Casglu storis pobol go-iawn-a-gram

BroAber360 yn defnyddio pŵer Instagram i roi sylw i #PobolBro gogledd Ceredigion

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Un gyfryngau cymdeithasol mwya deniadol y dydd yw Instagram. Gyda dros biliwn o bobol yn defnyddio’r safle bob mis, mae’n ail yn unig i Facebook o ran poblogrwydd.

Felly, ry’n ni’n falch o gyhoeddi bod cyfrif Instagram newydd sbon @BroAber360 yn fyw! Wrth feddwl beth fyddai’n ffordd orau o arbrofi gyda’r cyfrif a manteisio ar rinweddau ac apêl Instagram i bobol sy am weld a rhannu lluniau, meddylion ni yn Bro360 bod hwn yn gyfle i neud rhywbeth wirioneddol wahanol i bob cyfrwng arall.

Gyda hynny, dechreuon ni arbrofi a chreu cyfres #PobolBro.

Pwrpas yr ymgyrch yw rhoi sylw i’r pobol ry’n ni’n gweld eu bob dydd yn crwydro o gwmpas y fro, ond efallai nad ydym yn gwybod eu hanes. Mae’n gyfle i ddysgu mwy am asset mwya’ ein bro, sef y bobol sy’n ei chreu. Gall darllen am hanes un o’n cydgymdogion ein helpu i ddysgu mwy am ein hunain a’n cymdeithas a’n hymdeimlad o berthyn i’r un man.

Gweld y wên

Y peth cyntaf sy’n dal eich llygad am yr ymgyrch di’r estheteg. Mae pob llun wedi’i olygu gyda’r un ffilter du a gwyn, a’i addasu i ddangos y cysgodion yn gryfach. Ar Instagram, yn ddi-ffael, y llun sy’n eith tynnu i mewn i’r stori…

Ond y peth sy’n gwneud i’r ymgyrch weithio yw’r bobol. Pobol leol – o wahanol gefndiroedd a diddordebau – sy’n cyfrannu llun a phwt bach o’u hanes i’w rannu â chi.

Hyd yn hyn mae cyfres #PobolBro gogledd Ceredigon wedi dathlu’r gerddoriaeth a’r steil sy’n nodweddu’r amryddawn Sue Jones-Davies, wedi bod yn ffordd i gael cip ar du fewn i feddwl cynhwysol pennaeth Arad Goch, Jeremy Turner, ac wedi cynnig dihangfa i’r goedwig gyda Rhodri Nwdls, i enwi ond rhai.

 

#PobolBro a mwy o bosibiliadau

Nos Fercher 6 Mai bydd y cyfrif yn cael ei basio ymlaen i dîm cyfryngau cymdeithasol BroAber360 – er mwyn i’r criw lleol barhau, addasu neu daflu’r syniad i’r bin, a chreu rhywbeth eu hunain!

Os oes ’da chi diddordeb mewn bod yn rhan o’r criw sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i greu pethau newydd a chyffrous – yn ardal gogledd Ceredigion neu ardal Llanbed (clonc360), Dyffryn Nantlle, Caernarfon, Dyffryn Ogwen neu fro Wyddfa, rhowch floedd!

Efallai’n wir y gwelwn y cyfrifon lleol i gyd yn datblygu i gynnwys heriau Instagram eraill, fel y Bingo Cofi a gafodd ei chreu gan Caernarfon360 yn ddiweddar.

Fel man cychwyn, mae wedi bod yn ymgyrch ddiddorol tu hwnt i’w harwain, ac yn ffordd wych o ddod i ’nabod rhai o gymeriadau’r fro’n well.

Felly pwy yw’r person nesa’ sy’n haeddu sylw yn rhan o #PobolBro? Os oes gen ti gymydog sydd â hanes difyr, cysyllta. Gyda’n gilydd gallwn ddathlu’r amrywiaeth i bobol sy’n cyfoethogi ein cymunedau.