Sut mae darlledu ar Facebook Live?

Cyngor i bawb sydd am ddarlledu gwersi, myfyrdodau, gigs ac ati’n fyw i gynulleidfa adre

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Eisiau cynnal gwers glocsio ar-lein, neu ddarlledu gig o’r atig a chlywed (darllen!) ymateb y gynulleidfa? Neu beth am ddarlledu myfyrdod neu ran o bregeth o’r eglwys?

Rho gynnig ar ddarlledu a chyrraedd y gynulleidfa adre – rwyt ti’n siŵr o ddenu llu o bobol sy’n eistedd adre’n pori trwy’r sgrîn yn ystod y cyfnod yma!

Y tri pheth pwysicaf yw:

  1. Creu tudalen Facebook cyhoeddus
  2. Gwneud yn siŵr bod y fideo yn gyhoeddus
  3. Peidio newid ongl y camera ar ôl dechrau!

Dyma sut i fynd ati, gam wrth gam, ar eich ffôn neu lechen:

1. Rhowch eich ffôn ar wifi yn hytrach na 4G, os oes modd

2. Gosodwch y ffôn ar tripod bach, gyda’r prif gamera (ar gefn y ffôn) yn eich wynebu

*Mae’r camera yma fel arfer yn well ansawdd na’r camera hunlun ar y blaen. Ond mae’n well dewis y camera hunlun or wyt ti am weld y sylwadau i’r fideo dy hunan.

3. Profwch yr hyn ry’ch chi ei weld yn y sgrîn yn gynta, trwy greu Facebook Live byr o flaen llaw. Mae hyn yn ffordd dda o weld beth mae pawb yn ei weld yn y sgrîn, ydyn nhw gallu clywed, ac i wirio bod y darllediad ddim wedi tipio i’r ochr!

4. Cynlluniwch yn fras be’ chi am ei wneud

5. Agorwch ap Facebook > dewis tudalen i ddarlledu ohono > pwyso Go Live > gwirio eich bod yn dewis To: Public ar y gornel dop > sgwennu disgrifiad bach syml > tagio pobol (dewisol) > pwyso’r pin i ddewis lleoliad (dewisol)

6. Cyn pwyso’r botwm ‘start live video’, gwnewch yn siŵr bod y ffôn yn defnyddio’r camera iawn ac yn wynebu’r ffordd iawn – bydd dim modd troi’r camera 90 gradd ar ôl dechrau!

7. Gofynnwch i rywun arall eich helpu i ‘rhannu’ y fideo mewn grwpiau Facebook

8. Os hoffech wahodd sylwadau (mae’n beth da i gynnwys pobol sy’n gwylio!), gallwch ofyn i rywun arall edrych ar y sgrîn tra’ch bod chi o flaen y camera

9. Ar ôl gorffen pwyswch ‘stop broadcast’ ac yna gallwch ddewis a ydych am gadw’r fideo a’i postio ‘share’. Bydd hyn yn golygu y bydd modd i bawb na lwyddodd i wylio’n fyw, ei wylio eto.

Llongyfarchiadau! Rhowch wbod sut mae’n mynd, ac a oes gennych gyngor i eraill.