#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

14:02

Neu oes gennych gof plentyn o’ch gŵyl gyntaf, pan fuodd hi lawr yr hewl?

Cyfrannwch fel wnaeth Delyth!

 

14:01

Ydych chi’n cofio gweithio neu wirfoddoli ar stondin, pan ddaeth y Steddfod i’ch milltir sgwâr?

Rhannwch y profiadau a’r straeon gydag #AtgofGen heddiw!

 

14:00

Llun bach arall gan Ann Barlow. Diolch am gyfrannu trwy Twitter #AtgofGen!

 

13:58

Mwy o bobol yn cofio’r siop gafodd ei defnyddio fel swyddfa’r Eisteddfod

13:57

Pwt gan Bro360…

Oes gan eich ardal chi wefan fro?

Os ydych chi’n byw yn Arfon neu ran helaeth o Geredigion, yr ateb yw “oes”!

BroAber360 (gogledd Ceredigion) | BroWyddfa360 | Caernarfon360 | Caron360 (ardal Tregaron) | Clonc360 (ardal Llanbed) | DyffrynNantlle360 | Ogwen360

Eich gwefannau chi, y bobol leol, ydyn nhw.

Gallwch gyfrannu atgof o ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol eich bro, fel ry’n ni’n ei gasglu heddiw, neu gyfrannu stori, oriel luniau, fideo neu bodlediad am UNRHYW BETH DAN HAUL!

Sut?

  • Pwyso Ymuno neu Mewngofnodi
  • Ar ôl cadarnhau eich ebost, gwelwch y botwm ‘Creu‘ ar dop y sgrîn
  • Dewiswch ai fideo, oriel, trac sain neu stori arferol rydych am ei chreu
  • Ar ôl sgwennu pennawd a phwt a llwytho llun neu fideo, cyflwynwch y stori
  • Bydd eich tîm golygu lleol yn ei chyhoeddi whap!

13:49

Yn 1992, Cwmni Theatr Arad Goch oedd yn gyfrifol am gynhyrchu drama fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Roedd llawer mwy o fri a sylw (ac arian cynhyrchu) i’r Fedal Ddrama bryd hynny”

Mwy ar BroAber360 ?

Eisteddfod 1992 – Atgofion Cwmni Theatr Arad Goch

Arad Goch

Atgofion Cwmni Theatr Arad Goch o Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992

 

13:20

Heb weld atgof o ymweliad yr ŵyl â dy fro di?

Cyfranna!

Postia hen luniau neu atgofion ar Facebook neu Twitter gyda’r hashnod #AtgofGen cyn 3 heddiw!

13:03

Sioe gerdd TicToc, pabell lên ryfedd yr olwg (i gymharu â heddiw!), brodorion bro Aber gafodd eu hurddo i’r orsedd…

Dyna roi o’r lluniau o ddydd Lliun a Mawrth Eisteddfod Aberystwyth ’92 gan William Howells

 

12:50

Dyma luniau Casgliad y werin mewn un man

Dyma ein casgliad ni o #AtgofGen! Porwch drwy ein casgliad o gystadleuwyr a stondinwyr, beirdd a mascots, seremonïau a…

Posted by Casgliad y Werin Cymru on Sunday, 2 August 2020

 

12:40

Llun unigryw o’r Archdderwydd W J Gruffudd a’i gopi o rifyn Sadwrn olaf Clonc – cafodd rhifynnau o’r papur bro lleol eu cyhoeddi’n arbennig yn ystod wythnos Eisteddfod ’84 gan y criw lleol