#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

16:54

“Roeddwn wedi nodi yn fy nyddiadur ar ddydd Sul 12fed Awst i mi gysgu tan 11.30 o’r gloch. Dim ymarfer, dim dyletswydd, dim gwerthu Clonc na mynychu cyngherddau hwyr! Y cyfan drosodd. Ond mynd fu’n rhaid yn y prynhawn, nôl i’r Maes Carafanau – i gasglu sbwriel.”

Dyma’r olaf o atgofion Dylan Lewis o Eisteddfod Genedlaethol ’84, lle mae wedi ein tywys trwy uchafbwyntiau pob diwrnod o’r ŵyl.

#AtgofGen “Bwlch ni ddangosai lle bu”

Dylan Lewis

Teimlad o falchder a gwacter wedi wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

 

16:53

Papur Bro Clonc yn adrodd am fenyw yn sownd yng nghefn y Pafiliwn a honiadau am aflonyddu rhywiol – Eisteddfod 1984 –

#AtgofGen Dydd Sadwrn olaf y cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

Dylan Lewis

Papur Bro Clonc yn adrodd am fenyw yn sownd yng nghefn y Pafiliwn a honiadau am aflonyddu rhywiol.

16:52

“Ar gychwyn seremoni Cymru a’r Byd ar y Dydd Gwener, ymunodd rhwng pedwar a phum cant o ymgyrchwyr gwrth-niwclear ddwylo â’i gilydd gan amgylchynu’r Pafiliwn”

Mwy am ddydd Gwener Eisteddfod ’84 ar Clonc360 ?

#AtgofGen Ymgyrchwyr Gwrth-niwclear yn amgylchu’r Pafiliwn ar ddiwrnod Seremoni Cymru a’r Byd

Dylan Lewis

Uchafbwyntiau Dydd Gwener Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

 

13:02

Atgof plentyn mewn llun!

15:47

“Yn 2005 roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ar stepen ein drws yn y Faenol, a’r tair ohonom, Miriam, Ffion a finnau yn 25 oed, dyma benderfynu mai hwn fyddai ein ‘Steddfod gyntaf ar y maes carafanau yn hytrach ‘na gwersylla yn Maes B!”

Diolch i Siwan Tomos am hel atgofion o’r dyddiau da! Mwy ar DyffrynNantlle360 ?

 

Carafanio am y tro cyntaf!

Siwan Thomas

Atgof o Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005 #AtgofGen

 

15:44

“Dwi’n cofio nerfau cyn y cyfweliad yn yr ysgol Gymraeg. Ie, cyfweliad!”

Emsyl a Mali (James, gynt) sy’n cofio’r profiad o fod yn llawforwyn yn seremonïau’r wythnos a chymryd rhan yn sioe Digion y Dolffin!

Mwy ar BroAber360 ?

Llaw-forwynion-1

Eisteddfod Aberystwyth 1992

Medi James

Atgofion 28 mlynedd ers Eisteddfod Aberystwyth 1992

 

15:37

 

Roedd rhai pobol wedi datgan eu barn yn ddigon clir ym mhapur bro Clonc adeg Eisteddfod ’84.

Rhai yn galw cyfleusterau’r stiwdio gerdd yn “warthus” ac eraill yn anhapus iawn â’r ffordd y cafodd Côr yr Eisteddfod ei drin gan y Gerddorfa a’i harweinydd ar noson fawr y gyngerdd.

Mwy ar Clonc360 ?

#AtgofGen Dydd Iau siomedig yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

Dylan Lewis

4 ymgeisydd yn unig i’r gadair a cham i Gôr yr Eisteddfod ond enillydd lleol i Wobr Osborne Roberts.

15:33

Dyna ni (wel chi – mewn gwirionedd!) wedi llenwi’r we ag #AtgofGen heddiw. Diolch i bawb!

Sut brofiad oedd cofio’n ôl i’r adeg pan ddaeth yr Ŵyl Genedlaethol i’ch milltir sgwâr? Mwynhewch sgrolio lawr trwy’r holl atgofion.

Fe wnawn ni gadw’r ffrwd yma’n fyw am weddill y dydd, rhag ofn bod mwy ohonoch eisiau rhoi eich Steddfod Genedlaethol leol chi ar y map!

  • ymunwch â’ch gwefan fro a chreu pwt o stori/oriel (pobol Arfon a Cheredigion)
  • neu jest rhannwch lun neu atgof ar Facebook neu Twitter, gan gofio’r hashnod #AtgofGen

15:28

“Rhoddodd pawb eu wellingtons gadw heddiw gan fod y tywydd wedi gwella’n aruthrol yn Llanbed” medd Dylan Lewis ar Clonc360!

Streic y glöwyr a chwotâu llaeth yn cael sylw, a Geraint Howells yn dweud y dylem wrando ar yr ifanc – dydd Mercher Eisteddfod 1984

#AtgofGen Dydd Mercher braf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbed ond mwy o brotestio

Dylan Lewis

Streic y glowyr a Chwotâu llaeth yn cael sylw a Geraint Howells yn dweud y dylem wrando ar yr ifanc.

 

15:23

Yma, mae William Howells yn rhannu erthygl y diweddar W J Edwards ym mhapur bro Y Tincer, sy’n gofnod pwysig o ‘gynhaeaf’ Eisteddfod Genedlaethol 1982.

Mae yma sawl enghraifft o waddol yr ŵyl yn y fro.

Parch W J Edwards

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 4/4 #AtgofGen

William Howells

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 4