Gŵyl Bro: dydd Sul

Straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro dros y penwythnos 

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gyda straeon am ddigwyddiadau lleol yn ymddangos ar y gwefannau bro, dyma’u casglu nhw ynghyd mewn un man.

Os fuoch chi mewn Gŵyl Bro, cofiwch gyhoeddi stori fach ar eich gwefan fro.

13:06

Un o’r ddigwyddiadau’r ŵyl oedd treialon cŵn defaid Nant Peris.

Roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda 64 o gystadleuwyr yn dod yno gyda’u cŵn. Sawl coes yw hynny, sgwn i?!

Diolch i Kate Pritchard am gyhoeddi’r canlyniadau a lluniau ar ei gwefan fro – BroWyddfa360

Treialon Cŵn Defaid Nant Peris a’r Cylch 2021

Kate Pritchard

Diwrnod llwyddiannus gyda 64 yn cystadlu.

13:04

Doedd dim modd i bawb fod yn y Felinheli ddydd Sadwrn.

I’r rhai ohonoch fethodd sesiwn barddoni Osian Owen, ewch i’r wefan fro – mae darllen am y cynganeddion gafodd eu creu *bron* cystal â bod yna!

(Drafft)

Doedd dim modd i bawb fod yn y Felinheli ddydd Sadwrn.

09:10

08:50

“Noson arbennig yn gyfle i ddod a phawb at ei gilydd a chodi hwyl.”

“Band gwych yn siwtio bach o bawb. Pryd mae’r digwyddiad nesaf?”

“Diolch am drefnu digwyddiad yn y pentref. It was long over due.”

Brag gweld bod trigolion ardal Ponterwyd wedi joio’r picnic pentre ddoe yn rhan o Gŵyl Bro. Diolch Caryl am drefnu ac am rannu’r stori ar BroAber360.

08:48

22 o dimau’n cymryd rhan yn helfa drysor Llanbed… a doedd dim modd gwahanu’r 3 thîm ar y top!

Diolch i Rhys Bebb ac Ann Bowen Morgan am drefnu a chyhoeddi’r stori ar Clonc360

2C54D139-3E30-481A-8989

Helfa Drysor Llambed

Ann Bowen Morgan

Penwythnos Gŵyl Bro360

17:43

“Chi’n galw hwnna’n llyn? – Ma’ pot holes mwy yn Nhrisant!”

Daeth pobl ynghyd o sawl ardal o bapur bro Y Ddolen pnawn ddoe. Dyma’r tro cyntaf i’r tîm golygyddol gwrdd wyneb yn wyneb ers 2019!

Mwy o hanes ‘cerdded, crafu pen, clonc a chacen ar BroAber360.

241430150_550145159550829

Cerdded, Crafu Pen, Clonc a chacen

Y Ddolen (papur bro)

Gŵyl Bro: Dod ynghyd yn Llanilar

16:13

Mae’n dal i fyn yn dda draw yn Jengyd. Y rhan fwya o’r timau’n llwyddo i ddianc o’r stafell cyn i’r 24 munud ddod i ben (rhai dim ond jyst!).

Criw Cwmann wedi llwyddo wrth fynd yn “araf a gofalus” – tactic da!

13:13

Os ydych chi’n dilyn y blog yma a’n meddwl ‘sut mae’r holl straeon yma’n cyrraedd y gwefannau bro?”, wel dyma’r ateb.

Am fod pawb sy’n byw mewn ardal yn gallu cyhoeddi stori ar eu gwefan fro.

Oes da chi syniad am stori leol chi’n awyddus i’w rhannu? Ewch amdani – mae’n hawdd.

Ymuno > Creu > Stori

Dyma fideo fach i’ch hysbrydoli!

13:07

Roedd hi’n achlysur hapus ym Mangor pnawn ddoe – dyma berfformiad cynta y côr gafodd ei sefydlu yn ystod y pandemig. Fuoch chi ar y pier yn gwrando ar Encôr?

Diolch i Ruth Williams am rannu’r stori ar BangorFelin360.

(Drafft)

Roedd hi’n achlysur hapus ym Mangor pnawn ddoe – dyma berfformiad cynta y côr …

13:03

Drwy fis Awst, roedd gan Bro360 gystadleuaeth i’r ffans chwaraeon – pwy fyddai’n gallu creu’r cynnwys mwyaf poblogaidd o’u camp neu glwb lleol neu gamp?

Wel, ddoe cyhoeddwyd y canlyniad. Llongyfarchiadau i’r tri yma am gyrraedd brig y podiwm!

3ydd: ‘Taith Rhodri’ gan Manon Wyn James ar Caron360

2il: ‘Osian yn ennill cwpan ei dad-cu mewn cystadleuaeth golff’ gan Hannah James ar Clonc360

1af: ‘Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru’ gan Rhys Pritchard ar Ogwen360

C0F0F058-C8FC-4E16-847E

Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru

Rhys Pritchard

Bethesda yn sicrhau y Gynghrair gyda record 100%