“Byddwch yn greadigol yn y cyfnod od ’ma” – a dyma sut!

Mae na sawl enghraifft o bobol yn bod yn greadigol i gynnal cymunedau yn y cyfnod rhyfedd yma…

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae addasu i fywyd sydd mor, mor wahanol i arfer yn job, ond yw e?

Ta ta (am y tro) i’r calendr llawn ymarferion côr, gemau rygbi a chyfarfodydd. Ta ta hefyd i’r cymdeithasu – wel, yn y ffordd draddodiadol, ta beth.

Ond addasu sy’n rhaid, am gyfnod o leia’. Ond fe fyddwch chi’n falch o wybod bod addasu ac ymdopi *yn bosib*, a bod modd cael sbort wrth wneud hynny – hyd yn oed mewn cyfnod fel hyn!

Dyma ambell enghraifft fach dda o bobol yn Arfon a Cheredigion (y ddwy ardal mae Bro360 yn gweithio ynddynt) yn bod yn greadigol er mwyn parhau i gadw’n gall yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Efallai bod ’na ambell syniad yma yr hoffech chi roi cynnig arnynt!

Gethin Griffiths aeth ati i gynnal cwis dafarn wahanol yr wythnos diwethaf yng Nghaernarfon:

Dim Cwis Dafarn? Dim Problem.

Gethin Griffiths

Byddwch yn greadigol yn y cyfnod od ‘ma.

 

Medi James sy’n gweld y pethau positif mewn bywyd, ac yn cofio’r gorffennol er mwyn ei helpu i ymdopi:

Gen i rhywbeth i’w ddweud

Medi James

Bywyd wrth geisio osgoi’r corona firws

 

Penderfynu defnyddio’r amser annisgwyl yma i ffwrdd o’r ysgol i sgwennu nofel wnaeth Lleucu Non!

Cysur mewn ysgrifennu

Gohebydd Golwg360

Ar ôl i arholiadau Lefel A Lleucu Non gael eu canslo mae hi wedi penderfynu ysgrifennu nofel.

 

Criw o Dal-y-bont welodd gyfle i fod yn greadigol wrth ddymuno pen-blwydd hapus i ddyn arbennig:

Canu o’r drysau yn Nhal-y-bont

Delyth Ifan

Wedi’u hysbrydoli gan yr Eidalwyr yn canu o’r balconïau, fe drefnodd trigolion un …

 

Ac mae mwy a mwy o bobol wedi cymryd at gyfryngau cymdeithasol i gynnal digwyddiadau ‘byw’ o’u cartrefi:

“Fi’n poeni bydda i’n colli rhywbeth!”

Lowri Jones

O’r canslo i’r cynnal – gallwn greu calendr o holl ddigwyddiadau Cymraeg y fro ddigidol newydd!

 

Mae criw o bobol wedi ymuno â grŵp Facebook Cer-o-na Feirws: ni’n neud y pethe positif hefyd… er  mwyn rhannu’r pethau sy’n rhoi gwên ar eu hwynebau yn y cyfnod anodd yma. Ymunwch, a chyfrannwch – pawb o Gymru ben baladr!

 

Cyfrannwch, a rhannwch!

Ydych chi wedi addasu mewn rhyw ffordd greadigol?

Oes gennych chi stori fach i’w rhannu, allai ysbrydoli eraill neu eu helpu i ymdopi?

Os ydych yn byw yng ngogledd Ceredigion, ardal Llanbed neu Arfon, mae gwefan fro ar gael i chi rannu eich stori. Crëwch gyfri heddiw (y botwm ‘Ymuno) ar dop y sgrîn a dilyn y cyfarwyddiadau!