Gwefannau bro: yn gyfrwng i wneud gwahaniaeth

Pen-blwydd hapus yn un oed i’r tair gwefan gyntaf i gael eu creu dan adain Bro360!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Pen-blwydd hapus yn un oed i’r tair gwefan gyntaf i gael eu creu dan adain Bro360!

I ddathlu’r garreg filltir, dyma godi cwr y llen ar y gwahanol ffyrdd y mae pobol wedi gwneud gwahaniaeth i gymdeithas ac i’w cymdogaeth, trwy gyfrwng eu gwefan fro…

Gwneud gwahaniaeth… y 10 uchaf!

(nid mewn unrhyw drefn!)

1. Helpu elusennau… a’r Gymraeg!

Er gwaethaf cyfyngiadau’r Cyfnod Clo, mae pobol wedi parhau i weithredu er budd eraill. Mae’r gwefannau bro wedi bod yn drwch o hanesion clybiau ac unigolion yn codi arian i elusennau dros y misoedd diwethaf.

Ni chafodd neb fwy o sylw na Rhythwyn Evans – gŵr 91 oed o Silian ger Llanbed osododd her i’w hunan i gerdded rownd y tŷ 91 o weithiau ar ddiwrnod ei ben-blwydd. Nid yn unig oedd e wedi llwyddo i godi dros £50,000 i’r GIG, ond achosodd ei boblogrwydd i JustGiving drydar yn Gymraeg! Dechreuodd y cyfan ar Clonc360

Rhythwyn yn codi arian mawr a justgiving yn trydar yn Gymraeg

Llwyddwyd i gerdded o gwmpas y tŷ 91 o weithiau ac yntau yn 91 oed.

 

2. Rhannu syniadau ‘dod ynghyd’

Pwy ag ŵyr faint o bethau gwych sydd wedi’u gwireddu ar ôl gweld syniad gan rywun arall? Wrth addasu i’r argyfwng, mae pobol oedd yn arfer dod ynghyd mewn neuaddau, festrïoedd a thafarndai wedi gorfod troi at y we er mwyn cynnal yr angen sydd ynom fel cymdeithas i ddod ynghyd.

Un o nifer sydd wedi cynnig syniad, tips ac ysbrydoliaeth yw Gethin Griffiths, gyda ‘Dim cwis dafarn? Dim problem?’ ar Caernarfon360.

Dim Cwis Dafarn? Dim Problem.

Byddwch yn greadigol yn y cyfnod od ‘ma.

 

3. Llenwi’r bwlch democrataidd

Mae pandemig byd-eang wedi agor ein llygaid i’r ffordd y mae gwledydd gwahanol yn ymateb yn wahanol i ddiogelu eu pobol. Ac mae tipyn o sôn am y lles y mae’r gwahaniaethau rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan wedi’i wneud i ddealltwriaeth pobol o ddatganoli.

Mae’r gwefannau bro wedi chwarae eu rhan yn amlygu pwysigrwydd gwleidyddiaeth leol, yn enwedig wrth i Gynghorau Sir ddatblygu ffyrdd unigryw o weithredu. Mae Lloyd Warburton yn un sydd wedi cyfrannu, trwy ddadansoddi ystadegau Covid Ceredigion, ar BroAber360.

COVID-19: Y Sefyllfa yng Ngheredigion (09/06)

Chweched erthygl wythnosol gan Lloyd Warburton yn trafod sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

 

4. Hyrwyddo menter yr ifanc

Wrth i ni weld twf yn y gwerthfawrogiad o’r lle lleol yn ystod yr argyfwng, mae mwyfwy o bobol wedi ailddarganfod busnesau bach a dechrau prynu cynnyrch lleol.

Mewn ymateb cadarnhaol i heriau’r cyfnod, mae dau deulu yn ardal Llanbed wedi mentro, a dechrau busnes gwerthu llaeth yn syth o’r fferm. Cennydd Jones greodd bodlediad ar Clonc360 er mwyn rhannu stori’r bobol ifanc ac ymchwilio i’r newid yn ymddygiad cymdeithas.

Llaeth lleol o’r fuwch i’r ford frecwast

Podcast cynnyrch lleol gan Cennydd.

 

5. Sylw haeddiannol i newyddion lleol

Os yw cwmni enwog yn cau yng Nghymru, mae’n newyddion mawr. Ond os yw busnes sy’n cyflogi 94 o bobol ym mhentref Penygroes yn cau yn ddirybudd, mae hynny’n newyddion enfawr i bobol y fro.

Gan fod lluniau’n gallu adrodd cyfrolau, un o’r hogia’ lleol, Hedydd Ioan, aeth â’i gamera i gofnodi protest cau ffatri Northwood ar gyfer DyffrynNantlle360.

Protest Cadw Northwood

Na i gau Northwood yn Mhenygroes

 

6. Codi llais

“Twll o le yw Tregaron i gynnal Eisteddfod!” Myth yw hynny, wrth gwrs, meddai disgyblion Ysgol Henry Richard! Trwy gyfrwng hiwmor cefn gwlad, llwyddodd Megan a Zara i chwalu pob rhagfarn am eu bro gyda fideo ar Caron360.

Ac nid nhw yw’r unig rai i ddefnyddio eu gwefan i godi llais am bethau sy’n bwysig yn lleol ond na fyddai, o reidrwydd, yn cael sylw gan y cyfryngau canolog: o ymbil am lai o sbwriel ar y stryd, i wylltio gydag ymgyrch ‘dim cig’, i gwestiynu datblygiad tai… mae pawb â’i farn.

Tregaron. Twll o le? 

Tregaron. Cartref Eisteddfod 2020…i fod. Dewch ar daith o gwmpas y dref gyda Megan a Zara i chwalu’r ddelwedd ddwl taw “twll o le yw Tregaron i gynnal Eisteddfod.” 

 

7. Datgelu gwerth mudiadau

Mae cyfraniad a gwerth clybiau chwaraeon, corau a phartïon, canghennau Merched y Wawr, clybiau ieuenctid ac ati i gymdeithas yn amlwg i bawb sy’n cymryd rhan.

Ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae CFfI Ceredigion wedi defnyddio’r gwefannau bro yn gyfrwng i festyn mas, a lledu gwaith da y mudiad i glustiau a llygaid newydd. Ar ben hynny, mae’r blogiau byw o gystadlaethau drama, rali ac eisteddfod sirol wedi rhoi’r cyfle i ddegau o aelodau gydweithio, magu hyder a gweithredu’n greadigol.

BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob …

 

8. Mwy yn creu yn y Gymraeg

Ydy, mae Bro360 yn gallu brolio bod ‘na bobol wedi creu straeon Cymraeg ar eu gwefan fro na fyddai fel arfer yn sgwennu yn iaith y nefoedd.

Blogio’n Saesneg fyddai Owain Williams yn ei wneud fel rheol, ond cafodd yr hyder i greu blog ‘Wiwar Mynydd’ am y profiad o redeg copaon Eryri ar gyfer Ogwen360. Mae’n creu darlun ysbrydoledig gyda’i ddawn trin geiriau.

Wiwar Mynydd

Blas ar redeg mynydd yn Nyffryn Ogwen.

 

9. Rhoi llwyfan i hanes lleol

Wrth ein traed mae dechrau. Ac mae hynny’n sicr yn wir gyda hanes. Wrth i’r galw gynyddu ar i’r cwricwlwm roi mwy o bwys ar hanes Cymru, mae rhai pobol ifanc wedi mynd cam ymhellach, trwy adrodd straeon pobol leol yn ein hanes a’u rhannu ar eu gwefan fro.

Mae cyfraniadau Elin Nant ar BroWyddfa360 ac Aled Morgan Hughes ar wefannau Ceredigion, gyda’u hanesion am effaith Ffliw Sbaen ar eu cymunedau ganrif yn ôl, yn rhoi cyfle amhrisiadwy i ninnau heddiw ddysgu o’n gorffennol.

Pandemig y Russian Flu a’i effaith ar bentrefi’r chwareli

Astudiaeth o ganlyniad y pla ‘Influenza’ ar bentrefi Dyffryn Peris.

 

10. Cynllunio dyfodol cymdeithas… o’r gwaelod lan

Dros yr haf mae sgyrsiau digidol wedi’u cynnal mewn llu o fröydd, i drafod 3 chwestiwn: Sut beth oedd ein bywyd cyn Covid? Beth yw’r dyfodol gwaethaf posib? Beth yw’r dyfodol gorau y gallwn ei ddychmygu?

Wrth ddadansoddi sgyrsiau cychwynnol ‘Prosiect Fory’ daeth hi’n amlwg bod un thema’n codi’i phen ym mhob elfen o bob sgwrs: gwerthfawrogiad o’r newydd o’r lle lleol. Lleisiau llawr gwlad sy’n dweud hynny. Mae eu syniadau’n werth eu clywed, ac mae’r sgyrsiau ynddyn nhw eu hunain wedi gwneud gwahaniaeth: yn grymuso pobol i siapio ein dyfodol ein hunain.

Pwysigrwydd y Lle Lleol yn fwy nag erioed

Trafod Fory Heddi: datgelu’r thema fawr sydd wedi codi yn sgyrsiau llawr gwlad Prosiect Fory

 

Straeon sy’n gwneud gwahaniaeth dro ar ôl tro:

  • Crynodeb o gofnodion cynghorau tref a chymuned
  • Fideos uchafbwyntiau gemau chwaraeon lleol
  • Straeon cadarnhaol am newyddion busnes
  • Adroddiadau o’r mart a’r sêls da byw
  • Teyrngedau i gofio am bobol leol a’u dylanwad

Dweud eich dweud