Ffyrdd o gynnwys pawb yn ein gweithgareddau

Pethau i’r hystyried er mwyn gallu cynnwys pawb yn ein gweithgareddau lleol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Weithiau mae rhwystrau sy’n golygu bod pobl yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu perthyn i rai mudiadau, cymdeithasau neu gymunedau.

Wrth geisio cael gwared ar y rhwystrau, gallwn holi ambell gwestiwn i’n hunain a’u trafod, gan feddwl yw hyn yn rhwystr, oes angen newid rhywbeth, a sut.

  • Sut ydyn ni’n cael ein gweld gan bobl o’r tu fas?
  • Oes rhwystrau cymdeithasol i rai pobl allu ymuno? Efallai nad ydynt yn deall y mudiad a’i nod a’i natur, er enghraifft
  • Oes rhwystrau ariannol gwirioneddol i bobl fod yn rhan o’r gweithgarwch?
  • Wrth hyrwyddo, ydyn ni’n gwneud hynny y tu hwnt i’n cylchoedd ni ein hunain ac mewn dulliau amrywiol?
  • Ydyn ni i gyd yn cyflwyno ein hunain ar ddechrau ‘cyfarfodydd’? Fyddai hyn yn arfer da sydd angen i ni ddechrau ei ddilyn?
  • Ydy’r lleoliad yn fan hygyrch a chroesawgar i bawb?

Gallai rhai deimlo na allant ymuno oherwydd rhwystrau penodol neu gorfforol. Mae’n bwysig adnabod yr anghenion a’r atebion, a gwneud trefniadau ar gyfer pobl nad ydym efallai’n gwybod beth yw eu hanghenion. Mae hefyd yn werth hyrwyddo’r ffaith bod camau wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r ystyriaethau hyn.

Ar gyfer pobl fyddar neu rannol fyddar:

  • Lleihau sŵn cefndir
  • Ei gwneud hi’n hawdd iddynt aros yn agos i’r sain/siaradwr i allu darllen gwefusau
  • Peidio siarad yn rhy glou
  • Holi’n hunain: yw pawb wedi cael cyfle i gyfranogi yn y sgwrs?

Ar gyfer pobl ddall neu rannol ddall:

  • Yw trafnidiaeth yn broblem o ran cyrraedd ein gweithgarwch?
  • 
A oes rhwystr i rywun sy’n ddall i gyfranogi, a sut mae goresgyn hynny?
  • 
Oes dulliau cyfathrebu gweledol yn cael eu defnyddio? Oes modd dod o hyd i ffordd wahanol o wneud hyn?

Ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn:

  • A oes rhwystrau o ran cyrraedd y lleoliad?
  • Yw’r lleoliad ei hun yn addas i bawb?
  • Yw’r wybodaeth am y cyfleusterau wedi’i chyfathrebu’n glir?

Mwy o wybodaeth.

 

Dod Ynghyd

Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.

Ffyrdd o gynnwys pawb yn ein gweithgareddau

Lowri Jones

Pethau i’r hystyried er mwyn gallu cynnwys pawb yn ein gweithgareddau lleol

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)