Cyhoeddi rhestrau byr gwobrau Bro360

10 categori i ddathlu’r holl straeon lleol gan bobol leol yn 2020

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

I ddathlu’r holl straeon lleol sydd wedi’u cyhoeddi ar wefannau bro yn ystod 2020, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ar 28 Ionawr.

Mae’r categorïau’n cynnwys oriel luniau’r flwyddyn, fideo y flwyddyn a’r stori orau am godi gwên :)

Bydd gwobrau hefyd yn cael eu rhoi i gyfranogwr ifanc y flwyddyn, y wefan sydd wedi hyrwyddo ei hun orau, ynghyd â theitl ‘barn y bobol’ ar gyfer eich hoff stori chi ar bob un o’r 7 gwefan fro.

Bydd y seremoni’n cael ei darlledu ar sianel YouTube Bro360, a thudalen Facebook Bro360 am 7.30pm ar nos Iau ola’r mis.

Categori Barn y bobol

Mae’r enillwyr wedi’u dewis gan banel arbennig a gan staff Bro360, ond rydym angen eich help chi i benderfynu pwy fydd yn ennill y prif wobrau – sef y stori orau ar bob gwefan fro.

Mae rhestrau byr wedi’u creu ar gyfer y 6 stori fwyaf poblogaidd ar bob gwefan (yn ôl yr ystadegau), ac maent i’w gweld yma:

Porwch drwy restr fer eich gwefan fro, a phleidleisiwch dros eich hoff stori trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan (creu cyfri)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ‘diolch’ ar waelod y stori honno

Y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw dydd Llun, 18 Ionawr.

 

Cyfranogwr y flwyddyn

Bydd y wobr yn cael ei rhoi i’r unigolyn sydd wedi cyfrannu’r nifer uchaf o straeon i’w gwefan fro yn ystod 2020.

Ar y rhestr fer:

  • Mererid – BroAber360
  • Begw Elain – DyffrynNantlle360
  • Dylan Lewis – Clonc360
  • Carwyn Meredydd – Ogwen360

 

Crëwr ifanc y flwyddyn (dan 30 oed)

Yn cyrraedd y rhestr fer: 

  • Gruffudd Huw – BroAber360
  • Begw Elain – DyffrynNantlle360
  • Lloyd Warburton – BroAber360

 

Fideo y flwyddyn

Yn cyrraedd y rhestr fer: 

  • Aelod o The Struts adref yn Llanddewi; gan Mared ac Enfys ar Caron360
  • Dysgu sgil newydd yn ystod y cyfnod clo; gan Bethan Jenkins ar BroAber360
  • Hanes sychu Dyffryn Nantlle; gan John Dilwyn ar DyffrynNantlle360
  • Bethesda 20 – Dinbych 22; gan Now Jones ar Ogwen360
  • Coleg neu chweched dosbarth?; gan Nel Pennant Jones ar BroWyddfa360
  • Sialens Tashwedd CPD Nantlle Vale; gan Begw Elain ar DyffrynNantlle360
  • Stori Ela Lois; gan Lowri Mai Williams ar Ogwen360
  • Dosbarth Covid 19; gan Cerys Burton ar BroAber360

 

Oriel luniau y flwyddyn

Y pump sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yw…

  • #arosmewnmawr; gan Catrin MS ar BroAber360
  • Cyfres #AtgofGen: Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth [4 stori]; gan William Howells ar BroAber360
  • Protest cadw ffatri Northwood; gan Hedydd Ioan ar DyffrynNantlle360
  • Pobol dre; gan Shiwan Gwyn ar Caernarfon360
  • #AtgofLlanbed – yn groten ysgol; gan Elin Williams ar Clonc360

 

Stori ‘codi gwên’ y flwyddyn

Roedd digon o angen am straeon i godi gwên yn ystod 2020, ac yn siŵr i chi, aeth cyfranogwyr Bro360 ati i greu cynnwys er mwyn codi’n hwyliau.

Dyma’r rhestr fer:

  • Tregaron: Twll o le?; gan Enfys, Megan a Zara ar Caron360
  • Cyfweliad â Mair Nutting, y seren pêl-droed!; gan Steffan Nutting ar BroAber360
  • #AtgofLlanbed: y syndod o gael cwmni Max Boyce i frecwast; gan Dorian Jones ar Clonc360
  • ‘dennis bergkamp till I die’; gan Gwion Ifor ar Caernarfon360
  • Gwrandwch ar Gwenith; spŵff gan Sioned Thomas ar BroAber360 

 

Esiampl y flwyddyn o ‘wneud gwahaniaeth’

Mae’r wobr yma’n cael ei rhoi i’r esiampl orau o ‘wneud gwahaniaeth’ yn y gymuned, yn ôl y panel beirniaid. Ac mae’r gystadleuaeth yn un gref, gyda 10 ar y rhestr fer:

  • Eisteddfod leol ddigidol gynta’r byd; gan Luned Mair ar Clonc360
  • 100 o goed wedi’u plannu mewn dwyawr; gan Tom Simone ar Ogwen360
  • Mynd am dro; gan Enfys Medi ar BroAber360
  • Côr Gobaith a’r cyfnod clo; gan Côr Gobaith ar BroAber360
  • Straeon am effaith Ffliw Sbaen yn lleol; gan Aled Morgan Hughes ar wefannau Ceredigion
  • “Cofiwch am y rhai sydd wedi cadw’r wlad i fynd” ar ôl yr argyfwng yma; gan Mari Wyn Hughes ar DyffrynNantlle360
  • Pwysigrwydd cefnogi clybiau chwaraeon i ferched; gan Lowri Wynn ar Caernarfon360
  • Profiad cyn-ddisgybl Ysgol Tregaron o’r coronafeirws; gan Hefin Richards / Manon James ar Caron360
  • Rhaid gwarchod enwau lleoedd; gan Ieuan Wyn ar Ogwen360
  • Rhythwyn yn codi arian mawr, a Just Giving yn trydar yn Gymraeg; gan Dylan Lewis ar Clonc360

Yn ogystal â’r categorïau hyn, bydd gwobr yn cael ei rhoi am Stori leol orau’r flwyddyn gan golwg360, y wefan a welodd y cynnydd uchaf mewn cyfranogwyr yn 2020, a’r hyrwyddwr gorau ymhlith y 7 gwefan fro.

 

Ymunwch yn y dathlu

Felly pleidleisiwch, a chofiwch ymuno â ni am 7.30pm ar 28 Ionawr er mwyn dathlu cyfraniad bobol leol tuag at eu gwefannau bro, a dathlu llwyddiant yr enillwyr!

I ddathlu straeon lleol gan bobol leol.