Pleidleisio am y straeon gorau ar wefannau Bro360 yn 2020

Cyfle i bobol leol bleidleisio am eu hoff stori

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Wrth i olygon pobol droi fwyfwy at eu milltir sgwâr yn 2020, mae’r 7 gwefan fro wedi bod yn ffynonellau amhrisiadwy – yn gartref i straeon, gwybodaeth a difyrrwch gan bobol leol am eu cymuned leol.

Mae’r gwefannau hefyd wedi bod yn gofnod o sut mae pobol yn byw eu bywydau yn ystod un o gyfnodau rhyfeddaf ein hoes.

Er gwaetha’ Covid – neu efallai o’i herwydd – rydym ni wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwasanaethau lleol yma. Cyhoeddwyd dros 1,230 o straeon lleol yn ystod 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol wedi cyhoeddi stori ar eu gwefan fro.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr. Bydd y categorïau’n amrywio o bethau fel ‘fideo y flwyddyn’ i’r stori orau am godi gwên.

Gwobrwyo’r goreuon: barn y bobol

Ond mae angen eich help chi i benderfynu pwy fydd yn ennill y prif wobrau, sef y stori orau ar bob gwefan fro.

Mae rhestrau byr wedi’u creu ar gyfer y 6 stori fwyaf poblogaidd ar bob gwefan (yn ôl yr ystadegau), ac maent i’w gweld yma:

Pa stori sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ‘diolch’ ar waelod y stori honno

Bydd angen mewngofnodi neu ymuno i greu cyfri er mwyn gallu pleidleisio.