Mewn oes o bontio rhwng cyfryngau traddodiadol a digidol, sut gallwn ni wneud y gorau o’r holl gyfryngau sydd ar gael i ni, i’n helpu i drefnu, cyrraedd pobol a darlledu?
Dyma rai esiamplau o gyfryngau sy’n dda am wneud gwahanol bethau…
1. Cynnal sgwrs
Pam Cynnal Sgwrs?
I ddod â phobol amrywiol ynghyd i rannu syniadau, cymryd perchnogaeth a throsglwyddo egni i’n gilydd.
Cyfryngau effeithiol
- Yn y cnawd: cwrdd mewn lle hygyrch, defnyddio adeiladau sy’n berchen i’r gymuned a mannau awyr agored, cwrdd mewn caffis a thafarndai
- Ar-lein: Zoom, Microsoft Teams, Google Hangouts
- Cymysgedd o’r ddau, gan wneud yn siŵr bod pawb yn clywed pawb
- Sgwrsio rhwng sesiynau: grwpiau Whatsapp neu Messenger
- Cadw nodiadau: Google doc, gan roi mynediad a hawl ‘sgwennu i bawb
- Cadw cofnod o dasgau: Slack, Trello, Taskaid
Awgrymiadau
- Bydd cael pawb i eistedd mewn cylch yn cryfhau’r teimlad o dîm
- Ystyried gael hwylusydd i arwain, yn hytrach na ‘chadeirio’
- Bydd cwestiynu agored yn well na chyflwyno gwybodaeth gyfyngedig
2. Cyrraedd pobol
Pam?
I hyrwyddo be sy mlaen ac annog mwy i fwynhau bod yn rhan o’r gweithgaredd.
Cyfryngau effeithiol
- Ar lafar: Cymryd pob cyfle i siarad, holi a rhannu eich syniad gyda’ch cyfoedion. Pobol sy’n gallu cael yr effaith fwyaf ar bobol.
- Papur: Posteri mewn mannau cyhoeddus a busnesau, taflenni i lefydd lle mae pobol yn cwrdd, calendr papur bro (angen cysylltu mis o flaen llaw).
- Digidol: Ebyst aelodau, digwyddiad Facebook, grwpiau Facebook lleol, calendr gwefan fro, fideo fer, polls a storis Insta rhyngweithiol, hashnod, manteisio ar gymuned o ddiddordeb ar Twitter.
- Eraill: Mae angen meddwl yn greadigol. Oes ‘na syniad am gartŵn, GIF neu meme?
Awgrymiadau
- Meddwl pwy ry’n ni am ei gyrraedd (nid ‘pawb’) a ble maen nhw.
- Ystyried penodi Swyddog Cyfryngau, a rhannu tasgau rhwng aelodau hefyd, e.e. bydd yn well gan rai greu’n ddigidol ac eraill i ddosbarthu posteri. Mae rôl i bawb.
- Wrth greu digwyddiad Facebook, mae angen cofio gwahodd pobol a bwydo gwybodaeth yn rheolaidd.
- Mae’n werth gweithio nôl o’r dyddiad i rannu cynnwys hyrwyddo.
3. Darlledu
Pam?
I rannu syniadau, llwyddiannau a naws ein gweithgarwch gyda mwy o bobol ac ar draws cymdogaethau, gyda’r potensial i ysbrydoli eraill.
Cyfryngau effeithiol: yn fyw o’r digwyddiad
- Facebook / YouTube / Instagram Live, a Periscope
- Blog byw amlgyfrwng ac amlgyfranogwr ar wefan fro
- Darllediad fideo amlgamera – ap Switcher Studio (iOS)
- Storis Insta; cael pobol yn cymryd drosodd ffrwd Insta am y dydd
Cyfryngau effeithiol: wedi’r digwyddiad
- Fideo uchafbwyntiau – apiau golygu iMovie (iOS) a YouCut (Android)
- Cyfres podlediadau – ap golygu Audacity; dosbarthu ar raglen fel Anchor
- Stori gyda fideos a lluniau ar wefan fro, neu ysgogi adolygiad gan rywun arall
- Adroddiad i’r papur bro
Cyfryngau effeithiol: digwyddiadau ar-lein
- Gweddarlledu sgwrs Zoom ar Facebook Live, a derbyn sylwadau’n fyw
- Darlledu byw gyda’r opsiwn i godi arian: ap AM
Awgrymiadau
- Ystyried darlledu ‘fel tasai’n fyw’ os ydyn am ddenu cynulleidfa ‘go iawn’ hefyd.
- Os am ffilmio digwyddiad cyfan, bydd angen digon o ffonau symudol llawn batri, creu lle yn y teclyn o flaen llaw, ac ystyried cwestiynau ymarferol – a fyddai treipod yn well na dal ffôn lan am oriau?
- Ystyried creu cynnwys ‘y tu ôl i’r llen’ fydd yn wahanol i’r prif adloniant.
- Rhywbeth byr fydd y bobol adre ishe’i weld.
Dod Ynghyd
Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.