Tips tynnu lluniau, gan Betsan Haf Evans

“Mae pobol yn hoffi gweld lluniau o bobol” a chynghorion eraill gan y ffotograffydd proffesiynol.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae llun da yn gallu denu pobol i mewn i ddarllen mwy…

Ond mae lluniau da hefyd yn gallu adrodd stori ar eu pen eu hunain, fel y gwelwn ni yma gydag oriel luniau o brotest cau ffatri Northwood yn Nyffryn Nantlle.

Dyma ambell air o gyngor gan Betsan – y ffotograffydd sy’n rhedeg cwmni Celf Calon – ar sut i dynnu lluniau da wrth adrodd stori…

Tynnu llun i gyd-fynd â stori newyddion

  • Mae’n bwysig bod y llun yn gwneud synnwyr gyda phwnc y stori – y llun a’r pennawd fydd yn gwerthu eich stori.
  • Mae pobol yn hoffi gweld lluniau o bobol! Mae hynny wedyn yn denu mwy o bobol i ddarllen eich stori.
  • Os yw’r stori’n ymwneud â phobol yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, gorau i gyd os oes modd cael llun gweddol agos o ambell berson yn gwneud y gweithgaredd hwnnw.
  • Does dim rhaid i ganolbwynt y llun fod yn y canol – weithiau mae’n fwy difyr rhoi’r person yn nes at ochr y llun er mwyn cael lle i ddangos y cyd-destun ehangach neu gefndir arbennig.
  • Gwell osgoi defnyddio llun du a gwyn ar gyfer stori newyddion cyfoes – maen nhw’n fwy addas ar gyfer lluniau ‘arty’! Cofiwch mai pwrpas llun newyddion yw gwerthu’r stori a denu pobol i’w darllen.
  • Mae modd paratoi i gymryd lluniau penodol heb wybod beth yn union sydd am ddigwydd, e.e. mewn eisteddfod, byddwch yn gwybod (wel – yn gobeithio!) bod rhywun am godi yn ystod seremoni gadeirio, felly gallwch edrych at y dorf yn barod i gymryd y llun cyntaf o’r buddugwr!

Paratoi cyn mynd i dynnu lluniau

Os ydych chi’n mynd i ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu, neu’n gwybod eich bod am dynnu lluniau o bobol i gyd-fynd â chyfweliad, er enghraifft, dyma ambell air o gyngor:

  • Meddyliwch pa fath o lun sydd ei angen cyn mynd, gan gofio y bydd angen i chi weithio gyda beth sydd ar gael ar y diwrnod.
  • Mae’n well tynnu gormod o luniau na dim digon. Gallwch ddewis cyhoeddi’r goreuon.
  • Os am greu portffolio difyr o luniau gyda chriw o bobol (e.e. band), beth am ddilyn y rheol o dynnu 3 set o 3 llun? 3 senario gwahanol, 3 ‘pose’ gwahanol, 3 ongl wahanol.

Cynghorion ychwanegol

  • Mae’r camerâu sydd ar ffonau yn fan cychwyn da i arbrofi a datblygu diddordeb, a mireinio sgiliau cyfansoddiad lluniau a’u golygu, ac yn ddigon da ar gyfer tynnu lluniau i’w cyhoeddi ar sgrin. Gwnewch yn siŵr eich bod yn seto’r camera ar eich ffôn i’r safon orau bosib.
  • Dwy fantais o ddefnyddio offer proffesiynol yw gallu cymryd lluniau mewn gwahanol fathau o olau, a bydd safon y lluniau llawer yn uwch, ac felly maent yn fwy hyblyg i’w golygu.
  • Er mwyn i’ch llun allu cael ei ddefnyddio fel stori ar wefan fro, mae’n well ei gael yn llorweddol (landscape).
  • Byddwch yn ofalus wrth drosglwyddo lluniau – trwy eu hanfon at rywun arall ar Messenger neu Whatsapp, bydd y platfform yn compresso’r llun sy’n golygu bydd y safon yn dirywio tipyn. Gwell cyhoeddi’r llun gwreiddiol bob tro a’i anfon trwy ebost neu WeTransfer (yn dibynnu ar y maint) a byth cymryd sgrîn-lun wedyn cyhoeddi’r llun!
  • Os ydych am i’ch llun allu cael ei ddefnyddio ar gyfryngau eraill, e.e. print, neu fel posts Instagram, gadewch ychydig o wagle o gwmpas prif ffocws y llun, a pheidiwch â chropio’r llun! Bydd dylunwyr yn hapusach gyda’ch gwaith ffotograffiaeth ac yn gwneud eu job nhw’n fwy pleserus.
  • Does dim rhaid cael caniatâd i dynnu llun ar dir cyhoeddus. Os ydych mewn digwyddiad, mae’n syniad holi’r trefnwyr a ydynt yn hapus i chi fod yno’n cofnodi trwy luniau, a holi iddynt wneud cyhoeddiad ar y dechrau eich bod chi yno i dynnu lluniau ar ran eich gwefan fro, ac y dylai unrhyw un roi gwybod os na hoffent fod yn y lluniau. Ac os oes person ddim eisiau ei lun wedi’i gymryd, bydd yn rhaid parchu hynny.

Dyma ragor o gyngor ar ddefnyddio lluniau ar wefan fro.