O gryfhau cymunedau i leihau’r diffyg democrataidd; mae cynllun Bro360, a’r gwefannau bro yn Arfon a Cheredigion, eisoes yn gadael eu marc.
Mae’r gwefannau bro’n fwy na newyddion; maen nhw’n tynnu cymdogaethau at ei gilydd, ac yn hybu gweithgarwch Cymraeg y cymunedau – elfen hanfodol wrth anelu am filiwn o siaradwyr.
O’r dechrau, mae’r pwyslais wedi bod ar helpu pobol leol i weithredu, a thrwy hynny, datblygu arweinwyr yn lleol.
Gwerth y gwfennau bro
Yn yr ychydig fisoedd cyn Covid dangosodd y gwefannau eu gwerth, gyda blogiau byw, fideos, lluniau, a straeon yn dod â digwyddiadau’n fyw mewn ffordd newydd.
Roedd hynny’n rhoi cyfle i gyfranogwyr gydweithio’n greadigol a magu profiad… a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.
Ond yn ystod 2020, roedd y gwefannau yno i lenwi bwlch a chadw pobol ynghyd, wrth i bobol weld mwy o werth nag erioed yn y lle lleol…
??????? Y Gymraeg yn cyrraedd cynulleidfa ehangach ???????
Blogwyr, dysgwyr, a chyfranogwyr newydd yn cael yr hyder i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ’da nhw, fel Owain Williams a roddodd flas ar redeg mynydd ar Ogwen360, er ei fod yn arfer blogio’n Saesneg.
? Platfform i bobol leol rannu profiadau ?
Mae’r gwefannau bro yn lle i bawb rannu eu barn, ac mae llu o straeon wedi derbyn sylw gan gyfryngau cenedlaethol a’u rhannu’n eang – fel stori Hefin Richards a’i brofiad yn goresgyn Covid.
Profiad cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Tregaron o’r coronafeirws
? Mudiadau’n rhannu syniadau am sut i ddod ynghyd ?
… ac eisteddfod ddigidol gynta’r byd yng Nghapel-y-groes yn ysbrydoliaeth i’r Urdd fynd ati i gynnal Eisteddfod T.
Eisteddfod leol ddigidol gynta’r byd!
?? Meithrin gohebwyr ifanc ??
15 yn elwa o’r Cwrs Gohebwyr Ifanc: yn dysgu sgiliau, magu hyder, ac yn troi’n ohebwyr a golygyddion eu gwefan fro.
Dathlu gohebwyr ifanc newydd ein bröydd
? Busnesau bach y fro mewn un man ?
Datblygiad Y Farchnad yn cefnogi busnesau bach yn ystod cyfnod Covid, ac yn helpu pobol leol i ddod o hyd i gwmniau bychain a siopa’n lleol.
Lansio Y Farchnad: Busnesau bach eich bro mewn un man
? Sgyrsiau llawr gwlad i gynllunio cymdeithas y dyfodol ?
Galluogi cymdogaethau i ddychmygu’r dyfodol gorau posib wedi’r argyfwng, a’u helpu i weithredu, drwy Brosiect Fory…
Pwysigrwydd y Lle Lleol yn fwy nag erioed
?Gohebwyr lleol golwg360 yn llenwi’r bwlch democrataidd?
Yn rhoi gwedd leol i straeon newyddio cenedlaethol, ac yn dyrchafu straeon lleol. Yn debyg i’r stori hon, sy’n rhoi ymateb myfyrwraig o Ddyffryn Ogwen i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch rhoi cyllid ychwanegol i fyfyrwyr eleni.
“Mae hi’n bwysig cydnabod bod cymhwyso i’r her o addysgu ar-lein yn gostus”
? Camu i’r adwy i helpu’r papurau bro ?
33 papur bro ar draws Cymru yn manteisio ar y cyfle i gyhoeddi rhifynnau ar-lein yn sgil y pandemig…