Bach o sbort gyda’n clybiau chwaraeon

Mae’r coronafeirws di taro ein clybiau chwaraeon yn drom, felly buodd rhai ffans yn edrych yn nôl…

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Wrth i’r coronafeirws chwalu pob cynllun oedd yn cydio yn ystod hanner cynta’ 2020, roedd clybiau a mudiadau o bob math yn teimlo’r effaith, ac yn canslo digwyddiadau.

Un elfen bwysig o’n cymunedau sy di teimlo’r effaith di’r clybiau chwaraeon. Fwy na thebyg, bydd gan bron pob un ohonoch gysylltiad â’ch clwb lleol. Efallai da chi’n gynchwaraewr, neu’n treulio pob dydd Sadwrn ar yr ystlys, ym mhob math o dywydd. Neu efallai bod eich plant wedi codi trwy rengoedd academi’r clwb ac yn dysgu am werthoedd cydweithio, tegwch a rheolau drwy fyd y campau. Yn fwy na sgiliau a ffitrwydd, mae’r clybiau yma’n cyfrannu at ddysgu’r genhedlaeth nesa sut i fod yn aelodau da o gymdeithas.

Bydd pob clwb yn methu allan ar incwm. Bydd pob cefnogwr yn methu allan ar goliau, ceisiau, eiliadau hanesyddol fyddai’n cael ei hailadrodd mewn caffis a thafarndai, tacsis a threnau.

A gan fod hi’n eitha job edrych ymlaen llawer ar hyn o’r bryd, beth am edrych am yn nôl?

Dyma’r her a roddodd BroAber360 i gefnogwyr brwd ein timau chwaraeon lleol. Eu tasg oedd meddwl nôl trwy’r tymhorau (rhai’n fwy llwyddiannus nag eraill yn hanes y clwb!) a dewis eu hoff chwaraewyr erioed.

Roedd y rheolau’n syml. I glybiau pêl-droed, un chwaraewr i’r pedwar safle allweddol. Yn anffodus, methodd rhai allan (gydag un chwaraewr yn enwedig yn anlwcus i chwarae hanner ei yrfa yng nghanol y cae a hanner fel ymosodwr!). I glybiau rygbi, roedd angen ffurfio ffug-dîm 7 bob-ochr. Llai o lefydd yn y tîm, mwy o ddadlau am y goreuon, ond ar ôl sgwrsio a ffraeo, chydweithio a chyfaddawdu, dyma’r canlyniadau. Ac yn y bôn, dyna chi beth yw chwaraeon hefyd.

Y goreuon wedi’u crynhoi

Tîm Ffantasi Hanesyddol CPD Tref Aberystwyth:

Gôl: Terry McCormick

Amddiffynnwr: Freddie Thomas

Midffîld: Chris Venables

Ymosodwr: Glyndwr ‘Paddy’ Hughes

Hyfforddwr: Brian Coyne

Cefnogwr: Thomas Crockett

 

Tîm Ffantasi Hanesyddol CPD Bow Street:

Gôl: Oliver Fairbrother

Amddiffynnwr: James Scarrott

Midffîld: Peter James

Ymosodwr: Gerwyn Evans

Hyfforddwr: Barry Williams

Cefnogwr: Dale

 

Tîm Ffantasi Hanesyddol Clwb Rygbi Aberystwyth:

Maswr: Gareth Roberts

Mewnwr: Gruff Jones

Olwr: Darren Hathaway

Rheng ôl: Eifion Gwynne

Clo: Arwel Lloyd

Rheng flaen: Prys Lewis

Cefnogwr: Roger