Disgrifiad rôl: ‘Swyddog Cyfyngau’ mudiadau

“Defnyddio’r cyfryngau sydd gyda ni, i roi ein clwb ar y map”

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Rydym ni gyd yn ysu i gael ailddechrau gweithgareddau ein clybiau a’n cymdeithasau.

A phan fydd bwrlwm bro yn ailddechrau, gallwn wneud yn siŵr fod pobol leol yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn ein mudiadau trwy ddefnyddio cyfryngau i rannu straeon cadarnhaol.

Wrth benodi swyddogion am y flwyddyn, mae’n ddefnyddiol penodi Swyddog Cyfryngau (neu Swyddog y Wasg).

Bydd yr aelod yn gallu gwneud llawer mwy nag anfon pwt i’r wasg a gobeithio y bydd yn cael sylw. Erbyn heddiw, mae llwyth o gyfryngau (digidol a thraddodiadol) ar gael i ni eu defnyddio i rannu newyddion…

 

Sut mae mynd ati i ddefnyddio’r cyfryngau sydd gyda ni, i roi ein clwb ar y map?

 

  • Meddwl ‘a oes stori gyda ni i’w hadrodd?’

Llwyddiant diweddar y clwb neu aelod? Prosiect cyffrous ar y gweill? Rhywbeth newydd wedi digwydd?

Mae rhagor o syniadau ar sut i adnabod stori sy’n werth ei hadrodd yma:

Sut mae adnabod stori sy’n werth ei hadrodd?

Cadi Dafydd

“Mae straeon bro yr un mor ddilys a phwysig ag unrhyw stori yn y byd”

 

  • Creu stori ar y wefan fro, trwy:
  1. Greu cyfri (ymuno)
  2. Creu > Stori
  3. Pwyso ‘barod i’w gyhoeddi’ a ‘cyhoeddi newidiadau’ ar ôl gorffen

Gallwch greu yn syth o’ch ffôn. Mae ychydig o dips handi yma ar sut i fynd ati.

Peidiwch â phoeni, bydd golygyddion lleol eich gwefan fro yn darllen dros y stori cyn iddi fynd yn fyw.

Tynnwch ddigon o luniau, a recordio digwyddiadau – maen nhw’n siŵr o ychwanegu at eich stori!

 

  • Hyrwyddo digwyddiadau ar galendr y wefan fro, trwy…
  1. Greu cyfri (ymuno)
  2. Creu > digwyddiadau

 

  • Pa bethau sy’n addas i’w rhannu ar wefan fro?

? Straeon ar-y-funud, fel llwyddiannau diweddar neu newyddion newydd!

? Fideos o gyngherddau, cyfweliadau, neu uchafbwyntiau cystadlaethau

? Oriel luniau o aelodau eich clwb yn gwneud pethau difyr

? Cyd-greu blog byw amlgyfrwng o ddigwyddiadau sirol neu genedlaethol

 

  • Sgwennu adroddiadau i’r papur bro 

Gallai’r rhain gynnwys…

  • Pytiau misol am hynt a helynt y clwb
  • Adroddiadau yn rhestru canlyniadau cystadlaethau
  • Lluniau da – yn enwedig rhai â phobol yn gwneud rhywbeth. Mae pobol yn hoff o weld wynebau!

 

  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddangos bwrlwm eich clwb

> Rhannu lluniau o’r hwyl a thagio aelodau, fel bod pawb yn gallu rhannu’r negeseuon

> Annog cefnogwyr i rannu hen luniau a fideo er mwyn casglu atgofion

> Creu digwyddiadau Facebook a gwahodd y gymuned

> Tagio’r wefan fro mewn posts i gyrraedd cynulleidfa ehangach

 

  • Manteisio ar rwydweithiau

Gallwn fanteisio ar rwydweithiau lleol drwy holi busnesau lleol i gael gosod posteri, neu fynd â thaflenni o ddrws i ddrws.

Beth am rannu negeseuon mewn grŵp Whatsapp / Messenger aelodau a chefnogwyr fel bod pawb yn cael clywed y newyddion diweddaraf?