Mae addasu i fywyd sydd mor, mor wahanol i arfer yn job, ond yw e?
Ta ta (am y tro) i’r calendr llawn ymarferion côr, gemau rygbi a chyfarfodydd. Ta ta hefyd i’r cymdeithasu – wel, yn y ffordd draddodiadol, ta beth.
Ond addasu sy’n rhaid, am gyfnod o leia’. Ond fe fyddwch chi’n falch o wybod bod addasu ac ymdopi *yn bosib*, a bod modd cael sbort wrth wneud hynny – hyd yn oed mewn cyfnod fel hyn!
Dyma ambell enghraifft fach dda o bobol yn Arfon a Cheredigion (y ddwy ardal mae Bro360 yn gweithio ynddynt) yn bod yn greadigol er mwyn parhau i gadw’n gall yn ystod cyfnod y coronafeirws.
Efallai bod ’na ambell syniad yma yr hoffech chi roi cynnig arnynt!
Gethin Griffiths aeth ati i gynnal cwis dafarn wahanol yr wythnos diwethaf yng Nghaernarfon:
Medi James sy’n gweld y pethau positif mewn bywyd, ac yn cofio’r gorffennol er mwyn ei helpu i ymdopi:
Penderfynu defnyddio’r amser annisgwyl yma i ffwrdd o’r ysgol i sgwennu nofel wnaeth Lleucu Non!
Cysur mewn ysgrifennu
Criw o Dal-y-bont welodd gyfle i fod yn greadigol wrth ddymuno pen-blwydd hapus i ddyn arbennig:
Canu o’r drysau yn Nhal-y-bont
Ac mae mwy a mwy o bobol wedi cymryd at gyfryngau cymdeithasol i gynnal digwyddiadau ‘byw’ o’u cartrefi:
“Fi’n poeni bydda i’n colli rhywbeth!”
Mae criw o bobol wedi ymuno â grŵp Facebook Cer-o-na Feirws: ni’n neud y pethe positif hefyd… er mwyn rhannu’r pethau sy’n rhoi gwên ar eu hwynebau yn y cyfnod anodd yma. Ymunwch, a chyfrannwch – pawb o Gymru ben baladr!
Cyfrannwch, a rhannwch!
Ydych chi wedi addasu mewn rhyw ffordd greadigol?
Oes gennych chi stori fach i’w rhannu, allai ysbrydoli eraill neu eu helpu i ymdopi?
Os ydych yn byw yng ngogledd Ceredigion, ardal Llanbed neu Arfon, mae gwefan fro ar gael i chi rannu eich stori. Crëwch gyfri heddiw (y botwm ‘Ymuno) ar dop y sgrîn a dilyn y cyfarwyddiadau!