15 o bobol ifanc yn ysu i roi hwb i newyddion lleol 

“Ceisio gwneud newidiadau yn lleol yw’r ffordd fwyaf effeithlon o achosi newid yn ehangach”

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae 15 person ifanc o ardaloedd Arfon a Cheredigion wedi’u dewis i gymryd rhan mewn cwrs newydd sbon i feithrin gohebwyr lleol.

O ardal Arfon:

  • Gwernan Brooks, Nel Pennant Jones ac Aled Pritchard o fro Wyddfa
  • Begw Elain a Llio Elenid Owen o Ddyffryn Nantlle
  • Beca Nia a Joseff Owen o Fangor
  • Lisa Tomos o Ddyffryn Ogwen

O Geredigion:

  • Cerys Burton o Bonterwyd
  • Miriam Glyn, Ifan Jones, Gruff Huw a Megan Turner o Aberystwyth
  • Nest Jenkins o Ledrod
  • Steffan Nutting o Dal-y-bont

Bro360 a Chwmni Golwg sy’n cynnal y Cwrs Gohebwyr Ifanc, a’n nod yw buddsoddi yn ein pobol ifanc ac yn ein bröydd. Bydd y cwrs yn rhoi’r hyder, y gallu a’r awydd i’r criw o ddarpar-ohebwyr fynd allan i adrodd ar straeon sy’n bwysig yn eu bro.

Gan ddechrau ar nos Fawrth 3 Tachwedd, bydd y criw yn cyd-ddysgu gyda gohebwyr lleol a chenedlaethol profiadol – Dylan Iorwerth (sylfaenydd cwmni Golwg) a Dylan Lewis (un o ohebyddion bro pennaf Clonc360) – yn y cyntaf o 5 sesiwn wythnosol dros Zoom. Yn ymuno yn ystod y gyfres fydd Prif Olygydd Golwg, Garmon Ceiro; y cynhyrchydd Euros Lewis; a’r ffotograffydd Betsan Haf.

Roedd gan y criw ifanc bethau difyr i’w dweud pan holwyd pam oedden nhw’n creu bod newyddion lleol yn bwysig…

“Rhaid cyfaddef nad oeddwn i’n teimlo bod daearyddiaeth yn berthnasol i’r term ‘cymuned’ yn yr oes sydd ohoni. Mae digwyddiadau’r flwyddyn hon wedi newid fy meddwl i’n llwyr”

–  Aled Pritchard, wrth ystyried gwerth newyddiaduraeth leol.

Mae Joseff Owen, myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, yn awyddus i fod yn rhan o’r symudiad sy’n rhoi platfform uwch i newyddion bro, er mwyn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas:

“Ceisio gwneud newidiadau yn lleol yw’r ffordd fwyaf effeithlon o achosi newid yn ehangach, ac mae gan newyddiaduraeth leol rôl enfawr i’w chwarae wrth geisio cryfhau ein cymunedau.”

Ac yn ôl Megan Turner o Aberystwyth, mae rhoi llais i bobol o bob math yn rhan greiddiol i’r ffordd y gallwn ddatblygu fel cenedl o gymunedau:

“Mae safbwynt hunaniaeth wahanol gan bob ardal a’i phobol; ac mae rhoi llais i’r lleol yn mynd â datganoli gam ymhellach, gan greu cyfleoedd i wella dyfodol cymunedau ein gwlad.”

Ac i Miriam Glyn o Aberystwyth, “gall straeon cadarnhaol wneud byd o wahaniaeth i ysbryd pobol a chymunedau,” ac mae rôl gan y gwefannau a’r gohebwyr bro i’w chwarae mewn adeg heriol fel hon.

 

Mae 7 gwefan fro wedi’u creu dan adain Bro360 erbyn hyn, sy’n blatfformau hygyrch i bawb yn lleol gael rhannu eu straeon. Cadwch lygad arnynt er mwyn gweld straeon gan y criw yma o ohebwyr lleol, ynghyd â llu o bobol leol eraill, yn y dyfodol agos!