Gŵyl Bro: dydd Sul

Straeon lleol gan bobol leol ar y gwefannau bro dros y penwythnos 

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Gyda straeon am ddigwyddiadau lleol yn ymddangos ar y gwefannau bro, dyma’u casglu nhw ynghyd mewn un man.

Os fuoch chi mewn Gŵyl Bro, cofiwch gyhoeddi stori fach ar eich gwefan fro.

08:48

22 o dimau’n cymryd rhan yn helfa drysor Llanbed… a doedd dim modd gwahanu’r 3 thîm ar y top!

Diolch i Rhys Bebb ac Ann Bowen Morgan am drefnu a chyhoeddi’r stori ar Clonc360

2C54D139-3E30-481A-8989

Helfa Drysor Llambed

Ann Bowen Morgan

Penwythnos Gŵyl Bro360

17:43

“Chi’n galw hwnna’n llyn? – Ma’ pot holes mwy yn Nhrisant!”

Daeth pobl ynghyd o sawl ardal o bapur bro Y Ddolen pnawn ddoe. Dyma’r tro cyntaf i’r tîm golygyddol gwrdd wyneb yn wyneb ers 2019!

Mwy o hanes ‘cerdded, crafu pen, clonc a chacen ar BroAber360.

241430150_550145159550829

Cerdded, Crafu Pen, Clonc a chacen

Y Ddolen (papur bro)

Gŵyl Bro: Dod ynghyd yn Llanilar

16:13

Mae’n dal i fyn yn dda draw yn Jengyd. Y rhan fwya o’r timau’n llwyddo i ddianc o’r stafell cyn i’r 24 munud ddod i ben (rhai dim ond jyst!).

Criw Cwmann wedi llwyddo wrth fynd yn “araf a gofalus” – tactic da!

13:13

Os ydych chi’n dilyn y blog yma a’n meddwl ‘sut mae’r holl straeon yma’n cyrraedd y gwefannau bro?”, wel dyma’r ateb.

Am fod pawb sy’n byw mewn ardal yn gallu cyhoeddi stori ar eu gwefan fro.

Oes da chi syniad am stori leol chi’n awyddus i’w rhannu? Ewch amdani – mae’n hawdd.

Ymuno > Creu > Stori

Dyma fideo fach i’ch hysbrydoli!

13:07

Roedd hi’n achlysur hapus ym Mangor pnawn ddoe – dyma berfformiad cynta y côr gafodd ei sefydlu yn ystod y pandemig. Fuoch chi ar y pier yn gwrando ar Encôr?

Diolch i Ruth Williams am rannu’r stori ar BangorFelin360.

(Drafft)

Roedd hi’n achlysur hapus ym Mangor pnawn ddoe – dyma berfformiad cynta y côr …

13:03

Drwy fis Awst, roedd gan Bro360 gystadleuaeth i’r ffans chwaraeon – pwy fyddai’n gallu creu’r cynnwys mwyaf poblogaidd o’u camp neu glwb lleol neu gamp?

Wel, ddoe cyhoeddwyd y canlyniad. Llongyfarchiadau i’r tri yma am gyrraedd brig y podiwm!

3ydd: ‘Taith Rhodri’ gan Manon Wyn James ar Caron360

2il: ‘Osian yn ennill cwpan ei dad-cu mewn cystadleuaeth golff’ gan Hannah James ar Clonc360

1af: ‘Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru’ gan Rhys Pritchard ar Ogwen360

C0F0F058-C8FC-4E16-847E

Merched Bethesda yn bencampwyr Gogledd Cymru

Rhys Pritchard

Bethesda yn sicrhau y Gynghrair gyda record 100%

12:37

Buodd trigollion Tregaron a’r ardal yn joio tri band byw bnawn ddoe, yn Tregaroc Bach Bach.

Dyma oedd gig cyntaf dau o’r bandiau ers 18 mis… a chyfle i’r trydydd band ganu caneuon ar eu hamlym newydd sbon – Neis fel Pwdin Reis.

Oedd, roedd digon o joio tu ôl y Talbot. Nid jest i ddathlu bod miwsig byw nôl, ond bod y bar bach wedi ailagor!

Cymerwch olwg ar gyfrif Insta Caron360 a’r blog yma i weld be golloch chi!

Blog byw o Tregaroc Bach Bach

Fflur Lawlor

Dilynwch y diweddara o Dregaron, a chyfrannwch at y blog os chi ma!

12:29

Oes lleoliad gwell am lloches?

Dyma bwt o hanes agoriad swyddogol y llocher ger y môr yn Llansantffraed.

Diolch Nia Harries am gyhoeddi hon ar BroAber360.

Agoriad swyddogol Lloches ger y môr Llansantffraid, Llanon

Nia Harries

Dathlu’r lloches newydd gyda gweithgareddau i’r teulu

 

12:26

Fuoch chi mewn Gŵyl Bro?

Cofiwch rannu stori fach am y profiad ar eich gwefan fro.

Mae’n hawdd – dim ond creu cyfri, yna Creu > Stori.

Fe rannwn bob stori yn y blog yma.

12:11

Sôn am BangorFelin360, fe rannodd un o’r trefnwyr ei theimladau â golwg360 cyn y penwythnos, ar ôl iddi fod trwy gyfnod anodd yn ystod Covid.

“Dw i’n gobeithio y gwneith hwn ddod â phobl allan, achos fydd lot o bobl wedi colli hyder a meddwl eu bod nhw ddim yn gallu cymdeithasu dim mwy,” medd Anwen Roberts.

Diolch Anwen am fwrw ati i drefnu digwyddiad gwerth chweil, ac am roi rheswm i bobol ddod ynghyd a mwynhau ar ôl amser mor hir.