Hoffi, rhannu a chreu er lles ein broydd – tips cyfryngau cymdeithasol

Sut gallwn ni fanteisio ar Twitter, Instagram a Facebook i wneud gwahaniaeth yn lleol?

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Pan holwyd “faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar gyfryngau cymdeithasol?” i griw o Geredigion ac Arfon ddaeth i sesiwn (ddigidol) i rannu tips ar 6 Mai, ateb bron pawb oedd “bob dydd”. Atebodd dau eu bod ar gyfryngau cymdeithasol “bron bob 10 munud”!

Mae hynny’n rhoi darlun o ba mor bwysig yw hi bod gwefannau bro, cymunedau a’r Gymraeg yn manteisio ar gyfryngau fel Instagram, Facebook a Twitter i rannu, creu a chyrraedd y gynulleidfa.

Roedd tair rhan i’r sesiwn:

  • rhannu posibiliadau ar sut gall y criwiau lleol ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi hwb i’w gwefan fro;
  • syniadau am wneud defnydd creadigol o gyfryngau cymdeithasol, i rannu pethau sy’n bwysig yn lleol;
  • rhannu tips a chyngor ar sut i wneud y defnydd gorau o’r tri chyfrwng.

Ar ôl y sesiwn, roedd pawb yn hapus i fwrw ati i arbrofi, a chymryd rheolaeth o gyfryngau cymdeithasol eu gwefan fro er mwyn gwneud lles yn lleol. Dyma grynhoi’r syniadau…

Y wefan fro a’r cyfryngau cymdeithasol

Mae sawl ffordd o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ategu ac atgyfnerthu eich gwefan fro:

  • Rhannu straeon y gwefannau bro ar dudalen Facebook a chyfrif Twitter y wefan fro, gan dagio pobol/mudiadau perthnasol.
  • Ailrannu straeon gyda’r nos, ac mewn grwpiau Facebook perthnasol.
  • Annog pobol leol i dagio eich gwefan fro mewn negeseuon lleol ar Facebook, Twitter neu Instagram, er mwyn i chi allu eu rhannu â chynulleidfa ehangach. Mae hyn yn arbennig o effeithiol ar gyfer rhannu fideos.
  • Hoffi trydariadau Cymraeg sy’n sôn am bethau difyr yn lleol, er mwyn iddynt ymddangos yn ffrwd Diweddaraf eich gwefan fro. 
  • Dilyn a gwahodd eraill i ddilyn y cyfrifon.

 

Creu cynnwys lleol ar y cyfryngau newydd

Does dim rhaid i’r holl gynnwys lleol fyw ar y ‘wefan’ fro. Beth am greu cynnwys ar Instagram yn unig? Gall fod yn ffordd wych o ennyn mwy o bobol i gyfranogi’n hawdd.

  • Her #pobolbro ar Instagram, lle gallwch roi sylw ar bobl sy’n adnabyddus ar lawr gwlad, na fyddai’n cael sylw fel arall. Holwch am lun a hanes byr gan unigolyn a’i rannu fel post Instagram (mae lluniau du a gwyn yn edrych yn cŵl) ac anogwch y person hynny i enwebu’r nesa, ac yn y blaen…
  • Heriau Insta-stori fel creu cerdyn #BingoCofi, er mwyn annog pobol i roi cylch o gwmpas popeth maen nhw wedi’i wneud yn lleol a’i rannu.
  • Creu templed ‘hoff fusnesau lleol’ ar Insta-stori, lle gall pobol ei rannu a llenwi’r bylchau trwy dagio eu hoff gwmnïau lleol.
  • Cynnal her timau chwaraeon trwy annog cefnogwyr clybiau lleol i enwi eu hoff chwaraewyr ym mhob safle a phasio’r her ymlaen.
  • Cynnal pleidlais ar Twitter, Facebook neu Insta-stori, ee i bobol bleidleisio am eu hoff straeon, geiriau tafodieithol, hoff lun o’r fro… unrhyw beth difyr!

  

Tips cyffredinol – Facebook

  • Mae modd gwahodd pobol sydd wedi hoffi post eich tudalen ar Facebook i hoffi’r dudalen, drwy fynd i’r post, clicio ar bwy sydd wedi hoffi’r post a phwyso ‘Gwahodd’.
  • Wrth gyhoeddi fideos yn uniongyrchol ar dudalen Facebook, bydd llawer mwy yn eu gweld na tasech yn rhannu dolen i stori sy’n cynnwys fideo, neu ddolen i YouTube.
  • Os ydych yn rhannu URL ar Facebook (ee stori o’ch gwefan fro) mae’n bosib tynnu’r ddolen er mwyn gwella delwedd y post. Bydd y stori’n ymddangos gyda’r llun, ond heb y ddolen las uwchben. Mae hyn hefyd yn bosib wrth amserlenni post.
  • Cliciwch ar ddyddiad post Facebook os hoffech gael URL i rannu’r post yn rhywle arall (ee yn ffrwd Diweddaraf eich gwefan fro, neu mewn stori)
  • Os ydych yn rhannu fideo ar Facebook, gallwch greu ‘watch party’ er mwyn gwahodd eraill i wylio’r fideo yr un pryd â chi. Gall pawb gyfrannu sylwadau’n fyw i’r hyn rydych yn ei weld. Mae bron fel bod yn yr un stafell o flaen yr un sgrîn… bron!
  • Os am ddarlledu fideo fyw ar Facebook Live, sicrhewch eich bod yn darlledu o dudalen gyhoeddus (os ydych am i bawb allu ei weld)

Tips cyffredinol – Instagram

  • Mae modd dilyn hashnod ar Instagram, yn ogystal â dilyn cyfrifon. Ar ôl chwilio am hashnod neu glicio arno, byddwch yn cael y dewis o’i ddilyn. Bydd y lluniau sy’n cael eu cyhoeddi gyda’r hashnod hynny’n ymddangos yn eich ffrwd
  • Mae’n bosib tagio pobol yn eich stori, heb sbwylio’r ddelwedd. Ar ôl ei @io nhw yn y stori, gallwch wneud yr enw’n llai a gwthio’r handl allan o’r sgrin. Bydd y cyfrif yn dal i gael hysbysiad ei fod wedi’i dagio.
  • Ar Insta-stori gallwch godi lliw o’r ddelwedd a’i gopïo’n union yn eich testun trwy ddefnyddio’r pipette.
  • Oeddech chi’n gwybod bod modd i chi weld eich hen Insta-storis? Dydyn nhw ddim yn diflannu i chi ar ôl 24 awr! Pwysywch ar y byrgyr ar eich cyfrif Insta, a mynd i’ch archif.

Tips cyffredinol – Twitter

  • Mae Tweetdeck yn lle da i ddarganfod straeon i’w hoffi ar Twitter – jest mewngofnodwch gan ddefnyddio’r cyfrif Twitter. Mae modd creu rhestrau pobol leol, neu hidlo fesul lleoliad neu eiriau i ddarganfod be sy’n digwydd. Mae hyn yn gallu safio cryn dipyn o amser i chi!
  • Ar Twitter, mae modd cymryd mantais o #yagym, hashnod sydd yn rhoi sylw i bethau Cymraeg, ac yn cael ei ddefnyddio i hysbysebu cynlluniau a busnesau.

Un tip olaf (am nawr):

  • Yr amser gorau i bostio pethau ar gyfryngau cymdeithasol yw tua 7 i 9pm yn ystod yr wythnos, ac ar bnawn dydd Sul. Dyna pryd mae’r rhan fwyaf o bobol yn treulio amser yn sgrolio’r cyfryngau cymdeithasol. 

Mae llawer mwy o tips a gasglwyd gan dîm Bro360 fan hyn – o sut mae symud ffeiliau mawr o un teclyn i’r llall, i sut mae defnyddio tripod i recordio ar y ffôn.