Mae Gwledd Adloniant Ffermwyr Ifanc Cymru wedi dychwelyd am y tro cyntaf ers 2020 dros y penwythnos hwn.
Hanner Awr o Adloniant ydy’r arlwy eleni, a heddiw (Mawrth 5) bydd pump o glybiau’n cystadlu i ddod i’r brig yn y gystadleuaeth cyfrwng Cymraeg yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.
Dyma’r gystadleuaeth Hanner Awr o Adloniant gyntaf ers 2019, gan ei bod hi’n cael ei chynnal am yn ail gyda’r ddrama a’r pantomeim.
Bydd golwg360 yno drwy’r dydd i’ch diweddaru ar fwrlwm y cystadlu.
Clwb Hermon, Sir Benfro sy’n agor y cystadlu yma ym Mangor.
‘Mynd i’r Sioe!’, wedi’i hysgrifennu gan Tomos Lewis, ydi testun eu Hanner Awr o Adloniant.
Digon o ddawnsio, canu, ffilm fer ac actio gan griw mawr a bywiog o gystadleuwyr wrth iddyn nhw bortreadu eu hymweliad â’r Sioe Frenhinol.
Myfanwy Alexander ydy beirniaid y gystadleuaeth eleni, ac wrth ddweud gair ar berfformiad Clwb Hermon dywedodd:
“Diolch o waelod fy nghalon i Glwb Hermon am ddechreuad mor dda.
“Mae yna deimlad arbennig y flwyddyn yma.
“Roeddwn i’n amheus na fyddai cystal hwyl yn gallu atyfodi ond yn amlwg dydy hynny ddim yn wir. Mae’r mudiad yn ôl ar ei draed.”