Yn fyw o Gŵyl Bro: dydd Sadwrn

Y diweddaraf o’r holl ddigwyddiadau lleol sy’n cael eu cynnal yn rhan o’r ŵyl dros y penwythnos

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dilynwch y blog trwy gydol y dydd i weld straeon lleol gan bobol leol o holl ddigwyddiadau Gŵyl Bro.

Ymunwch â’r wefan i gyfrannu’ch stori chi.

13:28

Eisiau darlledu o’ch digwyddiad ond yn ansicr am le i gychwyn? Darllenwch dipiau Owain Llŷr o gwmni Gweledigaeth!

241151303_1545462402463494

7 tip syml ar gyfer darlledu o ddigwyddiad lleol

Lowri Jones

Y cynhyrchydd profiadol o Gaernarfon, Owain Llŷr, sy’n rhannu ei brofiadau

13:21

Dewch draw i Gerlan am 2 o’r gloch. Cyfle am sgwrs, cacen a chân! Diolch i Daniela Schlick am drefnu’r digwyddiad yma.

Gŵyl Bro – Llyfrgell Planhigion Gerlan

Daniela Schlick

Dod at ein gilydd eto a dathlu’n cymunedau

13:05

Nid dyma’r unig flog byw sydd ar wefannau Bro360 heddiw… draw ar BangorFelin360 mae Brengain wrthi’n dangos be sy’n digwydd yng Ngŵyl Felin!

Diweddariad blog byw

Nid dyma’r unig flog byw sydd ar wefannau Bro360 heddiw… draw ar BangorFelin360 mae …

12:52

Da chi yng nghyffiniau Nefyn heddiw? Os ydach, pam ddim mynd draw i Amgueddfa Forwrol Llŷn? Mae ’na o llwyth o bethau mlaen na!

1pm – Rhaffu: rhowch gynnig ar greu cwlwm traddodiadol

2pm – Angylion Cymru: ffilm a chrefft i blant

3pm – I forio, i forio! Bywyd morwr

4pm – Taith dywys Helwyr Hanes i’r Heliwr

12:43

12:40

77891FE6-A378-4898-A57C

Torf dda yn gwylio gem Bangor 1876 yn erbyn Llanberis neithiwr – 312 oedd y ffigwr swyddogol!

12:28

Yda chi ar eich ffordd i ddigwyddiad heddiw? Ishe cyfrannu i’r blog byw, ond ansicr sut?  Dilyna’r camau yn y llun uchod, i ddilyn y bois a gyfrannodd i flog byw Sioe Tregaron wythnos diwethaf!

12:07

Er taw heddiw mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau, nid rhain di’r cyntaf – mae ’na dair di bod ers nos Iau!

Un o’r digwyddiadau ’ma oedd gêm rhwng Bangor 1876 a Llanberis neithiwr yn Nhreborth. Diolch i Osian Glyn am yr adroddiad!

Bangor 1876 3-0 Llanberis

Osian Glyn

Y darans yn chwara’n dda er gwaetha’r sgôr.

11:58

Helo bawb – Dan ’ma, ysgogydd gogledd Ceredigion yn barod i’ch mynd a chi drwy bethau Gŵyl Bro tan ddau, pryd fyddai yn mynd ar daith gerdded yn Llanilar. Bwriadu mynd i un heddiw? Ychwanegwch ddiweddariad i’r blog, neu defnyddiwch #gŵylbro ar y cyfryngau cymdeithasol! 

11:55

Dyma hanes un arall o ddigwyddiadau Gŵyl Bro gafodd ei chynnal neithiwr – oes safle gwell na hwn ar gyfer lloches i’r gymuned?

Diolch Nia am gyhoeddi dy stori gynta ar BroAber360.

Agoriad swyddogol Lloches ger y môr Llansantffraid, Llanon

Nia Harries

Dathlu’r lloches newydd gyda gweithgareddau i’r teulu