Pnawn da o Rali CFfI Eryri!
Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.
Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.
Pnawn da o Rali CFfI Eryri!
Lluniau, fideos, canlyniadau a’r straeon diweddara – daw aelodau Clybiau Eryri a’r cyfan yn fyw i chi heddiw ar flog byw cynta Bro360.
Felly ymunwch â’n blog byw o Dai Hirion, Padog, drwy gydol y dydd.
Wel lle dwi'n dechrau… Llongyfarchiadau anferthol i glwb Ysbyty Ifan am westeio ac ennill y Rali ddoe, diwrnod a noson…
Posted by Trefnydd Ffermwyr Ifanc Eryri on Sunday, 26 May 2019
Llongyfarchiadau mawr i Glwb Ffermwyr Ifanc Ysbyty Ifan ar ddod yn fuddugol yn Rali @CFfIEryriYfc heddiw! 🏆👏Diwrnod gwych a phawb wedi mwynhau! A dyma rai o fuddugwyr ein cystadleuaeth ni – llongyfarchiadau mawr i Non ac Eiry!! 🖼👏 #RaliSbyty19 pic.twitter.com/yOUhn5CmEc
— Fferm Ifan (@ffermifan) May 25, 2019
🏆 Y clwb buddugol yn Rali CFfI Eryri 2019 🏆
Llongyfarchiadau enfawr i CFfI Ysbyty Ifan!
Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych yn padog…gobeithio i chi fwynhau’r blog!
Tan tro nesa…
(Byddwn ni yn Steddfod yr Urdd wsnos nesa, ac yn Rali CFfI Ceredigion ddydd Sadwrn!)
🏆 SEREMONI WOBRWYO 🏆
Tarian UCA a £100 gan NFU Cymru, am y clwb buddugol yn y Rali
Yn fuddugol: CFfI Ysbyty Ifan
🏆 SEREMONI WOBRWYO 🏆
Tarian Brwdfrydedd UCA a £50 gan NFU Cymru, am y clwb buddugol ar ôl cyfartaledd aelodaeth
Yn fuddugol: CFfI Ysbyty Ifan
🏆 SEREMONI WOBRWYO 🏆
Cwpan Huw ac Ellen a £50 gan NFU Cymru, am y clwb gyda’r mwyaf o farciau o’r 5 clwb lleiaf yn y rali
Yn fuddugol: CFfI Caernarfon
🏆 SEREMONI WOBRWYO 🏆
Cwpan yr Adran Ieuengaf
Yn fuddugol: CFfI Ysbyty Ifan
Cwpan barhaol yr Helfa i’r ail orau yn yr adran hŷn
Yn fuddugol: CFfI Llanrwst
Hambwrdd Arian y cyn-aelodau am y clwb buddugol yn yr adran hŷn
Yn fuddugol: CFfI Ysbyty Ifan
🏆 SEREMONI WOBRWYO 🏆
Tarian Teulu Bryn Bychan am y barnwr defaid mwyaf addawol
Yn fuddugol: Robat Griffith, CFfI Caernarfon
🏆 SEREMONI WOBRWYO 🏆
Tlws Myfyr Bryn i’r barnwr gwartheg mwyaf addawol yn y Rali
Yn fuddugol: Ifan Rhys Thomas, CFfI Dyffryn Nantlle
🏆 SEREMONI WOBRWYO 🏆
Tarian Glyn Ucha am yr effeithiolrwydd llyfr lloffion, llyfr cofnodion a’r llyfr trysorydd
Yn fuddugol: CFfI Dyffryn Madog