Sut mae cynnal digwyddiad yn ddiogel?

Canllaw i gynnal digwyddiadau lleol tra bod Cymru ar ‘lefel rhybudd sero’

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gŵyl Fwyd Llanbed 2019

Y cyngor gwyddonol yw bod llai o risg i’r coronafeirws gael ei drosglwyddo yn yr awyr agored, ac mewn llefydd wedi’u hawyru’n dda.

Heddiw (6 Awst 2021) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn codi’r cyfyngiadau Covid i lefel sy’n caniatáu cynnal digwyddiadau yn y gymuned – dan do yn ogystal ag yn yr awyr agored.

Bellach, does dim cyfyngiad ar nifer y bobol all ddod ynghyd – dan do neu yn yr awyr agored.

Felly beth amdani – dechrau’n lleol a chynnal ambell ddigwyddiad i ddod â phobol ynghyd?

Dyma ambell awgrym o arfer da i’w dilyn wrth drefnu digwyddiad yn eich bro:

 

Pethau y mae angen i bawb eu gwneud:

  • Gwisgo mwgwd mewn mannau cyhoeddus.
  • Aros adre am 10 diwrnod wedi prawf Covid positif.
  • Peidio mynychu digwyddiad os oes gennych symptomau Covid.

 

Arfer da i bawb mewn digwyddiad awyr agored neu dan do:

  • Gwisgo mwgwd.
  • Defnyddio diheintydd dwylo wrth gyrraedd a gadael.
  • Peidio â llenwi ystafelloedd neu neuaddau nes eu bod yn orlawn.

 

Pethau i chi eu gwneud o flaen llaw:

  • Paratoi asesiad risg o pa gamau rhesymol sy’n cael eu cymryd gennych fel trefnydd i leihau lledaeniad y feirws, yn dibynnu ar eich gweithgaredd a’r lleoliad, a chymryd sylw o drefniadau’r lleoliad ei hun hefyd (esiamplau ar gael ar y we). Arfer da fyddai penodi un o’ch criw i fod yn ‘Swyddog Covid’.
  • Rhannu’r neges bod yn rhaid i unrhyw un â symptomau Covid beidio â mynychu.
  • Gosod digon o arwyddion i annog pawb i gymryd cyfrifoldeb dros leihau’r risg: gwisgo mwgwd a sicrhau hylendid dwylo.
  • Creu system un ffordd: pawb i gyrraedd o un cyfeiriad a gadael i gyfeiriad arall.
  • Rhoi diheintydd dwylo a thywelion papur yn y lleoliadau hynny.
  • Os bydd canllawiau Llywodraeth Cymru ar y pryd yn nodi mai hyn a hyn o bobol all ddod ynghyd, gallwch gyfyngu ar nifer y bobol trwy greu system docynnau / cofrestru o flaen llaw.

 

Pethau i chi eu gwneud ar y pryd:

  • Awyru’r lle yn dda – cadw ffenestri a drysau ar agor (heblaw am ddrysau tân)
  • Casglu manylion cyswllt pawb sy’n dod i’ch digwyddiad a’u cadw am 21 diwrnod (awyr agored a dan do)

 

Cynghorion ychwanegol 

Yr arfer gorau yw bod pawb yn cadw eu mwgwd ymlaen dan do, a’ch bod yn rhoi bwlch rhwng sesiynau rhwng un gynulleidfa a’r llall, er mwyn gallu glanhau a diheintio.

Mae’n syniad da hefyd i osod unrhyw gadeiriau 2 fedr ar wahân os yn bosib, gan osgoi cwrdd mewn llefydd bach a chyfyng.

Ni chewch holi am brawf bod pobol wedi cael eu brechu cyn eu gadael i mewn i ddigwyddiad.

 

Y prif gyngor yw hyn: cadwch lygad ar wefan Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf. Y canllawiau sydd mewn grym pan fydd eich digwyddiad yn cael ei gynnal fydd angen i chi eu dilyn.

 

Ysbrydoli eraill

Mae’n gallu bod yn anodd meddwl am syniadau am ffordd newydd i wneud pethau. Os ydych chi’n cynnal digwyddiad bach llwyddiannus gan ddilyn cyfyngiadau Covid, beth am rannu pwt am eich profiad ar eich gwefan fro?

Gallai stori fach gennych chi ysbrydoli eraill a chreu mwy o weithgarwch mewn bröydd ar draws Cymru.