Cyfnod Pontio rhwng oes print a’r oes digidol – profiad Bro360

Ambell enghraifft o sut mae gwefannau bro a phapurau bro yn ategu a chefnogi ei gilydd

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae twf aruthrol yn y defnydd o gyfryngau digidol, ac mae print yn gwanhau ar hyd a lled y wlad wrth i fwyfwy gael eu newyddion o’r sgrîn.

Ond, dydyn ni’n sicr heb gyrraedd diwedd ‘oes print’ – ddim yn y Gymraeg, ta beth. Er bod gwerthiant copïau print wedi lleihau’n raddol dros y degawd diwethaf, mae nifer y papurau bro ar draws Cymru sy’n dal i gyhoeddi’n parhau’n iach.

Mae cyfnod y coronafeirws wedi dangos bod y galw’n dal yn gryf ymysg darllenwyr hefyd.

Ond mae’n anodd anwybyddu’r ffaith bod y cyfryngau digidol yn tyfu mewn poblogrwydd, ac mae’n bwysig bod y Gymraeg a’n cymunedau lleol yn manteisio ar y twf hwn. A nawr yw’r amser i wneud hynny.

Cyfnod pontio

Mae gwefannau straeon lleol Bro360 yn ymgais i gamu mewn i’r bwlch rhwng dau gyfnod – yr oes print a’r oes ddigidol. Rydym ni yng nghanol cyfnod pontio ar hyn o bryd, lle mae’r ddau gyfrwng yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd.

Gyda phrofiad rhyw 6 mis o helpu tair cymuned (Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a gogledd Ceredigion) i greu a chynnal eu gwefannau straeon lleol newydd, a 6 mlynedd o gydweithio agos rhwng Clonc360 (y wefan straeon lleol gyntaf!) a chwmni Golwg, mae’n gyfle i ni rannu ambell enghraifft o sut gall gwefan fro a phapurau bro ategu a chefnogi ei gilydd.

 

Enghreifftiau o bapurau a gwefannau bro yn ategu a chefnogi ei gilydd

1. Cyhoeddi pwt o stori o’r papur ar y wefan

Mae Papur Pawb wedi defnyddio gwefan BroAber360 i gyhoeddi lluniau a stori a oedd yn torri ar y pryd am broblemau gyda system carthffosiaeth yn Nhal-y-bont. Roedd angen cyhoeddi’r stori a’r lluniau’n syth, ond roedd yr erthygl yn sôn y byddai mwy o fanylion am hyn yn rhifyn nesa’r papur bro.

Tal-y-bont

SYSTEM CARTHFFOSIAETH YN BROBLEM

Gwyn Jenkins

Problemau carthffosiaeth yn Nhal-y-bont

 

2. Peidio dyblu straeon

Mae gan Bro360 ddau Ysgogydd, a’u gwaith nhw yw galluogi pobol leol i greu straeon ar eu gwefan fro. Ond wrth fynd ati i dargedu, maent yn fwriadol yn ceisio annog cynnwys amlgyfrwng, na fyddai fel arall yn gallu ymddangos yn y papur bro print. Dyma syniad o’r cyfryngau hynny:

Maent hefyd yn mynd ar ôl deunydd a fyddai wedi dyddio erbyn dyddiad cyhoeddi’r papur.

Enghraifft berffaith o hynny yw fideos uchafbwyntiau gemau chwaraeon lleol. Mae fideos yn ffordd berffaith o ddenu cynnwys gan bobol ifanc, sy’n dab hand ar ddefnyddio’r ffôn yn eu poced.

Nantlle Vale vs Penrhyndeudraeth

Begw Elain

Nantlle Vale vs Penrhyndeudraeth Penrhyn oedd draw yng Nghae Maes Dulyn Dydd Sadwrn,gêm agos …

Ac enghraifft arall yw defnyddio traciau sain i rannu uchafbwyntiau Steddfod leol, gan adael cyfle yn y papur i adrodd am yr holl ganlyniadau.

Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen 2019

Caren Brown

Pob blwyddyn ym Methesda, cynhelir gŵyl arbennig yn yr ardal, sef Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn …

 

3. Cyhoeddi colofn o brif straeon y wefan yn y papur

Mae criw lleol Clonc360 yn paratoi colofn ar gyfer y papur, sy’n rhoi syniad o’r 4 prif stori ar y wefan fro yn ystod y mis diwethaf. Cyfle i atgoffa darllenwyr Clonc am y straeon amlgyfrwng sydd ar gael ar y wefan.

 

4. Cyhoeddi pwt i roi blas

Mae pobol ardal Llanbed yn disgwyl mlaen bob mis i weld pwy sy’n ateb cwestiynau’r ‘Cadwyn Cyfrinachau’ yn Clonc. Ac mae golygyddion y papur wedi darganfod ffordd dda o ddefnyddio’r golofn i hyrwyddo’r papur, sef cyhoeddi ambell un o’r cwestiynau ac atebion ar Clonc360 wrth i’r papur fynd i brint.

Os yw’r darllenwyr am ddysgu mwy am y person difyr dan sylw, rhaid iddyn nhw fynd mas i brynu’r papur!

Sdim pwynt gweud celwydd wrth Mam

Dylan Lewis

Mae testun ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn yn dangos parch mawr at ei rhieni.

 

5. Y cyfryngau cymdeithasol yn fan cychwyn

Yn aml, mae straeon lleol yn dechrau fel brawddeg neu lun ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gwefan fro yn gallu dangos posts Twitter perthnasol ar y Ffrwd Diweddaraf.

Mae’n ffordd rwydd o fanteisio ar y cyfryngau y mae pobol eisoes yn eu defnyddio i gyhoeddi, ac yn ffordd dda o roi sylw i newyddion sy’n torri.

 

Y dyfodol – print a digidol?

Ein nod gyda’r gwefannau bro yw aildanio cymdeithas â’r un egni a brwdfrydedd a welwyd yn y 70au a’r 80au pan grëwyd y papurau bro. Ond y cyfle fan hyn, yn 2020, yw defnyddio dulliau amlgyfrwng ac ar-y-funud y cyfryngau digidol poblogaidd i ddenu cyfranogwyr a darllenwyr/gwylwyr/gwrandawyr newydd.

Mae’r cryfder yn y cydweithio, ac rydym yn falch o fod wedi gallu camu i’r adwy gyda phrosiect ar wahân yn ystod cyfnod y coronafeirws, i roi platfform i bapurau bro Cymru gyhoeddi ar-lein dros dro, i’w helpu i beidio â cholli momentwm a darllenwyr.

Mae cydweithio â’r papurau bro wedi bod yn fan cychwyn cadarn ar gyfer y gwefannau sydd wedi’u creu eisoes, yng ngogledd Ceredigion, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Caernarfon a Bro Wyddfa.

Trwy fanteisio ar y cyfryngau digidol sy’n tyfu, a rhoi’r gallu i bobol leol newydd gyfrannu’n hawdd at eu gwefan fro, gallwn gyflawni’r canlynol:

  • cryfhau hunan-gred pobol
  • rhoi hwb i hyder pobol leol i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ’da nhw
  • gwella sgiliau digidol pobol o bob oed
  • adeiladu cyfrwng newydd gan-y-bobol sy’n epil perffaith i’r papurau bro sy’n dal i gyfrannu cymaint i’n cymunedau.