“Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon”

*Enghraifft o stori’r Cofi* Pedair ysgol yn cydweithio i gyfansoddi cân gyda Elidyr Glyn.

Lleu Bleddyn
gan Lleu Bleddyn

Y disgyblion yn cydganu gyda Elidyr Glyn – Llun Ysgol y Gelli

Dros yr wythnosau diwethaf mae pedair ysgol gynradd yn ardal Caernarfon wedi bod yn cydweithio am y tro cyntaf.

Mae’r gân ‘Castell Ni’ wedi’i chyfansoddi ar y cyd gan y cerddor lleol Elidyr Glyn a disgyblion Ysgol y Gelli, Ysgol Bontnewydd, Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Rhostryfan.

Ddydd Mercher (4 Mawrth) perfformiwyd y gân am y tro cyntaf yng Nghastell Caernarfon, digwyddiad a oedd, yn ôl Alison Halliday, Pennaeth Ysgol y Gelli, yn “benllanw chwe wythnos o waith caled gan y pedair ysgol.”

Ychwanegodd Alison Halliday,

“Mae geiriau’r gan, ‘Mae ‘nghalon yng nghanol Caernarfon’ yn dweud y cyfan, ac yn adlewyrchu ymdeimlad y plant tua’r dref a’r ardal ehangach.”

Roedd cyfansoddi’r gân yn rhan o gynlluniau ehangach yr ysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer cwricwlwm newydd erbyn 2022.

Y disgyblion yn cydganu gyda Elidyr Glyn – Llun Ysgol y Gelli

“Profiad bythgofiadwy”

“Mae’r gân yn gyfle i ni fel athrawon, a’r disgyblion arbrofi gyda’r cwricwlwm newydd, ac yn gyfle gwerthfawr i’r plant gael rhoi mewnbwn a lliwio sut maen nhw’n dysgu.”

Meddai Pennaeth Ysgol y Gelli:

“Mae’r themâu newydd wedi creu bwrlwm arbennig, ac roedd cael canu ym muriau’r castell yn brofiad bythgofiadwy i’r plant… a’r athrawon!”

Y gobaith yw y bydd yr ysgolion yn parhau i gydweithio â’i gilydd yn y dyfodol, a pharhau i bontio o ysgol i ysgol.

Emrys, un o’r disgyblion, yn cael ei gyfweld gan Gerallt Pennant ar raglen Heno – Llun Ysgol y Gelli

Dyma’r disgyblion yn canu yng Nghastell Caernarfon ar raglen Heno:

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)