Sôn am Sîn yn dathlu 10 mlynedd o gerddoriaeth Gymraeg

*Enghraifft o stori’r Cofis* Blas o sesiwn Sôn am Sîn yng Ngŵyl Ddewi Arall dros y penwythnos.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n anodd, os nad yn amhosib, cywasgu deng mlynedd cyfan o gerddoriaeth i mewn i un awr. Fodd bynnag, mi allwch chi ddibynnu ar Sôn am Sîn i fod yn uchelgeisiol, a do, mi wnaethon ni drio gwneud hynny. Fel rhan o Wyl Ddewi Arall, rhyw fath o spin-off o Gŵyl Arall i ddathlu penwythnos ein nawddsant, mi benderfynodd y ddau ohonom ni wahodd Yws Gwynedd ac Awen Schiavone i ymuno yn yr ymgais honno.

A ninnau wedi poeni nad oedd ‘na unrhyw un yn mynd i ymrwymo i ddod i wrando arnom ni’n trafod y ffasiwn beth, mi oedd hi’n braf gweld ystafell oedd yn llawn o bobl oedd eisiau dôs o nostalgia. Roedd ‘na ambell wyneb mwy.. profiadol.. yno, oedd, efallai, yn teimlo mai dim ond degawd arall o’r un hen bethau oedd o, ond ar y llaw arall, roedd ‘na bobl yno sydd, fel Chris a finnau, yn mynd i edrych yn ôl arno fel un o ddegawdau ffurfiannol eu bywydau.

Roedd y sgwrs yn cael ei llywio gan ddewisiadau cerddorol penodol, oedd yn agor y drws wedyn i drafod nifer o themâu gwahanol oedd yn berthnasol i’r blynyddoedd. Wrth gwrs, roedd Yws yn awyddus iawn i drafod y newid mawr yn y modd y mae cerddoriaeth yn cael ei glywed a’i ddosbarthu, ag yntau bellach yn rhedeg label Côsh. Efallai bod ganddo fo obsesiwn gyda stats, ond mi’r oedd hynny’n ychwanegu rhyw fewnwelediad gwahanol i’r holl beth, oedd yn gorfodi i ni feddwl yn ddiwydiannol yn ogystal â diwylliannol.

Roedd yn gyfle gwych hefyd i drafod pethau fel llwyddiant bandiau y tu hwnt i ffiniau Cymru, yn ogystal â’r drafodaeth gynyddol am ddiffyg merched sy’n gwneud miwsig. Esgus oedd yr holl beth, mewn ffordd, i ni gymryd stoc ac i weld lle’r ydym ni wedi cyrraedd erbyn 2020, ac efallai bod ‘na le am drafodaeth arall rhyw bryd i ragweld y degawd sydd i ddod.

Os ydych chi eisiau clywed mwy am hoff gerddoriaeth Awen, sut y mae Yws wedi mynd o’i chwmpas hi i greu rhai o ganeuon mwyaf nodedig y degawd, ac ychydig o atgofion Chris a finnau fel dau sydd wedi dod i wirioni ar gerddoriaeth Gymraeg yn ystod y blynyddoedd hynny, cadwch lygad ar sonamsin.com, lle bydd y sgwrs ar gael yn ei chyfanrwydd fel podlediad yn fuan!