7 tip syml ar gyfer darlledu o ddigwyddiad lleol

Y cynhyrchydd profiadol o Gaernarfon, Owain Llŷr, sy’n rhannu ei brofiadau

Lowri Jones
gan Lowri Jones
241151303_1545462402463494

Owain Llyr yn cynnal gweithdy bro360 yn fyw o’r Oval!

5

Rhai syniadau ar ffyrdd o greu cynnwys o ddigwyddiad lleol

“Os di’r cynnwys yn gry’, mae pobol yn mynd i’w rannu’n organig.”

Y cynnwys ei hun – neu’r stori – sydd bwysicaf wrth geisio rhannu naws digwyddiad, yn ôl Owain Llyr, y cynhyrchydd profiadol gyda chwmni Gweledigaeth.

O ganolbwyntio ar beth sy’n cael ei ddweud a’i ddangos, bydd y cynnwys yn gryfach a bydd pobol sy’n ei fwynhau’n fwy tebygol o’i rannu, heb fod angen talu crocbris i rannu ‘sponsored posts’.

Roedd Owain yn cyfaddef bod digon o bethau wedi mynd o’i le wrth iddo geisio creu ffilmiau neu ddarlledu’n fyw o ddigwyddiadau! Mae’n falch o fod wedi dysgu o ambell gamgymeriad, ac mewn gweithdy gyda Bro360 fe rannodd ambell air o gyngor i’n helpu ni i osgoi disgyn i’r un twll!

Dyma ei gyngor ar sut i ddefnyddio’r offer sydd gyda ni, heb orfod prynu cit drud, i ddarlledu gwahanol gynnwys o ddigwyddiadau:

  • i osgoi clywed sŵn gwynt wrth recordio ar y ffôn, rhowch hosan dros y meic (ar waelod y teclyn) a bydd hynny’n diogelu safon y sain
  • oes gennych hen ffôn symudol yn eich cwpwrdd? Rhowch hi yn y car a gallwch ei defnyddio fel ail gamera (i ffilmio o ongl wahanol) neu ei gosod ar bwys y person sy’n siarad er mwyn recordio’r sain, tra’ch bod chi’n ffilmio gyda’r ffôn arall
  • i’w gwneud hi’n haws golygu dau drac fel hyn at ei gilydd, clapiwch ar ddechrau (neu ddiwedd) recordiad, er mwyn gallu matshio’r ddau drac yn hawdd
  • ffilmiwch gyfweliad mewn awyrgylch da – gyda golau da (golau naturiol sydd orau) a heb ormod o sŵn sy’n tarfu, ac yna recordiwch shots eraill i’w torri ar ben y cyfweliad
  • wrth recordio shots, cymerwch rai tua 10 eiliad o hyd, a golygu’r ffilm i ddangos rhyw 4 eiliad o shot ar y tro, er mwyn cadw diddordeb y gwyliwr
  • gallwch ddefnyddio meddalwedd am ddim Wirecast os am ffilmio a ffrydio gyda sawl camera
  • o gael clipiau sydd â sain a llun o ansawdd da, byddwch yn creu tipyn llai o waith ‘trwsio’ i’ch hun wrth olygu!

Gallwch wylio’r gweithdy llawn yma.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)