“Fi’n poeni bydda i’n colli rhywbeth!”

O’r canslo i’r cynnal – gallwn greu calendr o holl ddigwyddiadau Cymraeg y fro ddigidol newydd!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

“Fi’n poeni bydda i’n colli rhywbeth!” Dyna glywes i neithiwr.

Nawr, ry’n ni i gyd wedi arfer â chlywed pobol yn dweud hyn yn ein bywyd *arferol* o ddydd i ddydd.

Mae colli mas ar ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol a’r cyfle i gymdeithasu yn no-no mawr i lawer ohono’ ni Gymry!

Ond mae FOMO (fear of missing out) newydd ar waith erbyn hyn. Wrth i gynifer o ddigwyddiadau ‘go iawn’ orfod cael eu canslo a’u gohirio am y dyfodol agos, a phawb yn wynebu nosweithiau a phenwythnosau hir heb ddim i’w wneud, mae rhai pobol arbennig wedi mynd ati i lenwi’r bwlch yn syth, a dechrau cynnal digwyddiadau ‘torfol’ yn ddigidol.

Achos, ‘ni Gymry yn dda am gadw’n brysur a bod yn greadigol!

Mae hwyl i’w gael

Neithiwr, bues i’n cymryd rhan mewn gwers glocsio fyw ar Facebook Live gan Alaw Griffiths, gan ddysgu’r shuffle yn fy slipers! Dwi wedi dangos diddordeb mewn ymuno â Dawnswyr Seithennyn ers i’r criw ddechrau dod ynghyd yn y hydre, ond wedi methu mynd bob tro.

Ac yna buon ni’n mwynhau gig byw gan Lleuwen o’i atig yn Llydaw, gyda dros gant o bobol eraill oedd yn chwilio am rywbeth i’w wneud.

Heno, bydda i’n cymryd rhan mewn ymarfer canu gyda chriw ‘Soar Bach’ o Dregaron, a hynny trwy ap zoom. (Falle newn ni ei ddarlledu – gewn ni weld shwt siâp fydd arno’ ni!) Ac yna bydda i’n cadw llygad ar bwy sy’n cael eu dewis yn Swyddogion newydd CFfI Ceredigion yn y cyhoeddiad ar Facebook Live y mudiad am 7.

Dangos y cyfan sy ’mlaen mewn un man

Felly, o’n i’n meddwl byddai’n dda cael ffordd o’n helpu ni i gyd i beidio colli mas!

Dyna’i gyd sydd angen i drefnwyr y digwyddiadau yma ei wneud yw creu digwyddiad Facebook arferol. Os wnewch chi ddewis @Bro360 fel cyd-drefnwr (co-host) eich digwyddiad, fe wnewn ni rannu rhestr o’r holl ddigwyddiadau gyda’i gilydd ar ein tudalen Facebook!

Rhannwch syniad am y calendr gydag eraill, a holwch iddynt ychwanegu eu digwyddiad.

A joiwch yr holl ddigwyddiadau digidol sy’n ein tynnu ni ynghyd!

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch

19 Ebrill – 20 Ebrill (Nos Wener £1.00 Prynhawn Sadwrn Oedolion £3.00 Plant Ysgol £1.00 Nos Sadwrn Oedolion £4.00 Plant Ysgol £1.00)

Six Inches of Soil – ffilm a thrafodaeth

19:00, 19 Ebrill (£3.50 i dalu costau: FFERMWYR A RHAI DAN 18oed AM DDIM)