*Cyhoeddiad* Criw dre’ wedi creu Caernarfon360 mewn un noson!

Caernarfon360 yw enw gwefan fro newydd sbon pobol dre’

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Be ’da chi’n gallu ei wneud mewn awr a hanner?

Chwarae gêm o rygbi?

Coginio cinio dydd Sul?

Creu gwefan straeon lleol?

Wel, fe lwyddodd criw brwd o Gaernarfon i wneud yr olaf o’r rhain neithiwr, mewn noson llawn bwrlwm a hwyl yn Galeri.

Yn sesiwn Creu gyda’r Cofis, a gafodd ei threfnu gan Bro360, cafodd congl fawr o gaffi Galeri ei llenwi â chynrychiolwyr mudiadau amrywiol yn dre’ – o’r Clwb Camera i’r Clwb Golff i’r capeli lleol.

Roedd pawb wedi dod yno am un rheswm, sef i gyd-greu gwefan straeon lleol newydd i Gaernarfon. Lle ar y we y bobol leol i rannu unrhyw beth sy’n bwysig am eu bro.

Gosodwyd yr her i gyd-greu’r wefan mewn awr a hanner…

A llwyddodd y criw!

Caernarfon360 amdani

Dewiswyd enw i’r gwasanaeth digidol newydd – Caernarfon360 – ac ar ôl cryn drafod dewiswyd eicon i’r wefan hefyd. Pa un o’r rhain da chi’n meddwl aeth â hi?

Porth yr Aur / Castell / Angor / Gwylan?!

Cewch weld yn fuan iawn!

Crëwyd llwyth o syniadau am straeon newydd hefyd, oedd yn amlygu’r amrywiaeth o straeon a chyfryngau digidol sydd ar gael. Edrychwn ymlaen yn arbennig i glywed y podcast golff newydd gan griw’r clwb! ?

Straeon lleol sydyn

Dangoswyd y gwerth y gall y bartneriaeth â golwg360 ei roi i’r prosiect hefyd, wrth i Lleu Bleddyn gyhoeddi 3 stori newyddion y buodd yn gohebu arnynt yn ystod y dydd: Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon, cogydd disglair yr ŵyl fwyd, a Gwobrwyo Stryd y Plas.

Diolch i Gethin Griffiths, Sôn am Sîn, am baratoi darn bach sy’n rhoi blas o be sy’n bosib ar wefan fro Caernarfon. Edrychwn ymlaen i gyhoeddi podlediad o’r sesiwn yma ar ddegawd mewn cerddoriaeth ar Caernarfon360 yn fuan!

Y wefan yn fyw

Mae datblygwr meddalwedd cwmni Golwg eisoes ar waith yn rhoi’r wefan newydd yn fyw ar-lein, ac o fewn pythefnos bydd croeso i bobol Caernarfon ymuno â ni am sesiwn i ddangos sut mae creu cyfrif i ymuno â’ch gwefan, ac i ddangos sut i gyfrannu eich stori gynta.

Ymunwch â ni – caffi Galeri, 5.30pm ar nos Iau 19 Mawrth. A dewch â ffrind a’ch ffôn bach / gliniadur gyda chi!