Bro360 – y cynllun sydd “ddim yn brosiect papurau bro” yn cyhoeddi 20fed rhifyn ar-lein

Beth yn y byd yw ‘Bro360’?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Heddiw, cyhoeddodd yr 20fed papur bro yng Nghymru ei rifyn ar-lein!

(A dweud y gwir mae’r 21ain papur bro hefyd wedi cyhoeddi heddiw, ac wrth i mi sgwennu hwn mae un ymholiad newydd wedi dod gan bapur arall!)

Cafodd Bro360 – cynllun sy’n rhan o gwmni Golwg – y syniad ar ddechrau’r cyfnod rhyfedd yma y gallem helpu papurau bro a fyddai’n ei chael hi’n anodd parhau dros y misoedd nesaf.

Ymateb i’r galw

Aethom ati mewn deuddydd i greu platfform dros dro i bapurau bro allu creu eu ‘tudalen’ eu hunain, a gosod eu rhifynnau neu erthyglau unigol ar-lein ar Bro360.cymru.

Gyda help Heledd ap Gwynfor, Mentrau Iaith Cymru, a ddechreuodd ledu’r gair ymhlith swyddogion y papurau, buan iawn y gwnaethom sylweddoli bod galw mawr am y gwasanaeth yma.

Roedd tair wythnos yn ôl yn gyfnod tyngedfennol – roedd pwyllgorau’r papurau lleol yn dechrau cwrdd i drafod a fyddai modd iddyn nhw barhau o gwbwl yn wyneb y cyfyngiadau yr oedd y coronafeirws yn eu taflu atynt. Byddai nifer wedi methu cynnal y broses arferol o blygu a dosbarthu, a gallai’r gwasanaeth gwerthfawr ddod i ben, ar adeg pan fyddai’r galw am ddeunydd darllen lleol yn fwy nag erioed.

Felly ry’n ni’n falch o fod wedi cynnig platfform i dros 20 papur bro allu cyhoeddi ar-lein, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Llongyfarchiadau i bob un papur am fentro!

Bro360 – mwy na phapurau bro

Fel mae’n digwydd, estyniad i’n gwaith arferol yw cynnig platfform i bapurau bro gyhoeddi’n ddigidol!

Ers dros flwyddyn bellach mae Bro360 wedi bod yn gweithio gyda chymunedau yn ardal Arfon a gogledd Ceredigion (dwy ardal y prosiect peilot) i gyd-greu gwefannau straeon lleol newydd sbon.

Mae’r gwefannau’n seiliedig ar yr un egwyddor â’r papurau bro – sef mai cynnwys Cymraeg gan y bobol sy’n sail i’r cyfan. Mae’r criwiau lleol wedi perchnogi’r broses o greu eu gwefan ‘o sgratsh’, a’n gwaith ni fel tîm oedd eu harwain ar hyd y llwybr a’u helpu i ddarganfod y potensial sy’n cyfateb i anghenion eu cymuned leol.

Papur a gwefan fro – ai’r un pethau’n cystadlu ydynt?

Y prif wahaniaeth rhwng y gwefannau a’r papurau bro yw’r cyfryngau sydd ar gael.

Yn wahanol i brint, mae mwy na lluniau a thestun yn bosib ar y we, a does dim prinder lle! Does dim dyddiad cau chwaith, a gall rhywun hyrwyddo digwyddiad sy mlaen mewn wythnos ar y calendr digidol, er enghraifft, heb ofni na fydd yn cael ei gyhoeddi mewn pryd.

Mae’r gwefannau’n cynnig cyfle i greu straeon gwahanol – rhai sy’n defnyddio cyfryngau fideo neu sain, rhai sy’n annog sgwrsio byw trwy’r we, a rhai sy’n plethu’n agos â chyfryngau cymdeithasol poblogaidd.

Y cyfle perffaith i ddenu cyfranogwyr newydd (iau?) i greu straeon lleol yn Gymraeg, ar gyfrwng sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Ac mae’n gyfle hefyd i gymunedau ddefnyddio’r cyfryngau newydd i wneud gwahaniaeth yn lleol, yn gwmws fel mae’r papurau bro wedi’i wneud erioed.

6 gwefan fro yn fyw

Ry’n ni’n falch iawn bod ’na 6 gwefan fro wedi’u sefydlu erbyn hyn. Mae Clonc360 yn rhyw fath o ‘beilot cyn y peilot’! Mae gwefan fro Llanbed a’r cylch bellach yn 6 oed ac yn mynd o nerth i nerth – yn chwaer gyfeillgar i bapur bro Clonc – yn ategu ei gilydd yn hytrach na dyblygu straeon.

BroAber360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360 yw’r dair gwefan gynta i ni eu datblygu gyda thrigolion gogledd Ceredigion a’r ddau ddyffryn yn Arfon. Mae llu o bobol leol bellach wedi creu cyfrif ar eu gwefan a dechrau cyfrannu straeon difyr ac amrywiol. Ewch i gael golwg!

A’r ddau gyw ifanca’ yw Caernarfon360 a BroWyddfa360. Sefydlwyd y gwasanaethau hyn *jest* cyn i ni gael ein taro gan Covid-19! Ac maent yn pryfio’n araf bach wrth i’r criwiau lleol ddechrau darganfod y potensial.

Beth nesa?

Prosiect peilot yw Bro360, sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2022. Ry’n ni wedi arbrofi wrth greu’r gwefannau, ac am barhau i arbrofi wrth symud ymlaen i’r ddwy ardal sy’n weddill, sef Tregaron a Bangor.

Ac wedi hynny, pwy ag ŵyr? Os yw’r rhwydwaith ry’n ni wedi dechrau ei chreu yn llwyddiant a bod ardaloedd eraill am fanteisio arni, ein gobaith yw y bydd modd i ni wneud hynny, er mwyn helpu i ddefnyddio’r cyfryngau newydd i wneud gwahaniaeth i’ch bro chi hefyd.