ond gyda’r cwestiwn – felly pa gwestiwn hoffech chi ymchwilio iddo?

 

Ble mae dechrau?

1. Meddwl am stori ddifyr, newydd i’w dweud. Stori sydd angen ei dweud. Efallai y byddwch yn cael ysbrydoliaeth wrth weld rhywbeth, siarad gyda rhywun, neu ddarllen sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol.

2. Meddwl am yr ongl i’w chymryd – i ba gyfeiriad ydym ni am i’r gynulleidfa edrych?

3. Meddwl am y bobol: pwy mae’r stori yma’n effeithio arnyn nhw? Oes modd siarad gyda’r bobol hynny?

4. Ble fyddwch chi’n ffilmio? Dewiswch leoliad sy’n berthnasol i’r stori, neu’n ychwanegu haen arall ati. Er enghraifft, gallai ffilmio stori am addysg o flaen drysau prifysgol roi’r cyd-destun yn y lluniau heb i neb orfod esbonio.

5. Trefnu’r manylion ymarferol – y bobol, yr offer, pryd, a phwy fydd yn ffilmio.

 

Ffilmio

1. Daliwch y ffôn yr un siap wrth ffilmio pob darn (llorweddol – neu ar ei ochr – sydd orau fel arfer).

2. Ceidiwch osgoi ffilmio mewn lle gwyntog, oherwydd bydd hi’n anodd cael gwared â sŵn y tywydd.

3. Mae’r meic ar waelod y ffôn – ceidiwch beidio ei orchuddio â’ch llaw!

3. Ffilmiwch glipiau ychwanegol i’r rhai amlwg, er enghraifft er mwyn gallu torri allan o gyfweliad i lun symudol arall.

4. Gallwch ddefnyddio tripod os hoffech gael llun mwy sefydlog, neu beidio os hoffech i’r stori ymddangos yn fwy bywiog.

5. Os yn ffilmio digwyddiad byw, ceisiwch feddwl ymlaen beth sy’n mynd i ddigwydd – e.e rhywun yn codi yn ystod seremoni cadeirio’r Eisteddfod. Mae hyn yn help i osgoi methu ffilmio unrhyw beth pwysig!

 

Golygu

Fel dywedodd Aristotle – “Mae’n rhaid i stori dda gael dechrau, canol a diwedd… ond nid o reidrwydd yn y drefn yna!”

Mae mynd trwy broses golygu yn rhoi’r cyfle i chi siapio’r stori, a rhoi trefn ar lwybr a llif y ffilm.

Weithiau, bydd gweld diwedd stori’n ffordd fwy effeithiol o dynnu’r gwylwyr i mewn, felly byddwch yn greadigol gyda’r drefn.

Gallwch ddewis a dethol y clips sydd gennych chi. Mae’n well cael gormod o glipiau i ddewis ohonynt, ond bydd dim angen defnyddio popeth.

Gallwch ddefnyddio raglenni golygu sydd eisoes ar eich cyfrifiadur, megis iMovie neu Movie Maker, neu llwyth o aps golygu fideo da, a rhad, ac gael ar eich ffôn symudol – dyma restr ohonynt.

 

Ail-wylio, a chwestiynu

Gwyliwch y fideo drwyddi, a hynny o safbwynt eich cynulleidfa darged. Yw hi’n dweud y stori’n effeithiol? Fyddai’n handi ychwanegu penawdau, isdeitlau neu gerddoriaeth?

Ac yn bwysicach, oes modd torri? Dangoswch yn hytrach na dweud, a gadewch i’r lluniau wneud y gwaith.

Gwyliwch y fideo eto, a’i siapio nes eich bod yn hapus ei bod yn dweud y stori.

 

Postio’r fideo i bawb ei gweld!

Ar ôl bodloni ar y fideo, postiwch hi ar eich gwefan fro, a chofiwch ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol.

Felly, tynnwch eich ffôn o’ch poced a rhowch gynnig ar gynhyrchu ffilm fer eich hunan!