Pobol Dyffryn Nantlle yn dangos eu doniau yn ystod wythnos #EinBro

Edrych yn ôl ar wythnos brysur lansiad digidol DyffrynNantlle360.

Guto Jones
gan Guto Jones

Roedd DyffrynNantlle360 yn brysur iawn yn ystod wythnos gynta’r mis, wrth i’r wefan ddathlu #EinBro.

Roedd miloedd wedi gwylio’r fideos a grëwyd gan bobol y fro, a phobol oedd yn ymweld â’u gwefan leol am y tro cyntaf yn ymateb gam holi am fwy!

Wythnos o ddathlu gwefan leol yr ardal oedd #EinBro. Bu’n gyfle i bobol Dyffryn Nantlle greu pob math o gynnwys – yn fideos, cwis, erthyglau ac orielau. Dyma oedd y cyfle i arbrofi a dangos be sy’n bosib ar wefan fro newydd fel hon.

Y dydd Gwener oedd uchafbwynt y cyfan, wrth i ddim llai na naw fideo amrywiol gael eu rhyddhau ar gyfryngau DyffrynNantlle360 – o hanes i gig, o gwis i sesiwn goginio – roedd rhywbeth at ddant pawb!

Beth ydy DyffrynNantlle360?

Pwy well i ateb y cwestiwn hynny na’r bobol sy’n berchen ar y wefan? Sef pobol y Dyffryn eu hunain – chi!

Dyma fideo fach i esbonio mwy:

DyffrynNantlle360 – ein lle ni ar y we

Sgen ti stori?Ymuna â'n lle ni ar y we – DyffrynNantlle360.cymru!Llunia, fideos, blogs a mwy… ymuna â dy wefan fro heddiw!

Posted by DyffrynNantlle360 on Monday, 1 June 2020

 

Efallai i chi sylwi bod y bobol ifanc yn y fideo’n sôn am ‘ein gwefan ni’ – pobol Dyffryn Nantlle. Pobol Dyffryn Nantlle sy’n creu’r cynnwys er mwyn rhoi sylw i’r pethau sydd yn bwysig yn y filltir sgwâr. Felly os ydych chi’n dod o’r Dyffryn – mae’n wefan i chi!

Mae modd creu pob math o bethau’n bosib ar DyffrynNantlle360, gan gynnwys fideos, traciau sain, ac oriel luniau. Wrth greu’r pethau yma, byddwch yn sicrhau gwefan fro fywiog i’r ardal. Yr oll sydd angen ei wneud cyn cychwyn yw ymuno neu fewngofnodi, ac yna pwyso’r botwm Creu.

Cyfle i edrych yn ôl

Cawsom gyfle i edrych yn ôl ar rai o brif straeon y flwyddyn yn ystod wythnos #EinBro hefyd.

Er bod hon wedi bod yn wythnos llawn bwrlwm a chynnwys newydd ar y wefan, rhaid cofio bod sawl stori ddiddorol wedi cael eu creu trwy gydol 2020. Cymrwch olwg ar yr edefyn yma er mwyn gweld rhai o brif straeon y flwyddyn hyd yn hyn:

Cydweithio yn bwysig

O achos cyfyngiadau’r coronafeirws, nid oes modd i bapurau bro ddosbarthu copïau print i’r siopau ar hyn o bryd.

Ond, fel sawl cymdeithas a mudiad arall, mae criw papur bro Lleu wedi addasu dros dro ac wedi bod yn rhyddhau’r rhifynnau diweddar yn ddigidol ar DyffrynNantlle360.cymru, a rhoddwyd sylw i hyn ar ddydd Mercher wythnos #EinBro.

Gall y papurau bro a’r gwefannau bro newydd yma helpu ei gilydd a chydweithio mewn sawl ffordd. Dyma un enghraifft o hynny. Cymerwch olwg ar rifyn mis Mehefin o Lleu:

Pobol Dyffryn Nantlle yn dangos eu doniau yn ystod wythnos #EinBro

Edrych yn ôl ar wythnos brysur lansiad digidol DyffrynNantlle360.

Diwrnod o weithgareddau

Daeth uchafbwynt yr wythnos ar ddydd Gwener, Mehefin y 5ed, wrth i naw fideo wedi eu creu gan bobol Dyffryn Nantlle gael eu rhyddhau.

Yr oedd y fideos yma’n hynod o amrywiol, ac yn enghraifft wych o fwrlwm yr ardal.

Cafwyd gwers goginio gan Cacennau Meinir, hanes cynllun sychu’r Dyffryn gan John Dilwyn, a gwers tynnu lluniau Rala Rwdins gan Angharad Tomos, dim ond i enwi rhai.

Dyma fideo gan yr artist ifanc, Lleucu Non sydd yn dangos i ni sut mae hi’n mynd ati i animeiddio. Gallwch wylio pob fideo o’r diwrnod prysur yma!

Sesiwn gelf – Lleucu Non

Lleucu Non, yr atrist ifanc, yn dangos sut i greu animeiddiad! Dilynwch Lleucu ar instagram – @lleucunon

Posted by DyffrynNantlle360 on Friday, 5 June 2020

Sylw i DyffrynNantlle360

Yr oedd yr wythnos yn un lwyddiannus dros ben, gyda DyffrynNantlle360 yn dal sylw’r fro, a’r bobol leol yn ymuno yn y prysurdeb.

Plant Dyffryn Nantlle wedi mwynhau fideo Angharad Tomos
Rhywun o dîm Bro360 wedi bod yn ymarfer ei sgiliau hefyd!

Cyrhaeddodd y fideos dros 20,000 o bobol, a gwelwyd y nifer dilynwyr tudalen Facebook DyffrynNantlle360 yn dyblu. Diolch yn fawr iawn i bawb aeth ati i greu!

Cafwyd sawl sylwad ar fideos #EinBro, yn brolio talentau pobol Dyffryn Nantlle, ac yn dweud beth arall y hoffent ei weld ar y wefan.

Mae hanes y fro i’w weld yn bwnc poblogaidd iawn, gyda sawl person yn holi am fideos tebyg, sydd yn adrodd hanes unigryw Dyffryn Nantlle – hanes tafarndai’r ardal oedd un awgrym, gyda rhywun arall yn holi am hanes storm 1935.

Beth hoffech chi ei weld ar eich gwefan leol chi? Cerwch ati i greu, a chysylltwch am fwy o wybodaeth.