Sut mae cynnal sgwrs ‘Prosiect Fory’?

Ymunwch yn y symudiad llawr gwlad sy’n datblygu’n ‘Senedd y Bobol’

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae newid ar droed. Mae mwy a mwy o gymunedau yn sylweddoli bod gennym ni’r grym i newid pethau. Mae’n digwydd trwy sgyrsiau llawr gwlad Prosiect Fory.

Gwahoddiad yw hwn i chi ymuno â Prosiect Fory, trwy ysgogi a galluogi cymaint â phosib ohonom, yn ein cymdogaethau, i gyd-drafod ein hofnau a’n dyheadau. I edrych o heddi yr argyfwng tuag at fory’r hyn a allai fod.

Nid ‘ymgynghoriad’ gan rywun o’r tu fas yw hwn. Ond cyfle pobol ar lawr gwlad i drefnu a chynnal sgwrs agored, onest am sefyllfa ein cymdeithas. A gorau po fwyaf o sgyrsiau sy’n cael eu cynnal ar draws ein cenedl.

 

Beth yw Prosiect Fory?

Y nod: Adnabod pa fath o gymdeithas y’n ni am fyw ynddi wedi’r argyfwng.

Pwnc y drafodaeth: Y gymdeithas ddydd-i-ddydd y’n ni’n byw ynddi. Yn gweithio ynddi. Yn cyfranogi ohoni.

 

Sut mae cynnal sesiwn Prosiect Fory?

Gall unrhyw un gynnal sgwrs Prosiect Fory. Ar ôl cynnull criw o bobol ynghyd (ar Zoom, er enghraifft), mae’r fformat yn syml. Tri chwestiwn sydd i’w trafod, yn y drefn yma:

  1. Ble’r oedden ni cyn ymyrraeth y feirws?
  2. Beth yw’r gwaethaf all ddigwydd wedi i’r argyfwng glirio?
  3. Beth yw’r dyfodol gorau posib? Pa gyfleoedd mae’r ymyrraeth yn eu gwneud yn bosibilrwydd?

 

Egwyddorion i’w parchu

  • Dechrau’n deg: cael caniatâd pawb i gofnodi trwy system ‘record’ Zoom.
  • Gwrthwynebiad: cofnodi trwy’r botwm ‘chat’ yn unig.
  • Cynnwys pawb.
  • Dim atebion ‘cywir’ nag ‘anghywir’.
  • Nid ffurfio consensws (o reidrwydd) yw’r nod ond rhannu dyheadau a syniadau.
  • Cadw at drefn y tri chwestiwn.
  • Anfon cofnod o’r sgwrs at HQ Prosiect Fory ar ôl y sesiwn: ymhol@radiobeca.cymru / post@bro360.cymru

 

Gwerth y sgyrsiau

Bydd y sgwrs ynddi’i hun yn rhoi’r grym i bobol siapio eu dyfodol. Yn rhoi lle iddyn nhw gyd-drafod ac adnabod eu hanghenion a’u potensial eu hunain. Yn plannu’r arfer o gwestiynu, yn hytrach na derbyn a disgwyl i rywun arall ddatrys pethau.

A bydd drosglwyddo’r cyfrifoldeb o gynnal sesiwn i eraill yn rhaeadru’r doniau arwain sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal cymdeithas.

Mae’r syniadau a’r dyheadau ddaw mas o’r sgyrsiau yn bwysig hefyd. Gallant arwain at weithredu llawr gwlad… a gallant, gyda’i gilydd, gael eu crynhoi’n ganfyddiadau i’w pasio ymlaen i’r awdurdodau, os byddwch chi’n dymuno. Yn llais cryf o lawr gwlad.

 

Pwy yw Prosiect Fory?

Ni yw Prosiect Fory – bawb sydd am fod yn rhan o’r symudiad tuag at y dyfodol.

Mae’r fenter yn cael ei harwain gan bartneriaeth rhwng Radio Beca a Bro360. Nod y ddau yw rhoi’r grym i bobol siapio cymdeithas trwy ysgogi trafodaeth am syniadau, a galluogi darlledu’r syniadau hynny er mwyn eu rhannu’n eang.