Pwysigrwydd y Lle Lleol yn fwy nag erioed

Trafod Fory Heddi: datgelu’r thema fawr sydd wedi codi yn sgyrsiau llawr gwlad Prosiect Fory

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Sut mae adeiladu cymdeithas wedi Covid? Trwy ddechrau gyda’r ‘lle lleol’.

Pwy sydd â’r grym i wella ein heconomi, ein hamgylchedd, ein hiaith a’n cymdeithas? Ni’n hunain.

Pryd bydd pethau’n newid? Mae sgyrsiau Prosiect Fory yn newid pethau’n barod.

Dyna rai o’r pethau gafodd eu datgelu yn narllediad ‘Trafod Fory Heddi’ yn ddiweddar – darllediad i ddechrau rhannu’r pryderon a’r gobeithion sydd wedi codi yn ystod sgyrsiau Prosiect Fory dros y misoedd diwethaf.

Yr hyn sydd wedi codi dro ar ôl tro yn y 25+ o sgyrsiau llawr gwlad, yw pwysigrwydd y lle lleol.

Yn lleol y mae darganfod anghenion ein cymdeithas. Yn lleol y mae’r atebion a’r syniadau ar gyfer gwella pethau ar ôl yr argyfwng.

Dim ond un ‘consensws’

Dim dod i gonsensws, o reidrwydd, oedd nod y sgyrsiau llawr gwlad yma. Mae cymdeithas yn gymhleth ac mae sawl ffordd wahanol o fynd ati i’w hadeiladu – mae gan bawb eu syniadau. Ond roedd un peth yn gyffredin i bob rhan o bob sgwrs, sef y gwerthfawrogiad o’r newydd o’r lle lleol fel y man cychwyn ar gyfer adeiladu cymdeithas.

Oedd hynny am ei bod yn haws i bobol gael effaith wrth weithredu yn eu hardal leol? Neu am fod anghenion a photensial ein hardal leol yn fwy amlwg i ni? Neu am fod ein cymunedau’n ficrocosm o’n cenedl? Efallai mai cyfuniad o’r rhain yw’r rhesymau.

Ar wahân i’r sylweddoliad yma, mae’r sgyrsiau ynddyn nhw eu hunain wedi gwneud gwahaniaeth…

“Dim beth mae twristiaid ishe gweld…”

Mae Lyndsey Thomas yn un o’r rhai gymerodd ran yn sgwrs Prosiect Fory Llandysul: “Dim beth mae twristiaid ishe gweld, ond beth y’n ni’n moyn” meddai. “Achos ni sydd ’ma o Ionawr i Ragfyr – ni sy’n byw, ni sy’n prynu, ni sy’n cefnogi… mae’r syniadau eisoes wedi dechrau llifo, so ma ishe i ni gydio yn y cyfle.”

Mae Lyndsey a’r criw wedi gweld bod ganddyn nhw’r grym i newid pethau, ac os na wnawn nhw, pwy wnaiff?

Nid yn unig y mae’r criw am roi rhai o’r syniadau ar waith, ond mae Lyndsey ei hun wedi cymryd un cam yn barod: cynigiodd ei henw i fod yn aelod o’r Cyngor Cymuned, am iddi gael yr hyder a’r awydd i wneud, yn dilyn sgwrs Prosiect Fory.

Darganfod y potensial sydd gan y fro

“Sgwrs onest a chreadigol iawn, oedd yn llesol ac yn iachaol ar yr un pryd.” Dyna farn Meleri Davies am y profiad gafodd criw Dyffryn Ogwen.

Roedd y sgwrs wedi helpu’r gymuned i weld cymaint o botensial sydd ganddi yn y fro: “ond roedd ’na sylweddoliad yna hefyd o gryfder ein cymuned ni – nid jest y stwff traddodiadol, diwylliannol, ond ein cryfder ni o ran arloesi mewn meysydd sydd ddim yn draddodiadol i ni fel Cymry Cymraeg”.

Mae Meleri a’r criw am adeiladu ar y gwaith da sy’n cael ei wneud gan Bartneriaeth Ogwen a mentrau eraill i ddatblygu syniadau newydd ar sail y dyheadau.

Cefn gwlad yn fwy nag amaeth

Drwy’r sgyrsiau daeth Cennydd Jones, Pontsian, i weld fod eisiau i’r Clybiau Ffermwyr Ifanc drafod holl anghenion cefn gwlad (dim amaethyddiaeth yn unig) gyda gwleidyddion Caerdydd. Ac un o’r camau cyntaf yw taclo unigrwydd…

Dim ond y dechrau yw hyn

Er bod dros 25 o sgyrsiau Prosiect Fory wedi’u cynnal dros y misoedd diwethaf, dim ond dechrau yw hynny. Er mwyn grymuso mwy a mwy o gymunedau i siapio dyfodol eu cymdeithas, a chryfhau’r dystiolaeth, mae angen rhaeadru’r sgyrsiau ymhellach.

Dyma’ch gwahodd i chi gynnal sgwrs Prosiect Fory gyda’ch cymdogion, cyfeillion neu glwb. Gall unrhyw un fynd ati! Dilynwch y canllaw syml yma i holi’r 3 chwestiwn hollbwysig:

  1. Ble’r oedden ni cyn ymyrraeth y feirws?
  2. Beth yw’r gwaethaf all ddigwydd wedi i’r argyfwng glirio?
  3. Beth yw’r dyfodol gorau posib? Pa gyfleoedd mae’r ymyrraeth yn eu gwneud yn bosibilrwydd?

Gyda’n gilydd, gallwn greu ein Senedd Cefn Gwlad ein hunain!

Cysylltwch os oes angen unrhyw arweiniad arnoch: lowrijones@golwg.com.

Gwylio darllediad Trafod Fory Heddi

Gallwch wylio’r darllediad yn ei gyfanrwydd yma – dyma Beti George yng nghwmni Lyndsey Thomas, Cennydd Jones, Meleri Davies, Heledd Gwyndaf a Lowri Fron:

 

 

Roedd Trafod Heddi Fory yn gynhyrchiad gan Prosiect Fory, ac yn cael ei darlledu’n rhan o arlwy Gŵyl yr Enfys yng Ngheredigion ddiwedd mis Medi 2020.

Pwy yw Prosiect Fory?

Ni yw Prosiect Fory – bawb sydd am fod yn rhan o’r symudiad tuag at y dyfodol.

Mae’r fenter yn cael ei harwain gan bartneriaeth rhwng Radio Beca a Bro360. Nod y ddau yw rhoi’r grym i bobol siapio cymdeithas trwy ysgogi trafodaeth am syniadau, a galluogi darlledu’r syniadau hynny er mwyn eu rhannu’n eang.

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Ar Lafar -Digwyddiad i oedolion sy’n dysgu Cymraeg

10:00, 20 Ebrill (Mynediad am ddim. (mae rhai gweithgareddau yn talwch beth allwch chi))

Eisteddfod Gadeiriol Y Ffor

12:00, 20 Ebrill (Prynhawn a hwyr: Oedolion £3.00 Plant 50c. Tocyn dydd £5.00)