Sut mae hwyluso sgwrs greadigol?

Y ffordd orau o annog syniadau creadigol yw trwy holi cwestiynau mewn ffordd greadigol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gweithdy ‘Dod Ynghyd’ gyda CFfI Cymru

Mae sawl ffordd o arwain neu hwyluso sgwrs gyda chriw o bobol. Un ffordd yw ‘cadeirio’ cyfarfod gan ddilyn agenda, ffordd arall yw hwyluso gweithdy neu sgwrs fwy agored.

Y ffordd orau o annog y criw i feddwl am syniadau creadigol yw trwy holi cwestiynau sy’n eu hannog i feddwl yn greadigol.

P’un ai ydych am drafod syniadau am weithgareddau i’ch clwb, yn dod ynghyd i drefnu gweithgaredd newydd sbon, neu’n trafod syniadau am straeon i’ch gwefan fro, gall holi da helpu pawb i feddwl am bethau mewn ffordd wahanol.

Mae croeso i chi ddilyn canllaw Dod Ynghyd, sy’n cynnig set o gwestiynau defnyddiol i’w trafod wrth gynllunio gweithgareddau yn ein cymunedau.

Dyma ambell air o gyngor i chi wrth hwyluso sgwrs greadigol fel hon:

1. Does dim atebion cywir nac anghywir.

Fel hwylusydd, eich rôl yw codi’r cwestiynau ac annog gweddill y criw i ymateb. Gorau oll os gallwch wrthsefyll y temtasiwn i gytuno neu anghytuno ag unrhyw syniad.

2. Peidiwch ag ofni tawelwch.

Yn lle cynnig ateb neu symud ymlaen yn sydyn, meddyliwch am ffyrdd eraill o holi’r cwestiwn, er mwyn rhoi mwy o amser i bawb feddwl.

3. Annog y rhai distaw.

Ceisiwch annog pawb i gymryd rhan wrth i’r sgwrs fynd yn ei blaen. Bydd rhai yn rhy swil i fod gyda’r cyntaf i ateb, ond bydd eu syniadau llawn mor ddilys â’r gweddill.

4. Mynd ar drywydd y pethau difyr.

Os yw cwestiwn yn ennyn ateb annisgwyl neu ddiddorol, holwch fwy. Peidiwch ag ofni mynd oddi ar y llwybr cychwynnol a mynd ar drywydd sgwarnog.

5. Mae’r broses llawn mor bwysig â’r canlyniad.

Peidiwch â phoeni os na ddaw ‘canlyniadau’ neu ‘bwyntiau gweithredu’ clir ar ôl y sgwrs gyntaf – fe ddaw’r rheiny. Mae’r sgwrs yn ei hun yn werthfawr am ei bod yn annog pawb i feddwl o’r newydd.

6. Hiwmor!

Os ydych chi’n joio wrth arwain, bydd eich criw yn joio wrth gyfranogi.

Sut ydych chi’n mynd ati i gynnal sgwrs greadigol? Rhannwch eich cynghorion yn y sylwadau isod!

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)