Gwobrwyo Stryd y Plas

*Enghraifft o stori’r Cofi* Stryd y Plas wedi ei enwi yn un o strydoedd gorau Prydain

Lleu Bleddyn
gan Lleu Bleddyn

Stryd y Plas – Llun Hwb Caernarfon

Mae Stryd y Plas wedi’i enwi’n un o strydoedd gorau Prydain yng Ngwobrau’r Stryd Fawr yn ddiweddar.

Mae Gwobrau’r Stryd Fawr, sy’n cael ei redeg gan y Weinyddiaeth Tai, yn gwobrwyo strydoedd yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Enillodd Stryd y Plas yng Nghaernarfon wobr ‘Rising Star‘, a stryd fawr Treorci yn y de enillodd y brif wobr yn y gystadleuaeth.

Fis Mai’r llynedd cafodd y stryd yng Nghaernarfon gryn sylw o ganlyniad i arddangosfa gelf o 170 o ymbarelau amryliw a gafodd eu gosod uwchben y stryd.

Roedd yr ymbarelau lliwgar yn rhan o brosiect Strydoedd Unigryw gan Arloesi Gwynedd – prosiect er mwyn darganfod os ydi cynnig profiadau, fel darn o gelf, yn ffordd o ddenu pobl yn ôl i’r Stryd Fawr.

Gyda chymorth gan wirfoddolwyr gosodwyd yr ymbarelau gan Hwb Caernarfon. Roedd y stryd yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid a phobol leol, a’r cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol wrth i bobol o bob cwr o’r byd rannu lluniau o’r stryd.

Gweithwyr yn gosod yr ymbarelau llynedd - Llun Hwb Caernarfon
Gweithwyr yn gosod yr ymbarelau llynedd – Llun Hwb Caernarfon

Roedd Gavin Owen, rheolwr Hwb Caernarfon, wrth ei fodd o glywed am lwyddiant Stryd y Plas yn y gwobrau.

Mewn ymateb ar gyfryngau cymdeithasol diolchodd i bawb oedd wedi gwneud hyn yn bosib gan annog pobol y dre i “fynd un cam yn well y flwyddyn nesaf!”

Hwb Caernarfon yn derbyn y wobr – Llun Great British Hight Street Awards

Yn ogystal â’r gwaith celf trawiadol, cafodd y siopau lleol a’r system WiFi am ddim ar y stryd hefyd eu canmol.

Eglurodd Carwyn ap Myrddin o Arloesi Gwynedd Wledig mai’r gobaith yw datblygu’r arddangosfa yn y dyfodol.

“Yr hyn sy’n dda ydi y bydd hi’n bosib ail ddefnyddio’r ceblau sydd wedi cael eu gosod uwchben y stryd ar gyfer gosodiadau celf gwahanol yn y dyfodol.

“Mi fyddai’n bosib cael thema wahanol i’r gosodiadau celf o fis i fis – neu os oes yna ddigwyddiad ymlaen yng Nghaernarfon.”

Tre’ ddiblastig yw’r nod

Fel rhan o’r cynllun mae disgwyl i’r stryd fod yn ddiblastig yn y pen draw. Dros y ddwy flynedd nesaf y gobaith yw bydd yr holl siopau ar y stryd yn defnyddio defnyddiau amgen yn hytrach na defnyddiau plastig.

Y nod yn y pen draw yw bod Caernarfon i gyd yn ddiblastig.