Sut mae cyfrannu at ffrwd ‘diweddaraf’ y wefan fro

Mae ffrwd newydd sbon ar dy wefan fro – lle i gyfrannu straeon cryno!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Oes gen ti rywbeth bach i’w rannu am dy fro?

Gall pawb sydd wedi creu cyfri ar eu gwefan fro gyfrannu at y ffrwd yma o straeon cryno, ac mae’n syml:

  1. Mynd i’r wefan fro (ee BroAber360.cymru)
  2. Creu cyfri trwy bwyso’r botwm ‘Ymuno’ a nodi dy enw Facebook / Twitter / ebost
  3. Mynd i’r tab ‘Diweddaraf’ o’r hafan
  4. Pwyso’r botwm ‘Ychwanegu’
  5. Sgwennu pennawd dy stori gryno
  6. Sgwennu mwy yn y blwch, neu gopïo linc i bost Facebook, Instagram neu Twitter
  7. Pwyso’r botwm glas i gyhoeddi, neu i gyflwyno’r pwt i un o’r tîm golygyddol gael cyhoeddi

Mae ’na ffordd arall o ychwanegu at y ffrwd, sef trwy @io cyfri Twitter dy wefan fro, a’u bod nhw’n hoffi’r trydariad!

Bach o gyngor!

  • Paid ag aros – os oes rhywbeth i’w rannu, rhanna fe nawr/rŵan!
  • Ceisia osgoi rhoi emoji yn y pennawd – ni fydd yn ymddangos ar bob sgrîn
  • Os oes ‘da ti FWY i’w ddweud, beth am greu stori i’r wefan, sy’n cynnwys lluniau neu fideos hefyd? 

Enghreifftiau o straeon cryno

Beth am rannu pethau fel hyn?

  • cyfarchiad i ddathlu pen-blwydd priodas neu enedigaeth
  • diweddariadau traffig
  • newyddion brys o’r fro
  • posts Facebook neu Twitter difyr gan fudiadau a phobol leol

Sut mae rhannu post o Facebook?

I gael yr URL o’r post Facebook, dde clicia (y botwm Control ar mac) ar fanylion amser y post, agor y ddolen mewn tab newydd, a chopïo o’r fan honno. Ond cofiwch – rhaid i’r post fod wedi’i rannu’n ‘gyhoeddus’ yn y lle cynta.