Sawl un ohonom sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol bob dydd? Bron pawb, mae’n siŵr!
Gyda 44% o oedolion yn cael eu newyddion trwy apiau fel Facebook, Twitter ac Instagram, mae cyfryngau cymdeithasol yn profi’n arf bwysig ar gyfer rhannu straeon o bob math.
Ac nid yw straeon lleol yn eithriad…
Felly, sut gallwn ni ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i wneud yn siŵr bod straeon lleol yn cyrraedd cynulleidfa eang?
1,000 o hits mewn 24 awr
O fewn diwrnod i ryddhau cyfweliad fideo Mared Jones â Gethin Davies, aelod o’r band The Struts, ar wefan Caron360, fe gafodd y stori ei dros 1,000 o hits. Mil o bobol mewn 24 awr!
Sut? Daeth 88% o’r ymweliadau o gyfryngau cymdeithasol, diolch i waith da criw Caron360…
> Rhannwyd y stori 28 gwaith ar Facebook, gyda gŵyl Tregaroc a’r Aelod Seneddol lleol ymysg y rhai a’i rhannodd.
> Ar Twitter, cafodd y stori ei hail-drydar 10 gwaith gan fod handl y band enwog a’r cyfranwyr wedi’u tagio, oedd yn eu hannog nhw i rannu’r stori. Fe wnaeth hynny ehangu’r gynulleidfa ymhell tu hwnt i ddilynwyr Caron360.
Gan fod cymaint wedi rhannu ac ail-drydar y stori, mae wedi cyrraedd rhagor o bobol, ac erbyn hyn dyma’r stori fwyaf poblogaidd ar draws y 7 gwefan fro ym mis Hydref. Beth, felly, yw’r gyfrinach ar gyfer gwneud defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol?
Tips cyffredinol
- Yr amser gorau i bostio unrhyw beth ar gyfryngau cymdeithasol yw rhwng 7 a 9pm yn ystod yr wythnos, neu ar brynhawniau Sul – dyma’r adegau pan mae’r rhan fwyaf o bobol yn pori ar eu ffôn.
- Annogwch bobol leol i dagio eich gwefan fro mewn negeseuon ar Facebook, Twitter neu Instagram. Mae hyn yn effeithiol dros ben ar gyfer rhannu fideos, ac mae llwyddo i gael cyfrifon sydd gan nifer fawr o ddilynwyr i’w rhannu’n siŵr o ddenu rhagor o ddarllenwyr a gwylwyr.
- Ailrannu straeon gyda’r nos, pan mae’r mwyafrif o bobol yn sgrolio drwy Facebook neu Twitter.
Rhannu straeon yn effeithiol ar Facebook
- Cofiwch wahodd pobol sydd wedi hoffi’r post i hoffi’r dudalen, drwy fynd i’r post, clicio ar bwy sydd wedi hoffi’r post a phwyso ‘Gwahodd.’ Po fwyaf o bobol sy’n hoffi’r dudalen, y mwyaf fydd yn gweld y negeseuon wrth iddynt gael eu postio.
- Rhannwch negeseuon mewn grwpiau Facebook perthnasol.
- Wrth rannu URL ar Facebook mae’n bosib tynnu’r ddolen er mwyn gwella delwedd y post.
- Os ydych chi’n dymuno darlledu fideo yn fyw ar Facebook Live, sicrhewch eich bod yn darlledu’n gyhoeddus er mwyn i bawb allu ei gwylio.
- Wrth rannu fideo, mae posib creu ‘watch party’ er mwyn gwahodd eraill i wylio’r fideo’r un pryd â chi. Mae modd i bawb gyfrannu sylwadau’n fyw wrth wylio’r fideo – bron cystal â bod mewn un ‘stafell!
Cyrraedd cynulleidfa eang ar Twitter
- Cofiwch dagio unrhyw gyfrifon perthnasol eraill mewn trydariadau, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gweld eich neges yn syth. Ond gofalwch nad ydych yn sbamio pawb a phopeth!
- Sicrhewch fod cyfrifon eraill yn gallu tagio eich cyfri chi ar Twitter, mae’r cyfarwyddiadau ar sut i alluogi hynny yma.
- Po fwyaf o gyfrifon mae eich cyfri chi’n ymwneud â nhw, y gorau. Mae rhannu a hoffi negeseuon perthnasol ar Twitter, a dilyn cyfrifon lleol eraill, yn ffyrdd rhwydd o gynnal a chreu cysylltiad â gwahanol fudiadau ac unigolion.
- Mae modd cymryd mantais o #yagym (Yr Awr Gymraeg) ar Twitter, hashnod sy’n rhoi sylw i ddigwyddiadau a negeseuon Cymraeg, ac yn cael ei ddefnyddio i hysbysebu cynlluniau a busnesau.
- Defnyddiwch yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael – efallai mai’r ffordd orau o gynnal sgwrs yw defnyddio ‘poll’ Twitter, creu edefyn, neu ddefnyddio hashnod bachog.
Mae rhagor o tips gan Bro360 ar sut i fynd ati i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu a chreu deunyddiau yma – o gyfarwyddiadau ar sut i ddarlledu ar Facebook Live, i esbonio sut i greu GIF eich hun.