Hanner Awr o Adloniant y Ffermwyr Ifanc

Mae Gwledd Adloniant Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi dychwelyd am y tro cyntaf ers 2020

Cadi Dafydd
gan Cadi Dafydd

Mae Gwledd Adloniant Ffermwyr Ifanc Cymru wedi dychwelyd am y tro cyntaf ers 2020 dros y penwythnos hwn.

Hanner Awr o Adloniant ydy’r arlwy eleni, a heddiw (Mawrth 5) bydd pump o glybiau’n cystadlu i ddod i’r brig yn y gystadleuaeth cyfrwng Cymraeg yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.

Dyma’r gystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant gyntaf ers 2019, gan ei bod hi’n cael ei chynnal am yn ail gyda’r ddrama a’r pantomeim.

Bydd golwg360 yno drwy’r dydd i’ch diweddaru ar fwrlwm y cystadlu.

18:08

Rhys Richards o Glwb Bodedern, Ynys Môn yn trafod sut deimlad ydy cael dychwelyd at y Wledd o Adloniant ar ôl cyfnod Covid.

Diwrnod yn yr Eisteddfod oedd testun perfformiad y clwb, a phopeth posib yn mynd o’i le.

Y cyflwynwyr teledu Syriol Sych a Llinos Llanast oedd yn ein tywys drwy ‘Helynt yr Eisteddfod’.

Yr Archdderwydd yn cael ei gloi mewn portalŵ, unawd triongl, a Merched y Wawr yn rhan o Ddawns y Blodau… Eisteddfod ddigon anarferol oedd un Rhys a’r criw.

17:30

Cenedl rydd annibynnol Pontsian yw testun adloniant clwb Pontsian, Ceredigion. 

Perfformiad yn cynnwys y llon a’r lleddf o sgript Dylan Iorwerth, yn llawn addasiadau o ganeuon Y Mab Darogan, wrth i’r weriniaeth newydd geisio canfod Arlywydd a glanhawr toiledau newydd.

“Roedd hwn yn humdingar eto,” medd Myfanwy Alexander am ‘Ie Pontsian’, gan roi canmoliaeth arbennig i Endaf Griffiths, Aelod Hŷn y Flwyddyn y mudiad eleni.

16:40

Taith i Awstria yw testun Hanner Awr o Adloniant Clwb Dyffryn Cothi, Sir Gâr.

Perfformiad llawn canu, yodelo, dawnsio, sgïo, dawns y glocsen, a hyd yn oed ychydig o ganu clychau. 

Roedd y clwb i gyd wedi cyfrannu tuag at y sgript, ond beth yw barn Myfanwy Alexander, y beirniad?

“Dyna ti sioe penigamp, wych arall.

“Roeddwn i eisiau dechrau drwy ddweud gair am y sgript, roedd y sgript yn teimlo fel eich bod chithau a’r sgript wedi plethu i fod yn un.

“Dw i ddim yn synnu eich bod chi wedi’i greu eich hunan, ac mae hyn yn her felly llongyfarchiadau.”

15:56

Elin Angharad, Elin Haf, Lliwen Jones a Catrin Jones, rhai o aelodau Clwb Bro Ddyfi, yn adlewyrchu ar eu perfformiad a’r broses o ddod ynghyd i greu’r Hanner Awr o Adloniant.

15:45

Megan Phillips, Cadeirydd Clwb Hermon, Sir Benfro yn trafod eu perfformiad.

15:19

Rhaglen siarad ddyddiol ydy testun Hanner Awr o Adloniant clwb Bro Ddyfi, sy’n cynrychioli Maldwyn eleni.

Mae rhaglen ffuglennol ‘Heddiw’r Bore’ yn chwarae ar y syniad o chat shows traddodiadol ac yn cynnwys casgliad bisâr o eitemau o ddawnswyr o Batagonia gafodd gam yn Eisteddfod Trelew i’r ‘Ddwy Dorth’ yn cyflwyno eitem goginio amgen.

14:48

Clwb Hermon, Sir Benfro sy’n agor y cystadlu yma ym Mangor.

‘Mynd i’r Sioe!’, wedi’i hysgrifennu gan Tomos Lewis, ydi testun eu Hanner Awr o Adloniant.

Digon o ddawnsio, canu, ffilm fer ac actio gan griw mawr a bywiog o gystadleuwyr wrth iddyn nhw bortreadu eu hymweliad â’r Sioe Frenhinol.

Myfanwy Alexander ydy beirniaid y gystadleuaeth eleni, ac wrth ddweud gair ar berfformiad Clwb Hermon dywedodd:

“Diolch o waelod fy nghalon i Glwb Hermon am ddechreuad mor dda.

“Mae yna deimlad arbennig y flwyddyn yma.

“Roeddwn i’n amheus na fyddai cystal hwyl yn gallu atyfodi ond yn amlwg dydy hynny ddim yn wir. Mae’r mudiad yn ôl ar ei draed.”