Gwefannau straeon lleol gan bobol leol.
Bro360 yw cynllun Cwmni Golwg i annog cymunedau i greu a chynnal eu gwefannau straeon lleol eu hunain.
Mae’n rhwydwaith o wefannau sy’n codi o’r gwreiddiau, ac sy’n gartref i straeon lleol, wedi’u creu gan bobol leol.
Trwy’r platfformau hawdd-eu-defnyddio a gweithgarwch Bro360, nod y cynllun yw:
- hybu gweithgarwch ein cymunedau
- grymuso pobol a datblygu arweinwyr
- rhaeadru sgiliau
- manteisio ar ddatblygiadau’r byd digidol
- dyrchafu’r fro ddaearyddol
- annog mwy i greu yn y Gymraeg, gan helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr
- gwella’r diffyg democrataidd
- cryfhau’r economi leol
Yn ystod y prosiect peilot (2019 – 2022) gyda chefnogaeth y Rhaglen Datblygu Gwledig, datblygwyd 8 gwefan fro yn rhan o’r rhwydwaith – BangorFelin360, BroWyddfa360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen350 yn ardal Arfon, a BroAber360, Caron360 a Clonc360 yng Ngheredigion a gogledd Sir Gâr.
Wrth i ragor o ardaloedd ddangos diddordeb mewn ymuno, rydym yn gweithio â chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri i ymestyn y rhwydwaith.
Mae’n fwy na newyddion, ac mae’n fwy na phapur bro ar-lein – mae’n ddigwyddiadau, blogiau byw, fideos, sgyrsiau – amrywiaeth o gynnwys i apelio a gwneud gwahaniaeth i’r gymdogaeth.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein cwestiynau cyffredin.