#AtgofGen: cofio pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’ch bro

Ffrwd fawr fyw o’ch atgofion CHI!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ffrwd fawr fyw o’ch atgofion chi!

Ar ddydd Mercher 5 Awst 2020 rydym yn casglu ynghyd eich hen luniau, atgofion a straeon o pan ddaeth yr ŵyl genedlaethol i’ch milltir sgwâr.

Dyma’r ffrwd honno yn ei chyfanrwydd!

Bydd detholiad o’ch lluniau’n cael eu gyfrannu i Casgliad y Werin, fel bod cofnod o’ch atgofion yn cael ei gadw.

13:49

Yn 1992, Cwmni Theatr Arad Goch oedd yn gyfrifol am gynhyrchu drama fuddugol yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Roedd llawer mwy o fri a sylw (ac arian cynhyrchu) i’r Fedal Ddrama bryd hynny”

Mwy ar BroAber360 ?

Eisteddfod 1992 – Atgofion Cwmni Theatr Arad Goch

Arad Goch

Atgofion Cwmni Theatr Arad Goch o Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992

 

13:20

Heb weld atgof o ymweliad yr ŵyl â dy fro di?

Cyfranna!

Postia hen luniau neu atgofion ar Facebook neu Twitter gyda’r hashnod #AtgofGen cyn 3 heddiw!

13:03

Sioe gerdd TicToc, pabell lên ryfedd yr olwg (i gymharu â heddiw!), brodorion bro Aber gafodd eu hurddo i’r orsedd…

Dyna roi o’r lluniau o ddydd Lliun a Mawrth Eisteddfod Aberystwyth ’92 gan William Howells

 

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 2/4 #AtgofGen

William Howells

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth: Golwg yn ôl 2

12:50

Dyma luniau Casgliad y werin mewn un man

Dyma ein casgliad ni o #AtgofGen! Porwch drwy ein casgliad o gystadleuwyr a stondinwyr, beirdd a mascots, seremonïau a…

Posted by Casgliad y Werin Cymru on Sunday, 2 August 2020

 

12:40

Llun unigryw o’r Archdderwydd W J Gruffudd a’i gopi o rifyn Sadwrn olaf Clonc – cafodd rhifynnau o’r papur bro lleol eu cyhoeddi’n arbennig yn ystod wythnos Eisteddfod ’84 gan y criw lleol

12:40

Diolch Ann Barlow a Gwen Màiri am y lluniau a’r atgofion yma

12:28

Cofio ymweliadau o dramor yn 92

12:26

Profiad bythgofiadwy i Trefina Jones oedd cael ei hurddo i’r orsedd ar ymweliad yr ŵyl â stepen ei drws.

Ac mae’n cofio manylion y criw lleol fu’n smwddio!

“Roedd Mam a nifer o wragedd yr ardal gan gynnwys llawer o’m Antis o ran enw, os nad o ran perthynas, sef Anti Ann Bronwydd, Anti Eryl Gerlan ac Anti Beti’r Mans wedi bod yn rhan o’r fintai o wragedd lleol a fu’n smwddio gwisgoedd yr orsedd- gorchwyl go anodd!”

Mwy ar Clonc360 ?

#AtgofGen Urddo i’r Orsedd yn Llanbed

Trefina Jones

Profiad bythgofiadwy gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar drothwy’r drws.

 

Diolch Trefina. Oes gennych chi atgof o pan ddaeth y Steddfod Genedlaethol i’ch bro?

Rhannwch gyda’r hashnod #AtgofGen heddiw, cyn 3pm!

12:16

Mae Casgliad y Werin wedi bod yn twrio trwy’r archif ar gyfer #AtgofGen hefyd.

Dyma Gôr Genethod Llanberis yn Eisteddfod 1978. Oes rhywun yn cofio’r lleoliad?

 

Ewch ati i chwilio am hen luniau o ymweliadau'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru â'ch bro chi i lenwi'r we gydag #AtgofGen!…

Posted by Casgliad y Werin Cymru on Friday, 31 July 2020

 

12:14

Mae Enfys Medi yn dal i canu cytgan un o ganeuon Pasiant y Plant gyda Digion y Dolffin!

#atgofgen Steddfod Aber 92 – cymryd rhan yn Pasiant y Plant gyda Digion y Dolffin a joio'r profiad! Dwi dal yn gallu…

Posted by Enfys Medi on Wednesday, 5 August 2020

 

Diolch Enfys. Os hoffech chi gyfrannu – gwnewch fel wnaeth Enfys a rhannu pwt o atgof neu lun ar gyfryngau cymdeithasol, a chofio’r hashnod #AtgofGen!