Gwobrau Bro360 2021 yn gyfle i ddathlu straeon lleol gan bobol leol

Ymunwch ag Elen Pencwm a Gethin Griffiths ar 28 Ionawr i ddathlu cyfraniad pobol leol i’w gwefan fro

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

I ddathlu’r holl straeon sydd wedi’u cyhoeddi ar y gwefannau bro yn ystod 2020, bydd Bro360 yn darlledu Gwobrau Bro360 ar YouTube ar nos Iau 28 Ionawr.

Mae’n anodd credu bod 1,299 o straeon wedi’u cyhoeddi ar draws y 7 gwefan fro y llynedd, yng nghanol blwyddyn Covid. Ond mae’n wir! Ac roedd y rhain yn cynnwys straeon gwreiddiol, gwahanol a gafodd effaith gadarnhaol ar y cymunedau lleol.

Y Gwobrau…

Mae’r categorïau’n amrywiol, a byddwn yn gwobrwyo’r straeon, y cyfranogwyr, a’r gwefannau sydd wedi dod i’r brig yn y deg categori.

Rydych chi wedi bod wrthi’n pleidleisio am eich hoff stori ar eich gwefan, a bydd canlyniad categori ‘Barn y bobol’ ymysg y gwobrau fydd yn cael eu cyflwyno ar y noson.

Ymunwch ag Elen Pencwm, Gethin Griffiths a thîm Bro360 am 7:30 nos Iau 28 Ionawr, ddathlu llwyddiant yr holl grëwyr, a chlywed pwy fydd yn cipio’r gwobrau am eleni.

Y categorïau…

  • Cyfranogwr y flwyddyn
  • Crëwr ifanc y flwyddyn
  • Fideo y flwyddyn
  • Oriel luniau y flwyddyn
  • Stori ‘codi gwên’ y flwyddyn
  • Esiampl y flwyddyn o wneud gwahaniaeth
  • Stori leol orau’r flwyddyn gan golwg360
  • Hyrwyddwr gorau
  • Y cynnydd uchaf mewn cyfranogwyr
  • Barn y bobol – eich hoff stori ar bob gwefan fro

Mae rhestrau byr y categorïau wedi’u cyhoeddi yma.

Tybed fyddwch chi’n cytuno â’r panel?

Ymunwch yn y dathlu 

Bydd y Gwobrau’n cael eu darlledu ar sianel YouTube Bro360.

Cofiwch ymuno â ni am 7:30pm ar 28 Ionawr i ddathlu cyfraniad pobol leol i’w gwefannau bro.

Ac er ein bod yn dewis enillydd i bob categori, gyda 1,299 o straeon wedi’u cyhoeddi yn 2020, mae pawb yn enillwyr, heb os.