Sut mae adnabod stori sy’n werth ei hadrodd?

“Mae straeon bro yr un mor ddilys a phwysig ag unrhyw stori yn y byd”

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Mewn baled enwog am Ferched Beca, llinell olaf pob pennill oedd “nid aml y bu ffasiwn beth”.

A dyna yw stori – rhywbeth anarferol.

Ac mae’r llun uchod yn esiampl dda – mae’n dangos gof o Lanbed yn torri record trwy greu’r Welsh cake mwyaf yn y byd. Anarferol , wir!

Gan ddefnyddio syniadau mynychwyr cwrs Gohebwyr Ifanc Bro360, dyma geisio crynhoi’r hyn sy’n gwneud stori dda, a sut mae adnabod cyfleoedd am stori.

 

Gall sawl sefyllfa fod yn sail i stori:

  • Digwyddiad, megis damwain ffordd, neu lifogydd. Wrth ysgrifennu am ddigwyddiad bydd tueddiad i ganolbwyntio ar y ffeithiau, ac adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd.
  • Datblygiad neu dueddiad, er enghraifft sefydlu rhagor o ganghennau YesCymru. Mae posib i dueddiadau droi yn rhywbeth mwy arwyddocaol.
  • Pobol ddiddorol, neu bobol yn gwneud rhywbeth diddorol neu annisgwyl, megis y gŵr o Lanbed a greodd wasanaeth radio o gopa Cader Idris. Er bod hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, doedd neb yn gwybod am y peth, sy’n profi y gall hen straeon ddiddori cynulleidfa newydd. 

 

Dyma ambell beth sy’n creu stori dda:

  • Rhywbeth y gall y gynulleidfa uniaethu ag ef
  • Cryno, a phwrpas i bob brawddeg – heb rygnu ‘mlaen
  • Yn cymell emosiwn
  • Yn sbarduno sgwrs
  • Yn ddiddorol neu’n annisgwyl

 

Pwysigrwydd cyd-destun a chynulleidfa 

Mae byd o wahaniaeth rhwng yr hyn sy’n gwneud stori dda rhwng un lle a’r llall – mae’n dibynnu ar y cyd-destun, a diddordebau trigolion yr ardal.

Ni fyddai stori am gwymp ym mhris ŵyn yn llwyddo i ddenu fawr ddim sylw ar wefan leol dinas, megis Caerdydd, ond byddai’n ennyn diddordeb yn y Farmers Weekly, neu ar wefan fro Caron360, er enghraifft.

Wrth ysgrifennu straeon ar gyfer gwefannau bro, mae’n bwysig adnabod eich cynulleidfa.

Yn yr un modd, mae cyd-destun amseryddol yn bwysig – ni fyddai rhywun yn poeri ar berson arall yn fawr o stori cyn dyfodiad y coronafeirws, ond nawr byddai’n stori fawr.

 

Sut mae ‘nabod stori?

Wrth i fwy a fwy ohonoch fynd ati i ohebu ar y pethau sy’n bwysig yn lleol, sut mae ‘nabod straeon da i’w hadrodd?

  • Nid ‘darganfod’ stori fydd gohebydd – mae’r stori allan yno’n barod. Adnabod digwyddiad, sefyllfa, datblygiad neu safbwynt fel cyfle am stori yw gwaith gohebydd.
  • Mae straeon bro yr un mor ddilys a phwysig ag unrhyw stori yn y byd, rhain yw’r straeon sy’n troi’n rhai mawr.
  • Mae bron pob un stori’n dechrau gyda rhywun lleol yn dweud rhywbeth wrth rywun arall… sy’n cyrraedd clustiau gohebydd yn y pendraw.
  • Chi yw’r bobol orau i adnabod straeon lleol. Drwy fod â diddordeb mewn pobol a’r gymuned, mi ddewch chi i adnabod y straeon.
  • Gwrandewch, edrychwch o’ch cwmpas, siaradwch â chysylltiadau, a byddwch â’r hyder i wybod bod gennych chi stori ddiddorol i’w sgwennu.

 

Beth sydd ei angen arnoch i ‘nabod stori?

8 ‘top tip’ gan Dylan Lewis – un o ohebwyr bro Clonc360 yn ardal Llanbed:

  • Adnabod yr ardal a’i phobol
  • Parodrwydd i wasanaethu’r fro
  • Perthyn i’r fro a’i mudiadau
  • Byw yn yr ardal, a/neu weithio yno
  • Creu cysylltiadau trwy gysylltiadau
  • Siarad gydag aelodau o’r gymuned sy’n gwybod hanes pawb!
  • Cerdded yr ardal a sylwi ar be sy’n mynd ymlaen
  • Ymuno â grwpiau lleol, trwy’r cyfryngau cymdeithasol a wyneb yn wyneb, a busnesu!

 

Mae’r straeon yn dechrau yn agos iawn at ein traed.

Rhowch gynnig arni… Efallai mai chi fydd y nesa’ i gyfrannu tuag at eich gwefan fro!