Cogydd disglair yn arwain cinio elusennol yr Ŵyl Fwyd

*Enghraifft o stori’r Cofi* Aiyeesha Barron-Clarke fydd prif gogydd cinio gala Gŵyl Fwyd Caernarfon.

Lleu Bleddyn
gan Lleu Bleddyn

Aiyeesha Barron-Clarke – Llun Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Aiyeesha Barron-Clarke, sy’n enedigol o Fangor, fydd prif gogydd cinio gala i godi arian i Ŵyl Fwyd Caernarfon eleni.

Ar hyn o bryd mae’r cogydd ifanc yn gweithio fel Chef de Partie ym mwyty Catch 22 yn y Fali, lle mae’n cydweithio â’r cogydd Neil Davies.

Bydd Neil Davies yn ymuno ag Aiyeesha Barron-Clarke ar gyfer y digwyddiad, a bydd 10 o fyfyrwyr arlwyo blwyddyn olaf Coleg Llandrillo Menai hefyd yn gweithio iddi.

Dechreuodd siwrne arlwyo Aiyeesha Barron-Clarke pan oedd hi’n 20 oed ac yn magu ei phlant Aiden a Violet.

Eglurodd mai ei phlant yw ei hysbrydoliaeth fwyaf mewn bywyd, a’i bod hi’n awyddus i ddangos iddyn nhw bod unrhyw beth yn bosibl.

“Tra’n byw gyda’m dau o blant, mi ges i fy mherswadio gan weithiwr cefnogi i fynd ar gwrs ‘Dewch i Goginio’, wedi ei drefnu gan Dechrau’n Deg.”

Ar ôl cwblhau’r cwrs mi ymunodd gydag Academi Cogyddion yr Oystercatcher yn Sir Fôn, sydd wedi’i sefydlu yn arbennig ar gyfer pobl o gefndiroedd difreintiedig.

“Mi oedd yn gyfle anhygoel ac mi roddodd yr hyder i mi fynd amdani.  Dwyt ti ddim yn clywed am gynlluniau fel hyn yn aml, ac fe newidiodd fy mywyd i.”

Ar ôl hynny, aeth Aiyeesha ymlaen i weithio mewn amryw o fwytai lleol, a bellach mae’n gweithio mewn bwyty teuluol newydd yn y Fali.

“Dwi’n awyddus iawn i ddefnyddio bwyd lleol, mae’r fwydlen ar gyfer cinio elusennol yr Ŵyl Fwyd yn cynnwys y cynnyrch Cymreig gorau gan gynnwys cig mochyn Oinc Oinc a thryffls gan gwmni o Frynbuga yn Sir Fynwy.

“Mi fydd gen i hefyd gregyn gleision o’r Fenai, madarch Eryri Cynan a kefir lleol ar y fwydlen.”

Bwydlen lawn y noson:

Posted by Gwyl Fwyd Caernarfon on Tuesday, 3 March 2020

 

Bydd y cinio elusennol yn cael ei gynnal yng Ngholeg Menai, hen safle Ysgol Friars, am 7pm ar 11 Mawrth.

Mae tocynnau yn £25 y pen ac ar gael o wefan Gŵyl Fwyd Caernarfon neu siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)