Cant o rifynnau papur bro ar-lein yn ystod Covid

Nesaf, bydd Bro360 yn datblygu cyfleuster codi arian i’r papurau bro allu creu incwm.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’r 100fed rhifyn o bapurau bro wedi’i gyhoeddi ar-lein, ar wefan Bro360, ers dechrau’r Cyfnod Clo.

A nesa, bydd Bro360 yn datblygu cyfleuster codi arian i’r papurau bro allu ei ddefnyddio i greu incwm wrth gyhoeddi ar-lein.

Ymateb i’r angen

Ar ddechrau’r argyfwng, daeth hi’n amlwg y byddai papurau bro ledled y wlad yn ei chael hi’n anodd parhau i weithredu fel arfer. Felly, cynigiodd Bro360 y cyfle i holl bapurau bro Cymru gyhoeddi eu rhifynnau ar-lein, a hynny yn rhad ac am ddim.

Dyma Aled Davies o bapur bro Y Ffynnon yn Eifionnydd: “Mae’r datblygiad yma wedi golygu bod modd i’r Ffynnon barhau i gyhoeddi mewn cyfnod anodd. Mae pobol leol yn driw iawn i’r papur ac yn ei ystyried yn wasanaeth pwysig yn lleol, felly roedd cael y cynnig i gyhoeddi’r papur ar-lein yn ystod yr argyfwng yn help aruthrol.”

Mae cymaint o waith da wedi’i wneud gan bapurau bro ar hyd y degawdau, ond efallai nad ydyn nhw’n cael y bri haeddiannol ar lefel genedlaethol. Nawr, mae modd gweld rhifynnau digidol o dros 30 o bapurau bro Cymru mewn un man, a darllen eich papur lleol chi yn ogystal â busnesa ar be sy’ mlaen mewn ardaloedd eraill!

“Mae argyfwng Covid-19 wedi cael effaith ar bob agwedd o fywyd, ac wedi effeithio’n fawr ar gymunedau. Mae’r cyfnod wedi tanlinellu pwysigrwydd newyddion lleol felly aeth tîm Bro360 ati i gynnig llwyfan i’r papurau bro dros y Cyfnod Clo, ac mae’n amlwg bod y papurau bro a’u darllenwyr wedi gwerthfawrogi’r gwasanaeth yn fawr,” eglura Siân Powell, Pennaeth cwmni Golwg, sy’n arwain prosiect Bro360.

Sicrwydd ariannol

Yn ddiweddar, mae nifer o’r papurau wedi codi’r cwestiwn ynghylch sut gallan nhw barhau i gyhoeddi’n ddigidol yn gynaliadwy, ochr yn ochr â chyhoeddi rhifynnau print.

Felly mewn ymateb i hynny mae Bro360 yn datblygu cyfleuster codi arian, fydd yn galluogi’r papurau i gael sicrwydd ariannol wrth barhau i gyrraedd eu cynulleidfa ar-lein.

Ar ôl sgwrs Zoom fawr gyda chynrychiolwyr papurau bro Cymru i rannu syniadau, byddwn yn datblygu un o ddau opsiwn:

  • gallu derbyn cyfraniadau ariannol ad-hoc gan gefnogwyr
  • creu system aelodaeth, sy’n galluogi’r papur i godi tâl am ddarllen rhifynnau ar-lein

Mae’r opsiwn i barhau i roi mynediad am ddim i’r rhifynnau yn parhau hefyd.

Erbyn diwedd mis Medi, hoffai Bro360 gasglu barn y papurau ynghylch pa opsiwn yr hoffen nhw fynd amdani, cyn bwrw ati i ddatblygu. Os nad yw eich papur chi wedi ymateb eto – cofiwch wneud trwy ebostio lowrijones@golwg.com.

Os nad ydych wedi cyhoeddi eich papur chi ar-lein eto ond dymuno gwneud, dyma’r ddau gam i’w dilyn.

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)

Helfa Basg Fawr yr Amgueddfa

10:00, 29 Mawrth – 15:30, 1 Ebrill (£4 yr helfa)