Ein cyfryngau – beth sy’n dda am wneud beth?

Sut gallwn ni fanteisio ar y cyfryngau sydd ar gael i’n helpu i drefnu, cyrraedd pobol a darlledu?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn oes o bontio rhwng cyfryngau traddodiadol a digidol, sut gallwn ni wneud y gorau o’r holl gyfryngau sydd ar gael i ni, i’n helpu i drefnu, cyrraedd pobol a darlledu?

Dyma rai esiamplau o gyfryngau sy’n dda am wneud gwahanol bethau…

1. Cynnal sgwrs

Pam Cynnal Sgwrs?

I ddod â phobol amrywiol ynghyd i rannu syniadau, cymryd perchnogaeth a throsglwyddo egni i’n gilydd.

Cyfryngau effeithiol

  • Yn y cnawd: cwrdd mewn lle hygyrch, defnyddio adeiladau sy’n berchen i’r gymuned a mannau awyr agored, cwrdd mewn caffis a thafarndai
  • Ar-lein: Zoom, Microsoft Teams, Google Hangouts
  • Cymysgedd o’r ddau, gan wneud yn siŵr bod pawb yn clywed pawb
  • Sgwrsio rhwng sesiynau: grwpiau Whatsapp neu Messenger
  • Cadw nodiadau: Google doc, gan roi mynediad a hawl ‘sgwennu i bawb
  • Cadw cofnod o dasgau: Slack, Trello, Taskaid

Awgrymiadau

  • Bydd cael pawb i eistedd mewn cylch yn cryfhau’r teimlad o dîm
  • Ystyried gael hwylusydd i arwain, yn hytrach na ‘chadeirio’
  • Bydd cwestiynu agored yn well na chyflwyno gwybodaeth gyfyngedig

2. Cyrraedd pobol

Pam?

I hyrwyddo be sy mlaen ac annog mwy i fwynhau bod yn rhan o’r gweithgaredd.

Cyfryngau effeithiol

  • Ar lafar: Cymryd pob cyfle i siarad, holi a rhannu eich syniad gyda’ch cyfoedion. Pobol sy’n gallu cael yr effaith fwyaf ar bobol.
  • Papur: Posteri mewn mannau cyhoeddus a busnesau, taflenni i lefydd lle mae pobol yn cwrdd, calendr papur bro (angen cysylltu mis o flaen llaw).
  • Digidol: Ebyst aelodau, digwyddiad Facebook, grwpiau Facebook lleol, calendr gwefan fro, fideo fer, polls a storis Insta rhyngweithiol, hashnod, manteisio ar gymuned o ddiddordeb ar Twitter.
  • Eraill: Mae angen meddwl yn greadigol. Oes ‘na syniad am gartŵn, GIF neu meme?

Awgrymiadau

  • Meddwl pwy ry’n ni am ei gyrraedd (nid ‘pawb’) a ble maen nhw.
  • Ystyried penodi Swyddog Cyfryngau, a rhannu tasgau rhwng aelodau hefyd, e.e. bydd yn well gan rai greu’n ddigidol ac eraill i ddosbarthu posteri. Mae rôl i bawb.
  • Wrth greu digwyddiad Facebook, mae angen cofio gwahodd pobol a bwydo gwybodaeth yn rheolaidd.
  • Mae’n werth gweithio nôl o’r dyddiad i rannu cynnwys hyrwyddo.

3. Darlledu

Pam?

I rannu syniadau, llwyddiannau a naws ein gweithgarwch gyda mwy o bobol ac ar draws cymdogaethau, gyda’r potensial i ysbrydoli eraill.

Cyfryngau effeithiol: yn fyw o’r digwyddiad

  • Facebook / YouTube / Instagram Live, a Periscope
  • Blog byw amlgyfrwng ac amlgyfranogwr ar wefan fro
  • Darllediad fideo amlgamera – ap Switcher Studio (iOS)
  • Storis Insta; cael pobol yn cymryd drosodd ffrwd Insta am y dydd

Cyfryngau effeithiol: wedi’r digwyddiad

  • Fideo uchafbwyntiau – apiau golygu iMovie (iOS) a YouCut (Android)
  • Cyfres podlediadau – ap golygu Audacity; dosbarthu ar raglen fel Anchor
  • Stori gyda fideos a lluniau ar wefan fro, neu ysgogi adolygiad gan rywun arall
  • Adroddiad i’r papur bro

Cyfryngau effeithiol: digwyddiadau ar-lein

  • Gweddarlledu sgwrs Zoom ar Facebook Live, a derbyn sylwadau’n fyw
  • Darlledu byw gyda’r opsiwn i godi arian: ap AM

Awgrymiadau

  • Ystyried darlledu ‘fel tasai’n fyw’ os ydyn am ddenu cynulleidfa ‘go iawn’ hefyd.
  • Os am ffilmio digwyddiad cyfan, bydd angen digon o ffonau symudol llawn batri, creu lle yn y teclyn o flaen llaw, ac ystyried cwestiynau ymarferol – a fyddai treipod yn well na dal ffôn lan am oriau?
  • Ystyried creu cynnwys ‘y tu ôl i’r llen’ fydd yn wahanol i’r prif adloniant.
  • Rhywbeth byr fydd y bobol adre ishe’i weld.

 

Dod Ynghyd

Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.

Ein cyfryngau – beth sy’n dda am wneud beth?

Lowri Jones

Sut gallwn ni fanteisio ar y cyfryngau sydd ar gael i’n helpu i drefnu, cyrraedd pobol a darlledu?