Cwrdd ar-lein a chwrdd wyneb yn wyneb: pethau bach i’w cofio

Canllaw ar gyfer defnyddio Zoom, ac ar gyfer crynhoi pobol leol i unrhyw fath o sgwrs

Lowri Jones
gan Lowri Jones
Cyfarfod Zoom

Er ein bod yn colli rhai pethau wrth ‘ddod ynghyd’ ar sgrîn, mae rhai manteision hefyd. Mae’n ffordd dda o gynnal sgyrsiau gyda phobol sy’n byw yn bell, ac mae’n gallu bod yn ddefnyddiol os chi eisiau cadw cyfarfod yn fyr!

Mae sawl rhaglen (am ddim) ar gyfer cwrdd ar-lein, e.e. Zoom, Microsoft Teams a rhaglenni fideo-gynadledda eraill fel Google Hangout a Facebook Messenger.

Defnyddiwch yr un sydd fwya cyfleus i bawb yn eich grŵp.

Cwrdd ar-lein – beth sydd ei angen ar bawb:

  • cysylltiad â’r we
  • cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar

Wrth drefnu sgwrs Zoom:

  • Lawrlwythwch ap/rhaglen Zoom i’ch teclyn yn gyntaf (ond does dim angen i bawb arall wneud hyn.) O’r fan hyn, gallwch amserlenni sgwrs, a chael dolen i’w anfon at bawb o flaen llaw.
  • Peidiwch â rhannu’r ddolen yn gyhoeddus ar y we (e.e. mewn post Facebook). Dy’ch chi ddim am i bobol annymunol o’r tu fas darfu.
  • Codwch y ffôn gydag unrhyw un sy’n defnyddio Zoom am y tro cynta, i leddfu unrhyw bryderon.
  • Os nad oes gennych gyfrif ‘pro’ bydd eich sesiwn yn para 40 munud. Ond peidiwch â becso – os oeddech wedi amserlenni’r sesiwn o flaen llaw, gall pawb fynd mas a nôl mewn gan ddefnyddio’r un ddolen. Handi!

Yn ystod y sgwrs:

  • Byddwch chi am i bawb siarad, wrth gwrs… ond os hoffech chi atal synau cefndir rhag tarfu ar y dechrau, gallwch ‘dawelu’ pawb a gofyn iddyn nhw agor eu meic i siarad nes mlaen. Bydd yr opsiwn yn ymddangos mewn gwahanol fan ar wahanol declynnau – naill ai ar waelod y sgrin neu wrth sweipio draw.
  • Os hoffech chi rannu sgrîn i ddangos gwefan neu ddogfen, bydd angen i chi fod wedi agor y porwr neu ddogfen yn gyntaf.
  • Mae modd gadael i bobol eraill rannu sgrîn trwy newid eu hawliau yn ystod sgwrs.
  • Pwyswch ‘record’ os am gadw cofnod o’r sgwrs i fynd nôl ati, ond cofiwch holi caniatâd pawb gynta.
  • Holwch rywun i gadw nodiadau.
  • Os yw’r we yn wan gan rywun, gallan nhw droi eu fideo bant, a bydd hi’n haws iddyn nhw dal i wylio a chlywed y cyfan, yn ogystal â chyfrannu.
  • Fel mewn sgwrs arferol, ceisiwch gynnwys pawb (gan gynnwys y rhai â’u fideo bant) ac osgoi siarad ar draws eich gilydd.
  • Cymerwch nodyn o bwy sydd yno, a holi beth yw’r ffordd ora o gadw cysylltiad. Tip: Mae creu grŵp Whatsapp yn handi os yw pawb ar Whatsapp, felly cofiwch ofyn am rif ffôn pawb cyn gadael!

Er bod cwrdd ar-lein yn llai cymdeithasol, does dim byd yn eich stopio rhag trefnu bod pawb yn dod yno gyda phaned, potel o gwrw neu win cymun, yn barod i fwynhau yng nghwmni eich gilydd!

 

Cyn y sgwrs:

Mae’r pwyntiau bach yma’n handi ar gyfer trefnu cwrdd ar-lein ac wyneb yn wyneb…

  • Wrth ddewis dyddiad ac amser, mae’n well trefnu sgwrs ar ôl oriau gwaith. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ‘clash’ mawr hefyd (e.e. peidiwch â chynnal sgwrs yr un amser ag ymarfer y côr os ydych am i’r aelodau hynny ddod!)
  • Gwahodd nifer o bobol, gan rannu beth yw’r peth positif y gallan nhw fod yn rhan ohono. Mae’n well rhoi gwahoddiad i ormod o bobol.
  • Rhannu’r trefniadau ymarferol: pa raglen fydd y sgwrs ar-lein, neu a oes angen i bawb ddod â chadair ar gyfer cwrdd tu allan.

Pwy i’w gwahodd?

  • Arweinwyr mudiadau. Mae’r bobol yma wedi arfer trefnu digwyddiadau, gyda chysylltiadau defnyddiol, ac yn llawn syniadau!
  • Pobol busnesau bach lleol: maen nhw’n galon i’r gymuned.
  • Aelodau o’r cyngor cymuned. Yn llawn syniadau, yn gwybod beth arall sy mlaen, ac yn gallu bod yn ddefnyddiol os oes angen meddwl am ariannu’r digwyddiad.
  • Ieuenctid. Beth am roi gwahoddiad i aelodau’r CFfI lleol, neu i brif-ddisgyblion y 6ed dosbarth? Mae’n dda cael cymysgedd oedran wrth drafod syniadau.

Beth i’w wneud ar ôl y sgwrs?

  • Ewch ati i greu grŵp trafod er mwyn cadw cysylltiad yn hawdd e.e. Whatsapp, Messenger ac ati
  • Diolch i bawb am ymuno yn y sgwrs gyntaf, a rhannu unrhyw syniadau da
  • Trefnu amser i gwrdd eto, er mwyn symud ymlaen gyda’r cynlluniau cyffrous!

 

Dod Ynghyd

Mae’r arweiniad yma’n rhan o becyn Dod Ynghyd – canllaw arloesol a ddatblygwyd gan Prosiect Fory mewn ymateb i’r angen i helpu mudiadau, cymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau i ailfeddwl sut gallwn ‘ddod ynghyd’ yn y cyfnod wedi Covid.

Cyfarfod Zoom

Cwrdd ar-lein a chwrdd wyneb yn wyneb: pethau bach i’w cofio

Lowri Jones

Canllaw ar gyfer defnyddio Zoom, ac ar gyfer crynhoi pobol leol i unrhyw fath o sgwrs